Rheoli prosiect yn ymarferol Pullman Rail
Fe wnaethom ddatblygu cwrs 2 ddiwrnod oedd yn archwilio amrywiaeth eang o sgiliau rheoli prosiect, o gynllunio a threfnu prosiect i ymgysylltu gyda rhanddeiliaid a rheoli ansawdd, risgiau a materion.
Sefydliad
Mae Pullman Rail, rhan o Colas Rail Group, wedi’i leoli yn Lecwydd yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd mae’n cyflogi tua 200 o staff. Mae’n gwasanaethu’r diwydiant rheilffyrdd drwy ddarparu arbenigedd a chrefftwaith technegol. Ei brif weithrediadau yw prosiectau archwilio (fel ailwampio neu adfer cerbydau teithwyr rheilffordd, setiau bogi ac olwynion), a gwaith cynnal a chadw ar gerbydau trên presennol.
Materion busnes
Mae Pullman Rail wedi ehangu tua dwywaith mewn main ers ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl ac mae’n parhau i dyfu. Mae’r cwmni’n ceisio dod yn fwyfwy cystadleuol ac yn fwy rhagweithiol yn ei ddull o ennill gwaith newydd. Nodwyd bod staff angen cefnogaeth i’w helpu i drin gyda’r twf hwn yn fwy effeithiol ac i wella rheolaeth gyffredinol eu contractau newydd.
Hyfforddiant
Fe wnaethom ddatblygu cwrs 2 ddiwrnod oedd yn archwilio amrywiaeth eang o sgiliau rheoli prosiect, o gynllunio a threfnu prosiect i ymgysylltu gyda rhanddeiliaid a rheoli ansawdd, risgiau a materion. Roedd pwysigrwydd cydymffurfiaeth a gweithio i reoliadau iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth ar gyfer Pullman Rail, ac felly roedd hyn wedi’i ymgorffori fel thema ar draws y ddau ddiwrnod gyda’r Pennaeth Proffesiynol Diogelwch a Chydymffurfiaeth yn cyflwyno fel rhan o’r cwrs.
Dyfynnwyd o brosesau a thempledi prosiect Pullman ei hun drwy gydol yr hyfforddiant a defnyddiwyd enghreifftiau perthnasol i’r diwydiannau gweithgynhyrchu a rheilffordd i esbonio arfer gorau rheoli prosiect. Yn dilyn cais Pullman cyflwynwyd y ddau ddiwrnod hyfforddi gyda thair wythnos rhyngddynt, ac fe wnaeth hyn alluogi staff i brofi ein damcaniaethau dysgu yn y gweithle cyn yr ail ddiwrnod.
Effaith
Dywedodd yr holl unigolion wnaeth fynychu bod eu hanghenion dysgu wedi’u bodloni drwy gydol yr hyfforddiant. O ganlyniad, mae Rheolwyr Gweithdai a Rheolwyr Cynorthwyol Pullman nawr yn mabwysiadu dull mwy safonol o reoli eu prosiectau a’u timau prosiect.
Mae Pullman eisoes wedi archwilio sgyrsiau gyda ni am gydweithrediadau posibl eraill, fel cyfleoedd lleoliadau myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr peirianneg y Brifysgol a hyfforddiant pellach mewn gwella parhau a PRINCE2.