Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Astudiwch mewn ysgol seicoleg a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol sydd ag enw da am ragoriaeth.

Rydym yn cynnig dwy rhaglen BSc – ac mae’r ddwy yn cael eu cydnabod gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Mae’r radd Seicoleg tair blynedd, a’r radd Seicoleg gyda Lleoliad Proffesiynol pedair blynedd yn cynnig amgylchedd strwythuredig, cefnogol a chynhwysol, ac mae’r pynciau a dyluniad y cwrs yn cael eu llywio a’u cyflawni gan ymchwilwyr sy’n weithgar yn y maes.

Rydym yn cynnig y rhaglenni BSc canlynol:

Achrediad

Caiff eich cwrs israddedig ei achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Mae’r achrediad yn ddilys tan 2022, ac mae’n pwysleisio ymhellach ein henw da fel adran seicoleg blaenllaw yn y DU.

BPS Accredited

Cyflogadwyedd

Mae 92% o'n graddedigion mewn swydd a/neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio. Mae cryfder ein cwrs a’r addysgu yn galluogi myfyrwyr i ddod o hyd i swyddi proffesiynol neu ymgymryd ag astudiaethau pellach ar ôl graddio.