Amdanom ni
Rydym yn un o ganolfannau seicoleg mwyaf y DU ac yn cynnig amgylchedd ysgogol a gwerth chweil i weithio ac astudio ynddo.
Rydym wedi'n lleoli yng nghanol Caerdydd, sy'n brifddinas fywiog sy’n tyfu, gyda harddwch naturiol eithriadol o’i chwmpas. Ein Hysgol ni yw un o'r mwyaf yn y DU ac fe'i gosodwyd yn 9fed am Seicoleg yn y Complete University Guide 2024.
Rydym ni wedi ein sefydlu ers tro byd ac mae gennym lawer o adnoddau ac enw da o fri rhyngwladol. Mae ein maint a'n graddfa yn golygu fod yr addysgu a'r ymchwil yn cwmpasu ehangder llawn seicoleg ac rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd israddedig, ôl-raddedig a hyfforddiant.
Ein gwaith ymchwil
Mae ein gwaith ymchwil sy’n flaenllaw yn rhyngwladol yn datblygu gwybodaeth ac yn gwella ansawdd bywyd trwy lywio polisi cyhoeddus a gwella canlyniadau i iechyd.
O ymchwil arobryn ar benderfyniadau gan ddiffoddwyr tân a arweiniodd at newid polisi cenedlaethol, ymchwil o'r radd flaenaf sy'n llywio polisi amgylcheddol a hinsawdd, i gynhyrchu'r delweddau mwyaf manwl o'r ymennydd, ategir ein hymchwil eang drwy ganolfannau ymchwil, partneriaethau amlddisgyblaethol a chydweithio cryf gyda defnyddwyr, diwydiant, y GIG, elusennau a'r cyhoedd.
Ein haddysgu
Rydym yn addysgu cyrsiau israddedig, MSc a doethuriaeth broffesiynol mewn Seicoleg a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, yn ogystal â hyfforddi cymuned gref o fyfyrwyr PhD. Ar bob lefel, gall myfyrwyr ymgymryd â lleoliadau gwaith proffesiynol gydag ystod eang o bartneriaid.
Dyfarnwyd dosbarthiad Arian i addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA) diweddaraf, sy'n golygu ein bod yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau o ansawdd uchel i'n myfyrwyr. Rydym yn sgorio'n uchel yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS), gyda sgôr boddhad myfyrwyr o 86% ar gyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf (2017 — 2021).
Ein hamgylchedd gwaith
Mae gennym agwedd gynhwysol at fywyd academaidd, a byddwn yn eich cefnogi'n llawn i gyflawni eich nodau academaidd a'ch dyheadau o ran gyrfa. Mae gennym gymuned fywiog a rhyngwladol o fyfyrwyr a staff sy'n sylfaen i'n llwyddiant. Ym mha bynnag gapasiti y gallech chi ymuno â ni, gallwch fod yn sicr y byddwn yn darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i chi ynghyd â'r cyfle i gyflawni eich potensial llawn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn ymdrechu i ddangos yr arferion gorau ym mhob un o’n gweithgareddau.
Ein lleoliadau
Byddwch yn cael eich lleoli mewn un o bedwar lleoliad. Mae gan bob un o’n hadeiladau gyfleusterau gwych a phwrpasol ar gyfer meysydd penodol o seicoleg – gyda phob un o fewn pellter cerdded rhwydd i’w gilydd.
Adeilad y Tŵr
Mae ein prif ganolfan seicoleg sydd yng nghanol campws Parc Cathays yn cynnwys amrywiol fannau ar gyfer addysgu, ymchwil a labordy. Dyma lle mae'r rhan fwyaf o'r addysgu ac ymchwil israddedig ac ôl-raddedig yn digwydd. Mae hefyd yn gartref i'n canolfan ymchwil deallusrwydd artiffisial a roboteg, IROHMS, a thimau’r graddau proffesiynol mewn seicoleg (Seicoleg Glinigol a Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol)
Canolfan Gwyddorau Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS)
CUCHDS yw ein cyfleuster datblygiadol pwrpasol ac mae i'w ganfod drws nesaf i Adeilad y Tŵr. Mae'r cyfleuster datblygiadol pwrpasol hwn yn cynnwys gofod labordy wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer y myfyrwyr hynny ar y cwrs MSc mewn Anhwylderau Seicolegol Plant, y cwrs Doethuriaeth Seicoleg Addysgol a'n myfyrwyr ymchwil datblygiadol.
Climate Change and Social Transformations in the Social Science Research Park video
Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK)
Mae ein Canolfan ESRC ar Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST) werth £5 miliwn yn rhan o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf yn y byd, sy'n dod ag ymchwilwyr ar draws y gwyddorau cymdeithasol at ei gilydd mewn amgylchedd pwrpasol i gynhyrchu gwybodaeth newydd a datblygu datrysiadau newydd i broblemau cymdeithasol mawr.
Cardiff University Brain Research Imaging Centre (CUBRIC) video
Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)
Mae ein cyfleuster delweddu'r ymennydd werth £44 miliwn yn cynnig amgylchedd ardderchog i staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n dymuno gwneud ymchwil mewn niwrowyddoniaeth. Yn CUBRIC ceir amrywiaeth eang o gyfleusterau delweddu datblygedig, gan gynnwys un o sganwyr yr ymennydd mwyaf pwerus Ewrop.
Ymunwch â’n Ysgol fywiog a deinamig a arweinir gan ymchwil sydd ag enw da rhyngwladol a hirsefydlog am ein gwaith ymchwil o safon uchel.