Academi Cyllid GIG Cymru
Gan gefnogi Cyfarwyddwr Cyllid wrth iddynt greu newid cadarnhaol ar draws y sefydliad. Gwnaeth tîm Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd helpu i wella sgiliau Arweinwyr Cyllid yn y cwrs hyfforddiant penodol hwn, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Academi Cyllid GIG Cymru.
Cefndir
Datblygwyd y rhaglen hon i wella sgiliau’r rhai hynny a nodwyd yn ddarpar Gyfarwyddwyr Cyllid y dyfodol yng nghronfa doniau yn yr arfaeth yr Academi Cyllid.
Gwnaeth Cyfarwyddwr Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd, Sarah Lethbridge, weithio’n agos gydag Academi Cyllid GIG Cymru, i ddatblygu cynnwys a deilliannau dysgu’r rhaglen. Mae gan Academi Cyllid GIG Cymru ddealltwriaeth gynhwysfawr o’r galluoedd a’r sgiliau sydd eu hangen gan arweinydd ariannol llwyddiannus yn yr unfed ganrif ar hugain. Roedd y mewnbwn ganddynt yn amhrisiadwy.
Roedd y cleient a’r Ysgol Busnes yn dymuno rhoi’r cyfleoedd dysgu a’r profiadau gorau i greu carfannau o arweinwyr ariannol y bydd eu gwybodaeth a’u harweinyddiaeth yn cynnwys llawer mwy nag arbenigedd ariannol syml.
Y gofynion
Lluniwyd y rhaglen i helpu’r garfan i ddatblygu’r sgiliau deallusrwydd emosiynol tra datblygedig angenrheidiol i arwain newid diwylliannol mewn sector sydd â grwpiau amrywiol o bobl gyda gwahanol arbenigeddau. Roedd amcanion allweddol yn cynnwys helpu’r garfan i ysgogi newid cadarnhaol yn eu sefydliad, galluogi dealltwriaeth gynhwysfawr o’r system gymhleth maen nhw’n ei rheoli yn ogystal ag effaith enfawr llifoedd ariannol ar gyflawni canlyniadau llwyddiannus.
Roedd y cleient hefyd yn dymuno datblygu sgiliau pellach ymhlith ei staff ariannol uwch, gan gynnwys y gallu i fynd i’r afael â pherfformiad gwael, cymell ac ysbrydoli staff i arloesi ac i asesu’n rheolaidd y gwerth i gleifion, i staff ac i gymdeithas. Roedd hefyd yn bwysig bod y garfan yna’n ymrwymo i sicrhau’r gwerth mwyaf ar draws y sefydliad cyfan.
Gyda’r amcan hwn mewn cof, gwnaeth Addysg Weithredol y Brifysgol, y tîm uned DPP, ac arweinwyr Academi Cyllid GIG Cymru weithio i greu rhaglen i alluogi’r garfan hon i wireddu eu potensial llawn fel penseiri allweddol sefydliadau gofal iechyd llwyddiannus iawn, effeithiol ac effeithlon.
Yr ymagwedd: creu rhaglen hyfforddiant pwrpasol ar y cyd
Rhan allweddol o’r rhaglen bwrpasol hon oedd yr ymgynghori ag Academi Cyllid GIG Cymru cyn cynnal yr hyfforddiant. Mae gan Addysg Weithredol gryn brofiad o weithio gyda sefydliadau i ddeall eu hanghenion, diwylliant sefydliadol, cyfleoedd a heriau sy’n bodoli. Cynhaliwyd sawl cyfarfod gydag Academi Cyllid GIG Cymru a’r cyflwynwyr academaidd er mwyn teilwra’r sesiynau a addysgwyd i gyd-destun y sefydliad.
Ein prif amcan o fewn gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, fel Prifysgol, yw sicrhau bod y ddwy ochr yn elwa ar y dysgu. Rydym bob amser yn ceisio ymgorffori dysgu yn y sefydliad, wrth ddatblygu arbenigedd ar lawr gwlad i barhau i ddatblygu gwybodaeth ar ôl cwblhau’r rhaglen hyfforddi.
Cynnwys y cwrs
Cyflwynwyd y rhaglen drwy gymysgedd o sesiynau a hwyluswyd yn yr ystafell ddosbarth a phroffiliau personoliaeth, fel rhan o rhaglen ehangach o weithgarwch yr Academi Cyllid.
Pynciau
Roedd y rhaglen ddysgu’n cyd-fynd â’i strategaeth Pobl, Arloesedd, Partneriaeth a Rhagoriaeth ac yn ymdrin â’r meysydd allweddol canlynol: Arweinyddiaeth, Gofal Iechyd, Arloesed, Arbenigedd Ariannol, Datblygiad Personol a Myfyrio.
Roedd y modiwlau’n cynnwys:
- Gwerth Cyhoeddus ac Arweinyddiaeth Gydweithredol Cenedlaethau’r Dyfodol
- Strategaeth ac Arloesedd
- Dadansoddi Data er Da
- Cyflwyno Data a Thystiolaeth i Gynulleidfaoedd Clinigol
- Dadansoddi a Rheoli Cynaliadwyedd Ariannol.
Roedd y rhaglen ddysgu hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd dyddiol a oedd yn cyflwyno lleisiau a safbwyntiau gwahanol.
Addysgu Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd
Roedd y rhaglen Addysg Weithredol yn bwysig iawn i ni yn yr Ysgol Busnes, oherwydd ers diwedd 2015, rydym wedi ymrwymo i’n strategaeth Gwerth Cyhoeddus, ac oherwydd hynny, ni yw Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd.
Yn syml, mae hyn yn golygu ein bod yn ceisio cyflwyno gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â datblygiad economaidd. Rydym yn gwneud hyn drwy gydnabod rôl busnes a rheolaeth wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr yn y gymdeithas gyfoes.
Drwy groesawu gwaith rhyngddisgyblaethol gyda chydweithwyr academaidd, partneriaid busnes a’r trydydd sector, credwn y gallwn helpu i ddatrys amrywiaeth o broblemau cymdeithasol ac ailddiffinio sut mae pobl yn meddwl am fusnes a rheolaeth.
Rydym wedi gallu cyfrannu at y genhadaeth honno drwy weithio mewn partneriaeth ag Academi Cyllid GIG Cymru. Trwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol yn y GIG yng Nghymru, gallwn eu helpu i arwain eu sefydliadau yn well, gan symud oddi ar dargedau mympwyol a chylchoedd cyllideb blynyddol i gefnogi mathau mwy blaengar o wella system yn ariannol, gan wella gofal cleifion y tu hwnt i ffiniau sefydliadol.
Yn ddiweddar, dyfarnwyd Diploma mewn Cynllunio Gofal Iechyd GIG Cymru i ni, a byddwn yn ceisio cyflawni’r un nodau yn y fenter addysg bwysig hon.
Canlyniadau ac adborth
Rhoddodd y cynadleddwyr adborth ar ba mor wybodus yr oeddent yn teimlo oedd y cyflawnwyr academaidd, yn ogystal â pha mor effeithiol yr oeddent yn gallu trosglwyddo'r wybodaeth honno yng nghyd-destun GIG Cymru a'u rolau fel darpar Gyfarwyddwyr Ariannol. Adroddodd y cynrychiolwyr eu bod yn gweld bod dull y cwrs yn caniatáu “cyfleoedd iddynt drafod sefyllfaoedd bywyd go iawn mewn grwpiau bach ac ehangach”, a oedd yn arbennig o fuddiol wrth drosi gwybodaeth a arweinir gan ymchwil yn gynnwys ystyrlon a gweithredadwy.
Amcan sylweddol o’r rhaglen oedd adeiladu carfan. Teimlai cynadleddwyr eu bod wedi cael cyfle gwych i gael “trafodaethau ac adborth eang, gan wella gwerth y rhaglen”. Gwelwyd y sesiynau Arweinyddiaeth Gwydnwch a Systemau o fudd yn arbennig, a chafwyd adborth gwych amdanynt.
Gig Cymru / Diploma Llywodraeth Cymru mewn Cynllunio Gofal Iechyd
Roedd yn bleser gan Ysgol Busnes Caerdydd ennill y cyfle i weithio gyda 125 o gynllunwyr ar draws amrywiaeth o sefydliadau gofal iechyd GIG Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Mae’r rhaglen hon yn un rhyngddisgyblaethol er mwyn cynnig yr amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen mewn rôl gynllunio. Mae’n cynnwys yr Ysgol Busnes, yr Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Meddygaeth, a chaiff ei haddysgu mewn deuddydd yn olynol gyda gweithgareddau e-ddysgu ategol. Mae gweithio gyda Rhaglen Cynllunio GIG Cymru ar gyfer Dysgu ac Academi Cyllid GIG Cymru yn cynnig cyfle ardderchog i ni greu newid cadarnhaol yng ngofal iechyd Cymru.
Adborth gan gyfranogwyr
Cysylltwch â ni
Os hoffech chi siarad â ni am sut y gallem ni ddylunio a chyflwyno rhaglen debyg mewn cydweithrediad â'ch sefydliad, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar yn yr Uned DPP am drafodaeth anffurfiol gychwynnol:
Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.