Ewch i’r prif gynnwys

Simon Newsam

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae Simon wedi gweithio yn y cyfryngau ers 30 mlynedd.

Dechreuodd ei yrfa yn ysgrifennu ar gyfer papurau newydd yng Nghymru ac yna dechreuodd weithio’n llawrydd, yn golygu chylchgrawn Business in Wales a cylchgrawn WM women ar gyfer y Western Mail ac Echo.

Ddiwedd y 1990au, ymunodd â'r chwyldro digidol gan lansio a rhedeg gwefannau gan gynnwys icWales (WalesOnline erbyn hyn) a JobsWales, datblygu newyddiaduraeth amlgyfrwng a thechnegau marchnata digidol.

Ymunodd â'r byd cysylltiadau cyhoeddus gydag asiantaeth flaenllaw yn 2007 cyn sefydlu ei fusnes llwyddiannus ei hun gan ddarparu gwasanaethau marchnata digidol a chysylltiadau cyhoeddus i ystod eang o gleientiaid.

Mae hefyd yn ysgrifennu e-lyfrau ar bynciau arbenigol ac yn gwneud fideos er cof – straeon bywyd personol i bobl adael ar eu holau i’w teuluoedd.