Ewch i’r prif gynnwys

Mwyngloddiau Mynydd Isa yn Awstralia

Mount Isa Mines career professional development group.

Yn 2019, teithiodd yr Athro Tom Blenkinsop, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd, a’r myfyriwr PhD Ben Williams, i Fwyngloddiau Mynydd Isa yn Awstralia yn rhan o becyn ymgynghorol 10 niwrnod.

Yn ogystal ag ymgymryd â gwaith maes, cyflwynodd Tom a Ben weithdy DPP i 14 o ddaearegwyr mwyngloddio ynghylch rheolyddion posibl ar gyrff mwyn ym Mwyngloddiau Mynydd Isa.

Mynydd Isa yw cartref ail fwynglawdd mwyaf Awstralia sy’n cynhyrchu copr, yn ogystal ag un o’r gwaddodion arian-plwm-sinc mwyaf yn y byd. Ystyrir yr ardal o gannoedd o gilometrau sgwâr sy’n amgylchynu’r mwynglawdd yn lleoliad arfaethedig ar gyfer gwaddodion copr, a gellir eu cyfuno ag elfennau gwerthfawr eraill megis aur a haearn.

Y cleient

Mwyngloddiau Mynydd Isa yw un o’r rhaglenni mwyngloddio mwyaf yn Awstralia, ac mae’n gonglfaen i economi talaith Queensland. Mae mwyngloddio wedi bod wrth galon yr annedd ger Mynydd Isa ers 1924. Mae’r diwydiant yn cyflogi dros 3,200 o bobl ac yn cynnal rhaglenni cymunedol mawr ar gyfer iechyd, addysg a diwylliant. Mae’r cwmni’n mwyngloddio copr a sinc, a ddefnyddir mewn teclynnau trydan ac ar gyfer galfanu dur diwydiannol yn y drefn honno.

Y rhaglen

Cyflwynodd Tom a Ben weithdy hyfforddiant hanner diwrnod o’r enw‘Disgrifio a Dosbarthu Cerrig wedi’u Hanffurfio’, a ystyriodd reolyddion posibl ar gyfer cyrff mwyn ym Mwyngloddiau Mynydd Isa.

Roedd y pynciau’n cynnwys:

  • ystyron anffurfiadau brau a hydwyth
  • y trawsnewidiad brau-hydwyth
  • meysydd dadleoli a pharhad
  • mecanweithiau anffurfio
  • strwythur crisialau

Hefyd, amlinellodd Ben egwyddorion bras ei draethawd PhD, o’r dan y teitl ‘Foliation Boudinage’, sydd â’r nod o ddeall ffurfiant cyrff mwyn copr.

Yn rhan olaf y gweithdy bu “clinig” er mwyn i ddaearegwyr Mwyngloddiau Mynydd Isa drafod problemau y maent yn eu hwynebu bob dydd wrth fapio’n danddaearol ac amlinellu adnoddau newydd.

Cwrs byr ar-lein

Bydd rhywfaint o ddeunyddiau’r gweithdy yn cael ei gyflwyno mewn cwrs ar-lein o’r enw “Daeareg Strwythurol ar gyfer y Diwydiant Fforio a Mwyngloddio” a ddatblygwyd gan Tom, ac sy’n cael ei gynnal yn rheolaidd. Gellir cynnal y cwrs hwn hefyd fel cwrs pwrpasol neu wedi'i deilwra ar gyfer eich sefydliad penodol chi. Cysylltwch â ni trwy’r ebost isod am sgwrs gychwynnol.

Cadwch lygad ar wefan Future Learn am fanylion, neu dilynwch ni ar Twitter a LinkedIn.

Mae'r graffig hwn yn olrhain esblygiad y cwrs daeareg strwythurol, ac yn arddangos sut mae DPP yn cyfrannu at amcanion strategol y Brifysgol.

Diagram showing evolution of structural geology course

Cysylltwch â ni

Os hoffech ddysgu mwy am sut gallwn eich helpu i ddatblygu rhaglen hyfforddiant DPP pwrpasol, cysylltwch â’n Huned DPP cyfeillgar:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus