Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i feithrin cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb, gan hyrwyddo'r agenda 'uwchsgilio, ailsgilio, sgiliau newydd' i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn meddu ar yr arbenigedd a'r wybodaeth ymarferol i fynd i'r afael â heriau mwyaf dybryd y genedl.
Darllenwch sut rydyn ni’n helpu De Cymru i ailddyfeisio ei hun yn ganolbwynt arbenigedd mewn meysydd twf pwysig i ddatblygu arloesedd lleol ar draws sectorau.
Darllenwch adolygiad o’r flwyddyn 2024, sy’n tynnu sylw y gwaith rydyn ni’n ei wneud i ddatblygu cyfleoedd DPP, a chefnogi cenhadaeth strategol y brifysgol.
Darllenwch am ein rhaglen ar gyfer Canolfan Wasanaethau BBaCh Shanghai, sy'n rhoi darlun cynhwysfawr o'r sefyllfa ynghylch cefnogaeth i fusnesau yn ne Cymru.
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod unwaith eto wedi llwyddo yn ein hadolygiad blynyddol Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid (CSE), ac o ganlyniad, rydyn ni wedi ennill gwobr ‘Compliance Plus’ newydd, gan gyrraedd cyfanswm o 25 o wobrau.
Yn rhan o Gronfa Cryfder mewn Lleoedd CSconnected, mae Prifysgol Caerdydd yn cydlynu’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno cyfres o gyrsiau byr sydd wedi’u cynllunio i gefnogi anghenion datblygiad proffesiynol parhaus CSconnected – y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru.