Ewch i’r prif gynnwys

Deall Arweinyddiaeth - Hugh James

Yn 2016 dechreuodd Ysgol Busnes Caerdydd a Hugh James ar raglen ddysgu wedi'i chynllunio i roi gwybodaeth ddigonol ar arweinyddiaeth i 10 ffigwr allweddol yn y Busnes (partneriaid cydraddoldeb a phartneriaid â chyflog). Y nod oedd eu helpu i ddatblygu fel arweinwyr mewn sefydliad sy'n trawsnewid.

Y cefndir

Mae Hugh James ymhlith y 100 cwmni cyfreithiol gorau yn y DU, sy'n cynnig cyngor ariannol a chyfreithiol arbenigol. Mae ganddynt dros 50 mlynedd o brofiad, a nhw yw'r cwmni cyfreithiol brodorol mwyaf yng Nghymru. Yn dilyn cyfnod o newid digynsail i Hugh James, roedd y cwmni mewn sefyllfa gyffrous o ran ei esblygiad a'i ddatblygiad.

Roeddent newydd adnewyddu'r brand a'r ddelwedd, yn ogystal â meithrin gweledigaeth a gwerthoedd newydd sy'n cyfleu proffesiynoldeb ac uchelgais y cwmni. Gwnaethant gaffael MLM Cartwright, y mae eu cleientiaid yn cynnwys SA Brain & Co. a Gwesty'r Celtic Manor, wnaeth gadarnhau statws Hugh James fel y tîm cyfreithiol mwyaf yng Nghymru ym meysydd corfforaethol, masnachol ac eiddo.

Cyhoeddodd y cwmni eu bod nhw'n symud eu pencadlys i ofod swyddfa 100,000 tr sg. newydd sbon yn Sgwâr Canolog Caerdydd, ger lleoliad newydd BBC Cymru, Ysgol Newyddiaduraeth ac Astudiaethau'r Cyfryngau Prifysgol Caerdydd a Gorsaf Caerdydd Canolog, er mwyn hwyluso cysylltiadau â Llundain a thu hwnt.

Ar ben hynny, crëwyd strategaeth fusnes newydd oedd yn dechrau cael ei rhannu a'i dehongli gan bob aelod staff.

Y gofynion

Cydweithio â Hugh James i adeiladu ymhellach ar eu dull datblygu arweinyddiaeth a newid trawsnewidiol llwyddiannus, ac i roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr uwch-dîm i arwain y busnes drwy gyfnod o dwf sylweddol i'r sefydliad

Yr ateb

Gwnaethom greu'r rhaglenni canlynol:

  • dwy raglen Deall Arweinyddiaeth
  • Dosbarth Meistr Gwella Parhaus Uwch-arweinyddiaeth
  • Hyfforddiant tîm Gwella Parhaus.

Y rhaglen

Trefnwyd pedwar diwrnod ar gyfer Deall Arweinyddiaeth, ac roedd pob un wedi'u dylunio i roi'r arbenigedd oedd ei hangen ar unigolion a thimau i ragori o fewn fframwaith datblygu perfformiad newydd Hugh James. Roedd y rhaglen yn cwmpasu elfennau sefydliadau llwyddiannus, gan feithrin perthnasoedd â chleientiaid, timau perfformiad uchel a datblygu'r busnes. Pwysleisiwyd y broses o ymgorffori offerynnau a dulliau ar draws y sefydliad cyfan a rhaeadru'r dysgu.

Canlyniadau

Yn dilyn llwyddiant rhaglen Deall Arweinyddiaeth 2016, cydweithiodd Hugh James ac Ysgol Busnes Caerdydd unwaith eto ar raglen arweinyddiaeth yn 2017/18.

Mae gennym berthynas bositif â Hugh James, ac mae’n dal i ddatblygu. Maent wedi cynnal sesiynau hysbysu dros frecwast i'r Ysgol, ac maent yn cymryd rhan mewn gweithdai cymeradwyo rhaglenni sy’n ceisio cael adborth gan ddiwydiant ar ein cyrsiau.

Mae datblygu'r perthnasoedd hyn yn fantais allweddol a ddaw yn sgîl gweithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd. Rydym yn cynnig mynediad ffantastig at ein talent (myfyrwyr ac academyddion), gwybodaeth ac adnoddau ac mae comisiynu mentrau addysg a hyfforddiant yn ffordd wych o sbarduno'r perthnasoedd gwych hyn. Mae comisiynu rhaglenni addysg gyda ni yn ffordd wych o greu partneriaethau cynhyrchiol.

Cardiff Business School is the perfect fit – being able to enjoy the Executive Education Suite and all that it offers, and the access to the academics that we had, was real career highlight.

Pip Thomas, former Head of Learning & Development

Cardiff Business School is so well known, it’s highly ranked, and for me, the teaching was exceptional. It made us think about our own teams, and about our own business. We got there by ourselves – but with expert support.

Alun Jones, Managing Partner, Hugh James

The quality of the academics from Cardiff Business School was outstanding, they quickly established good rapport with everyone on the course, and very quickly established themselves as leaders in their fields.

Hugh James

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni am sut y gallem ni ddylunio a chyflwyno rhaglen debyg mewn cydweithrediad â'ch sefydliad, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar am drafodaeth anffurfiol gychwynnol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus