Ein lleoliad
Adeilad y Tŵr
Adeilad y Tŵr yw ein prif ganolfan seicoleg, ac mae wedi’i lleoli yng nghanol campws Parc Cathays. Mae’n agos at Undeb y Myfyrwyr, llyfrgelloedd, gwasanaethau cymorth a sawl un o breswylfeydd y Brifysgol.
Ein cyfeiriad
Adeilad y Tŵr
70 Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT
Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)
Ein cyfleuster delweddu’r ymennydd sydd wedi ennill gwobrau yw CUBRIC, ac mae wedi’i lleoli ar Heol Maendy yng Nghaerdydd.

Ein cyfeiriad
Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Teithio
Ar drên a bws
Mae’n cymryd un neu ddau funud i gerdded i Adeilad y Tŵr o orsaf drenau Cathays. Ewch i wefan gynllunio National Rail Journey i gael rhagor o wybodaeth. Mae nifer o wasanaethau bysiau yn cysylltu Caerdydd yn rheolaidd â threfi a dinasoedd ledled y wlad. Ewch i wefan National Express neu Megabus i gael rhagor o wybodaeth.
Bysiau lleol
Mae’r gwasanaeth bws rhif 95 yn gadael Caerdydd Canolog i gampws Cathays yn rheolaidd drwy gydol y dydd, a cheir rhagor o fanylion ar wefan Bws Caerdydd.
Beicio a cherdded
Mae gennym fan storio beiciau pwrpasol, dan do, yng nghefn Adeilad y Tŵr, a mannau storio ychwanegol o flaen ac wrth ochr yr adeilad. Mae cyfleusterau cawod ar y pedwerydd llawr. Ceir ystafell sychu hefyd ar y seithfed llawr ar gyfer cotiau ac ymbareli.
Lleoliadau eraill
Canolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol (CUCHDS) ger Adeilad y Tŵr.
Gallwch weld map o'n campws sy'n nodi lleoliad adeiladau lle mae'n ysgolion academaidd, llety a gwasanaethau eraill.