Cydymaith Clinigol Seicoleg Gymhwysol Hyd Oes Oedolion (CAAP-AL) (MSc)
Rolau newydd yng ngwasanaethau seicolegol y GIG yw’r Cymdeithion Clinigol Seicoleg Gymhwysol (CAAPs). Mae’r rolau yn llenwi bwlch sgiliau a ganfuwyd rhwng seicolegwyr cynorthwyol a seicolegwyr clinigol cymwysedig.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cael eu cyflogi yn y GIG ar sail Cydymaith CAAP dan hyfforddiant, gan ddysgu yn ymarferol ac yn astudio i gael y cymhwyster MSc CAAP-AL
Diben y rhaglen hon yw rhoi'r sgiliau angenrheidiol ichi fod yn Gydymaith CAAP er mwyn gwneud ymyraethau seicolegol o safon ar sail tystiolaeth i oedolion sy'n cael problemau iechyd meddwl. Byddwch yn dysgu am werthuso, asesu a llunio seicolegol yn ogystal ag ymyraethau sy'n deillio o ymchwil ac ymarfer seicolegol trylwyr.
A chithau’n Gydymaith CAAP, byddwch yn gallu ymarfer yn annibynnol gan roi’r cymorth priodol, gan weithio o fewn cwmpas eich ymarfer, a hynny o dan oruchwyliaeth Seicolegydd Ymarfer.
Mae gan y rhaglen weithle clinigol blwyddyn o hyd yn GIG Cymru. Ar y cyd â hyn, byddwch yn cwblhau modiwlau academaidd ar y theori y tu ôl i ymarfer clinigol, megis ymchwil glinigol, asesiadau a llunio gwerthusiadau seicolegol ac ymyraethau clinigol. Bydd rhai o'r modiwlau academaidd yn cael eu cynnal ar y campws a bydd rhai yn cael eu cyflwyno ar-lein.
Dysgwch ragor am rolau CAAP ar wefan GIG Cymru.
Strwythur y cwrs
Byddwch yn cwblhau lleoliad yn y gweithle yn GIG Cymru o dan oruchwyliaeth Seicolegydd Ymarfer. Ar y cyd â hyn, byddwch yn cwblhau modiwlau academaidd ar y theori y tu ôl i ymarfer clinigol, megis ymchwil glinigol, asesiadau a llunio gwerthusiadau seicolegol ac ymyraethau clinigol.
Byddwch yn y gweithle yn GIG Cymru am oddeutu tridiau yr wythnos a threulir y ddau ddiwrnod sy'n weddill yn cwblhau eich gwaith academaidd.
Mae rhai o'r modiwlau academaidd yn cael eu haddysgu ar y campws a bydd rhai eraill yn cael eu cyflwyno ar-lein. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl y bydd gofyn am deithio helaeth, gan ddibynnu ar y lleoliad.
Mae'r rhaglen hon yn para am flwyddyn. Ymdrinnir â sgiliau ymarferol yn y gweithle yn GIG Cymru ac yn y modiwlau academaidd. Bydd y theori sy'n sail i'r sgiliau hyn yn cael ei haddysgu yn y ddau leoliad, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd yn rhan o addysgu a gweithdai’r Brifysgol ar-lein neu ar y campws.
Modiwlau
Ymhlith y modiwlau ar y cwrs hwn y mae:
Ymarfer proffesiynol a moesegol
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno Cymdeithion CAAP dan hyfforddiant i'r syniadau, y gwerthoedd, yr egwyddorion a’r canllawiau craidd sy'n sail i ymarfer proffesiynol a moesegol ym maes seicoleg gymhwysol. Ymhlith y meysydd dan sylw bydd pwysigrwydd a pherthnasedd ymarfer myfyriol ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gweithio yn GIG Cymru; strwythurau a rolau staffio yn GIG Cymru; gwahaniaeth, amrywiaeth ac effaith gymdeithasol; materion llywodraethu clinigol ynghylch effeithiolrwydd, safon a chyfrinachedd; agweddau moesegol a chyfreithiol ar ymarfer clinigol; rheoli amser clinigol a llwyth achosion; mathau gwahanol o ddarparu gwasanaeth a gweithio rhwng gweithwyr proffesiynol/timau.
Credydau | 20 |
---|---|
Semester | Semester y Gwanwyn |
Asesu, ymgysylltu a llunio
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r sylfaen wybodaeth seicolegol i Gymdeithion CAAP dan hyfforddiant i’w helpu i ddeall trallod seicolegol yn ystod hyd oes oedolion, gan gynnwys y ffactorau cychwyn, cynnal ac adfer. Bydd y modiwl yn cynnig dealltwriaeth o theori gyfoes seicoleg glinigol a’r meysydd cysylltiedig, gan gynnwys gwybodaeth am y cyd-destun cymdeithasol, iechyd, afiechyd, anhwylder a chamweithrediad, y damcaniaethau a’r dystiolaeth ynghylch datblygiad seicolegol ac anawsterau seicolegol oedolion. Bydd hyfforddeion yn defnyddio dolenni theori-ymarfer i ddysgu sgiliau i asesu a llunio gan ddefnyddio ystod o ddulliau asesu seicolegol a sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu’r gwaith o lunio gwerthusiadau seicolegol. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi hyfforddeion i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ynghylch datblygu cynghrair therapiwtig, asesu risgiau a goruchwylio.
Credydau | 40 |
---|---|
Semester | Semester y Gwanwyn |
Ymyrryd a’r deilliannau
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno ystod o ymyraethau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn galluogi’r hyfforddeion CAAP i weithio gyda chleifion sy'n oedolion mewn ystod o leoliadau clinigol. Bydd hyfforddeion yn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth wneud cysylltiadau theori-ymarfer mewn ymyraethau a gynllunnir ar gyfer cleifion sy'n oedolion, grwpiau a gofalwyr unigol. Bydd hyfforddeion hefyd yn datblygu eu gwybodaeth mewn ystod o fodelau triniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyfforddeion hefyd yn cael eu cyflwyno i bwysigrwydd mesur parhaus y tu hwnt i asesu ac yn cael eu hyfforddi i adnabod a defnyddio sawl mesur cyffredin ar gyfer deilliannau.
Credydau | 40 |
---|---|
Semester | Blwyddyn |
Dulliau ymchwil a gwerthuso
Bydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ac ymagweddau er mwyn sicrhau bod hyfforddeion yn beirniadu ac yn creu gwerthusiadau / archwiliadau gwasanaeth a phrosiectau ymchwil ar raddfa fach yng nghyd-destun y GIG. Bydd hyn yn cynnwys moeseg a llywodraethu ymchwil, methodolegau meintiol ac ansoddol ac egwyddorion mesur deilliannau dibynadwy a dilys.
Credydau | 20 |
---|---|
Semester | Blwyddyn |
Ymarfer Clinigol
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys amser yn y lleoliad pan fydd hyfforddeion yn arsylwi ac yn ymgymryd â gwaith clinigol, ac yn cael y cyfle i gysylltu hyfforddiant academaidd a sgiliau â dysgu drwy ymarfer. Cynhelir y lleoliadau yng ngweithleoedd y Byrddau Iechyd sy'n cyflogi hyfforddeion ac mae’n bosibl mai ystod o wasanaethau iechyd meddwl a chorfforol oedolion ac oedolion hŷn fydd y rhain. Yn sgil ymarfer dan oruchwyliaeth bydd hyfforddeion yn cael y sgiliau, yr wybodaeth a'r gallu i wneud asesiadau, gwerthusiadau ac ymyraethau seicolegol yn unol ag anghenion y Bwrdd Iechyd sy'n cyflogi. Mae'n ofynnol i hyfforddeion roi gwasanaeth rheolaidd i gleifion sy'n golygu cyflawni ymyraethau seicolegol cydnabyddedig. Bydd pob achos o ymarfer clinigol yn cael ei oruchwylio gan Seicolegydd Ymarfer goruchwyliol a benodir gan Fwrdd Iechyd, a dylai staff y rhaglen a goruchwyliwr y gweithle arsylwi a chofnodi'n uniongyrchol enghreifftiau o'r gwaith i'w hadolygu.
Credydau | 60 |
---|---|
Semester | Blwyddyn |
Ffioedd a chyllid
Rhaglen hyfforddi a ariennir yn llawn ac a gynhelir gan GIG Cymru yw Cymdeithion CAAP. Ar hyn o bryd, Prifysgol Caerdydd sy’n rhoi’r hyfforddiant addysgol.
Bydd Cymdeithion CAAP yn dechrau ennill cyflog cyn gynted ag y byddant yn dechrau eu hyfforddiant. Telir Cymdeithion CAAP yn unol â band 7 Agenda Newid (AfC). Fodd bynnag, tra eu bod yn hyfforddi bydd Cymdeithion CAAP yn derbyn cyflog is ar rywbeth a elwir yn Atodiad 21.
Dysgwch ragor am gyllid drwy GIG Cymru.
Meini prawf derbyn
I fod yn gymwys i wneud y gwaith, bydd yn ofynnol ichi fodloni'r meini prawf canlynol:
- sail raddedig aelodaeth siartredig (GBS) Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS);
- gradd israddedig 2:2 o leiaf
- wedi gweithio mewn rôl ofalu gyda phobl â thrallod seicolegol neu anawsterau iechyd meddwl
- meddu ar o leiaf chwe mis o brofiad sy'n berthnasol i les seicolegol ac iechyd meddwl.
- yn gymwys i weithio yn y DU
Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
Cefnogir y rhaglen hon gan ddarparwyr gwasanaethau seicolegol GIG Cymru. Mae'r rhaglen yn cael ei chomisiynu a'i chefnogi gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac yn y pen draw gan Lywodraeth Cymru. Mae disgwyliad y bydd cyflogaeth yn parhau yn dilyn y cymhwyster gan y Bwrdd Iechyd sy’n penodi.
Bydd swyddi yn cael eu hysbysebu ar www.jobs.nhs.uk ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn.
Lleoliadau gwaith
Mae'r rhaglen wrthi’n ceisio am achrediad Cymdeithas Seicolegol Prydain ac ar ôl cwblhau'r cam hwn bydd Cymdeithion CAAP yn gymwys i gofrestru ar 'Gofrestr Gweithlu Seicolegol Ehangach' y Gymdeithas.
Efallai y bydd rhagor o gymwysterau i sicrhau swydd wahanol a ariennir gan y GIG (e.e. Hyfforddiant Seicoleg Glinigol) yn bosibl yn ystod eich gyrfa wedi ichi gymhwyso. Fodd bynnag, ni fydd comisiynwyr y GIG yn cefnogi hyn tan ddwy flynedd ar ôl ichi gwblhau MSc CAAP yn llwyddiannus. Ni fyddai hyn yn atal ceisio cyllid mewnol y GIG i gefnogi hyfforddiant ar ôl cymhwyster yn y swydd (CAAP).
Dysgu ac asesu
Addysgu
Mae'r rhaglen hon yn cael ei haddysgu gan arbenigwyr ymarferol sy'n gallu rhoi'r cydbwysedd cywir rhwng y sgiliau damcaniaethol ac ymarferol sydd eu hangen i fod yn Gydymaith Clinigol mewn Seicoleg Gymhwysol (CAAP). Byddwch yn derbyn cyfuniad o hyfforddiant ymarferol yn y gwaith o dan oruchwyliaeth arbenigwyr GIG Cymru a bydd arbenigwyr y Brifysgol yn cyflwyno’r theori. Bydd ystod eang o dechnegau addysgu sy'n addas ar gyfer yr ystod o sgiliau y byddwch yn eu dysgu, gan gynnwys achosion clinigol efelychedig a dysgu mewn grwpiau bach. Bydd rhai o'r gweithdai yn cael eu cyflwyno ar-lein a rhai ar y campws.
Saesneg fydd cyfrwng yr hyfforddi. Fodd bynnag, cewch yr opsiwn o gael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg ac o gyflwyno asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg. Byddwn yn ceisio dod o hyd i oruchwyliwr clinigol Cymraeg ei hiaith ond bydd hyn yn dibynnu ar a oes un ar gael yn eich ardal ymarfer.
Asesu
Bydd rhan fawr o'r rhaglen yn cael ei hasesu drwy ddangos cymwyseddau clinigol sy'n seiliedig ar sgiliau. Bydd tystiolaeth o’r rhain mewn portffolio clinigol. Yn eich lleoliad bydd disgwyl ichi fodloni ystod o gymwyseddau clinigol, gan gofnodi’r manylion yn eich portffolio. Byddwch hefyd yn cael eich asesu gan ddefnyddio adroddiadau ar sail ymarfer, arsylwadau clinigol ac asesiadau academaidd safonol fel traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau. Byddwch yn cael aseiniadau ffurfiannol a chefnogaeth drwy gydol y rhaglen i'ch paratoi ar gyfer yr aseiniadau crynodol.
Cefnogaeth
Byddwch yn cael tiwtor personol ym Mhrifysgol Caerdydd a fydd yn estyn cymorth ichi o ran pryderon bugeiliol. Os cewch broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol bob tro yw’r person cyntaf y dylech gysylltu ag ef gan y bydd yn gallu eich cyfeirio at ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol i fyfyrwyr drwy law’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr fel y bo'n briodol. Bydd yn ofynnol ichi gwrdd â’ch tiwtor personol sawl gwaith yn ystod y flwyddyn, ond rydyn yn eich annog hefyd i gysylltu ag ef ar unrhyw adeg arall os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff cefnogaeth Academaidd Broffesiynol y Tîm Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gael wyneb yn wyneb dros y ffôn neu e-bost rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.
Yn ogystal, a chithau’n gyflogai GIG Cymru cewch gyrchu gwasanaethau cefnogi a gwasanaethau iechyd galwedigaethol y GIG. Bydd tîm y rhaglen a'ch goruchwyliwr yn y gweithle yn gallu eich cyfeirio at y cymorth hwn a bydd gwybodaeth ar gael ar dudalennau staff y GIG ac ar dudalennau gwe y Bwrdd Iechyd.
Cysylltwch â ni
I gael gwybodaeth am elfen academaidd y cwrs hwn, cysylltwch â'r Ysgol Seicoleg.
Os bydd ymholiadau eraill cysylltwch â GIG Cymru.
Mae cymdeithion clinigol mewn seicoleg yn gweithio o fewn GIG Cymru i ddarparu ymyriadau seicolegol o dan oruchwyliaeth seicolegydd ymarferydd cwbl gymwysedig.