Cynnal lleoliad seicoleg

Os yw’ch sefydliad chi am groesawu doniau newydd, mae gennyn ni’r ateb perffaith – rhowch gynnig ar ddod yn ddarparwr lleoliad seicoleg.
I ddysgu sut y gallwch chi groesawu myfyriwr ar leoliad ac elwa ar y profiad o wneud hynny, gan roi hefyd iddo brofiad hynod werthfawr ar gyfer eu gyrfa yn y dyfodol, lawrlwythwch ein canllaw i gynnal lleoliad seicoleg. Mae'r canllaw cyfeirio cyflym hwn yn cynnwys popeth sydd angen i chi ei wybod am gynnal lleoliad seicoleg ac mae'n amlinellu'r manteision y bydd ein myfyrwyr yn eu cynnig i'ch sefydliad.
Oes gennych chi ddiddordeb? Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Cysylltwch â ni drwy e-bostio Sam neu Lesley ar psych-placement@caerdydd.ac.uk
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r
Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae hi wedi bod yn bartneriaeth hynod werthfawr i ni. Rydyn ni’n cael aelodau brwdfrydig o'r tîm sy'n cefnogi ein gwasanaeth, yn helpu gyda rhywfaint o'r llwyth gwaith ac yn rhoi golwg newydd ar bethau y gallwn ni eu hychwanegu neu newid yn y gwasanaeth rydyn ni’n cynnig. Rydyn ni wedi canfod staff parhaol gwych na fydden ni wedi dod o hyd iddyn nhw fel arall.
Manteision i chi
Rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae sawl mantais yn gysylltiedig â chynnal lleoliad, gan gynnwys:
- agwedd hyblyg at gyflogi
- dewis o blith y rhai dawnus, sgiliau a gwybodaeth benodol a all fod o fudd i'ch sefydliad
- ymagwedd frwdfrydig a newydd tuag at anghenion eich sefydliad
- mynd ar y blaen gyda recriwtio'r graddedigion gorau ar gyfer eich sefydliad

Sut i gynnal Lleoliad Myfyrwyr Seicoleg - Canllaw Cyfeirio
Mae dros 200 osefydliadau wedi elwa ar groesawu myfyriwr o Brifysgol Caerdydd ar leoliad gyda nhw. Gallwch chi ymuno â nhw. I ddysgu mwy am ddod yn ddarparwr lleoliad gwaith seicoleg, darllenwch y canllaw byr hwn. Mae’n egluro’r manteision i’ch sefydliad, pwyntiau pwysig i’w hystyried, a’r camau syml sydd angen i chi eu cymryd.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Y gwerth bydd ein myfyrwyr yn eu cynnig
Gall ein myfyrwyr ychwanegu gwerth at eich sefydliad tra byddan nhw ar leoliad. Er enghraifft, gallan nhw:
- cynnal ymchwil meintiol ac ansoddol
- dehongli a dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau proffesiynol
- mynd i gyfarfodydd tîm, cymryd cofnodion a chyflwyno cyflwyniadau
- cysgodi clinigwyr, arbenigwyr ac aelodau eraill o’ch tîm
- rheoli prosiectau ac adolygu canlyniadau prosiectau
- hwyluso a chynnal gweithdai
“Fe wnes i gyfrannu at amrywiaeth o brosiectau ar gyfer sawl cleient adnabyddus, ac roedd fy rôl yn ehangu’r broses ymchwil gyfan. O gwmpasu amserlenni, llunio holiaduron, goruchwylio gwaith maes, dadansoddi data (ansoddol/meintiol), a llunio adroddiadau, ro’n i wrth fy modd yn cael ychwanegu gwerth diamheuol i’r cwmni.
Cysylltu â ni
Os hoffech chi siarad â'n tîm lleoliadau, e-bostiwch Sam neu Lesley yn psych-placement@caerdydd.ac.uk Byddwn ni’n hapus i drafod eich anghenion sefydliadol penodol.