Gemau’r Ymennydd
Mae Gemau’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd, yn ffurfio set o weithgareddau llawn hwyl a rhyngweithiol, sy’n cynnig cyflwyniad i blant i seicoleg a newrowyddoniaeth, a chael y cyfle i gyfarfod a'n gwyddonwyr.
Bob blwyddyn mae'r gemau, a gynhelir yn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru, yn amlygu amrywiaeth o ymchwil sy'n gysylltiedig â'r ymennydd sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd mewn ffordd hwyliog a hygyrch.
O ddelweddau synhwyraidd a domau ymennydd pwmpiadwy i ddwylo ysbryd a gweithdai ‘llawdriniaeth DIY ar yr ymennydd’ – mae’r diwrnod rhyngweithiol blynyddol rhad ac am ddim hwn yn arddangos pŵer a dirgelwch ein organ mwyaf hanfodol, sef yr ymennydd dynol.
Cysylltwch â ni
Cofiwch ddilyn @neurosciencecu ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion a’r gweithgareddau diweddaraf.