Ymchwil ôl-raddedig
Rydym yn cynnig amgylchedd ymchwil deinamig ac ysgogol, gyda seilwaith ymchwil ardderchog sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd.
Mae’r ystod eang o arbenigedd yn yr ysgol yn ein galluogi i roi hyfforddiant yn y maes seicoleg ar ei hyd, o gelloedd i gymdeithas, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ymchwil. Rydym yn cefnogi ein hymchwilwyr gyda seilwaith benodol, gan gynnwys Adeilad y Tŵr, y labordai niwrowyddoniaeth, Canolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg (CUBRIC) a Chanolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS).
Rydym yn cydweithio’n barhaus gyda sawl canolfan ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys y Sefydliad Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, Sefydliad Ymchwil Dementia Caerdydd, Canolfan Tyndall ar gyfer Ymchwil i’r Newid yn yr Hinsawdd i enwi ond ychydig. Mae hyn yn tynnu sylw at nodwedd nodedig yn yr ysgol – y ffordd y mae’n cyfuno gweithgareddau ymchwil ar draws disgyblaethau, sy’n cyfrannu at ei nod o gyflawni gwaith ymchwil sy’n cael effaith amlwg.
Cwrs | Cymhwyster |
PhD | |
DClinPsy | |
DEdPsy |
Ysgoloriaethau PhD a ariennir
Bydd ein tudalen ysgoloriaethau PhD a ariennir yn rhestru cyfleoedd ymchwil ôl-raddedig pan fydd cyllid yn dod ar gael. Fel arfer, bydd cyllid yn talu am gostau blynyddol, yn ogystal â ffioedd dysgu ôl-raddedig yn ôl y gyfradd cartref / cyfradd yr UE.
Ymholiadau
Ymholiadau PhD
Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws sbectrwm seicoleg i fynd i’r afael â heriau o bwys sy’n wynebu’r gymdeithas a’r amgylchedd.