Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru
Mae Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru yn cael ei chynnal gan dîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n gweithio gyda darparwyr gwasanaethau mabwysiadu allweddol.
Ein nod yw cynnig tystiolaeth hanfodol er mwyn hyrwyddo mabwysiadu llwyddiannus yng Nghymru. Rydym yn ymchwilio i’r ffactorau sy’n nodweddu ac sy’n sail i lwyddiant cynnar mewn lleoliadau ar gyfer teuluoedd sydd wedi mabwysiadu plant yng Nghymru.
Prif nodau
Prif nodau’r astudiaeth oedd darganfod y canlynol:
- pa gymorth oedd ei angen ar deuluoedd yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i’w plentyn neu blant ddod i fyw gyda nhw, ac i ba raddau y cafodd yr anghenion hyn o ran cymorth eu diwallu
- y ffactorau a wnaeth helpu teuluoedd i ffynnu yn ystod y flwyddyn gyntaf
- effaith y penderfyniadau a wnaed cyn i’r plant gael eu lleoli gyda theuluoedd ar gyfer eu mabwysiadu (e.e. y cyfnod o amser cyn y cytunwyd ar gynllun ar gyfer mabwysiadu).
Rhagor o wybodaeth am Garfan Fabwysiadu Cymru a sut mae’n anelu at ddeall yr elfennau sy’n sicrhau bod lleoliadau cynnar ar gyfer plant sydd wedi’u mabwysiadu a’u teuluoedd yn llwyddo.