Rhaglen datblygu arweinyddiaeth Fietnam
Gwnaeth Academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd ailgynllunio rhaglen Addysg Weithredol wyneb yn wyneb yn gwrs cyfunol ar-lein ar gyfer pum o brifysgolion Fietnam.
Cefndir
Cysylltwyd ag Ysgol Busnes Caerdydd yn wreiddiol i ddylunio rhaglen arweinyddiaeth wedi'i theilwra ar gyfer aelodau staff rheolaeth uwch o bum o brifysgolion Fietnam sydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Roeddent am gyflwyno hyfforddiant mewn dwy raglen o 4 diwrnod yr un, un yng Nghaerdydd, ac un yn Fietnam. Er cynhaliwyd y rhaglen yng Nghaerdydd yn unol â’r cynllun, effeithiwyd ar y cwrs yn Fietnam gan y cyfnod clo byd-eang a achoswyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Yr her
Roedd ail ran Rhaglen Arweinyddiaeth Addysg Uwch, Prifysgolion Cymru, Cyngor Prydeinig Fietnam i fod i gael ei chynnal dros bedwar diwrnod yn Fietnam. Yn dilyn y pandemig, ailgynlluniodd y tîm, gan weithio gydag arbenigwr dylunio dysgu ar-lein, y rhaglen fel profiad sydd yn gyfan gwbl ar-lein.
Yr ateb
Rhannwyd y rhaglen ar-lein yn y prif themâu canlynol:
- Arweinyddiaeth, yr Hanfodion ac Archwilio Eich Proffil Personol
- Yr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig ac Arweinyddiaeth Gydweithredol
- Codi Perfformiad drwy Arferion AD a Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Roedd pob thema yn cynnwys modiwl ar-lein a oedd yn cynnwys amrywiaeth o fideos, gweithgareddau, a deunyddiau darllen yr oedd yn rhaid i gynadleddwyr eu cwblhau bob pythefnos. Roedd hefyd sesiynau byw gydag academyddion lle gallai cynadleddwyr drafod cynnwys y modiwl ar-lein a chael cyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu syniadau.
Cynhaliwyd y sesiynau byw ar Zoom a chafwyd eu dylunio ar y sail bod cynadleddwyr wedi cwblhau'r modiwlau ar-lein ymlaen llaw. Roedd y sesiynau'n rhyngweithiol iawn a disgwyliwyd i gynadleddwyr gymryd rhan yn llawn ym mhob agwedd ar y profiad dysgu, o gyfrannu at bolau a chyflwyno canfyddiadau hyd at gyfrannu at fwrdd gwyn rhithwir.
Hefyd, yn y rhaglen cyflwynwyd Sesiynau Gwybodaeth am Gaerdydd byw gan arbenigwyr arwain o'r Brifysgol, a oedd yn cynnwys agweddau gwahanol ar ddatblygu a gweithredu strategaeth Addysg Uwch a dilyn rhyngwladoli. Roedd y sesiynau hyn yn awr o hyd gyda chyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau drwy gydol y sesiynau.
Y rhaglen astudio
Ailgynlluniwyd y rhaglen wyneb yn wyneb 4 diwrnod o hyd i gael ei chyflwyno fel rhaglen ar-lein 10 wythnos o hyd.
Gweithiodd tîm y prosiect; gan gynnwys academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd, Addysg Weithredol ac Uned DPP yn agos gydag arbenigwyr dylunio dysgu ar-lein i greu rhaglen fywiog a oedd yn cyflawni'r un canlyniadau i gynadleddwyr, ond eto a oedd wedi'i dylunio'n benodol ar gyfer dysgu ar-lein.
Cyflwynwyd y rhaglen fel cymysgedd o ddysgu anghydamserol a chydamserol. Roedd gweithgareddau anghydamserol yn cynnig cyfleoedd dysgu hyblyg, hunan-gyfeiriedig i gynadleddwyr, gan ganolbwyntio ar ddeall cysyniadau allweddol ac arferion myfyrio/ymchwilio. Roedd cynadleddwyr yn gallu dysgu ar eu cyflymder eu hunain, gan gymryd yr amser i ail-ddarllen ac ail-wylio cynnwys yn ôl yr angen.
Rhoddwyd rhagor o ddeunyddiau darllen, ymarferion a thasgau i gynadleddwyr eu cwblhau yn ystod yr wythnos cyn y sesiynau cydamserol byw, a oedd yn canolbwyntio ar drafodaethau, cwestiynau ac adborth ynghylch hwyluso cyfadrannau.
Manteision a chanlyniadau
Er i'r rhaglen ar-lein gael ei chreu er mwyn datrys problem, roedd llawer o fanteision drwy gynnal y cwrs yn y ffordd hon, gan gynnwys y canlynol:
- Mwy o amser i gynadleddwyr fyfyrio ac ymgorffori eu harferion presennol i'r hyfforddiant
- Mwy o gyfleoedd i gynadleddwyr wireddu newid yn eu harferion
- O bosib, mwy o werth ac effaith ar sefydliadau na digwyddiad hyfforddiant ynysig
- Cymysgedd o sesiynau anghydamserol a byw i wella'r profiad dysgu a rhoi ymdeimlad o gymuned gyffredin.
Adborth
Ar y cyfan roedd y rhai a oedd yn bresennol wedi mwynhau'r profiad a byddent yn gallu rhoi'r hyn a ddysgwyd ar waith yn eu harferion proffesiynol. Dywedodd un cyfranogwr:
Wrth sôn am y profiad o ddatblygu'r cwrs dywedodd Sarah Lethbridge, Cyfarwyddwr Addysg Weithredol a Chysylltiadau Allanol, Ysgol Busnes Caerdydd:
Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.