Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol

Mae’r Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol (ITPP) wedi'i chynllunio er mwyn hwyluso datblygiad academaidd y cyfranogwyr a gwella eu harferion dysgu, addysgu ac addysgegol.

Bydd cyfranogwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth eang o'r cyd-destun addysgol ym maes Addysg Uwch yn y DU, gan osod myfyrwyr a'u profiadau dysgu wrth wraidd y gwaith.

Mae’r rhaglen wedi esblygu a thyfu’n sylweddol ac mae bellach yn tynnu ar dros 115 o academyddion o 12 ysgol academaidd, 25 o staff y gwasanaethau proffesiynol o dimau amrywiol, a chwe phartneriaeth â darparwyr allanol. Mae'r Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol (ITPP) yn seiliedig ar yr un ymdeimlad hynny o gydweithio, sy'n ein galluogi i gynnig rhaglen ddisgyblaeth-benodol sy'n cyd-fynd ag arferion a diddordebau'r sawl sy’n cymryd rhan ynddi.

Mae'r Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol (ITPP) yn seiliedig ar yr un ymdeimlad hynny o gydweithio, sy'n ein galluogi i gynnig rhaglen ddisgyblaeth-benodol sy'n cyd-fynd ag arferion a diddordebau'r sawl sy’n cymryd rhan ynddi.

Y Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol (ITPP) ydy un o'r pethau gorau sydd erioed wedi digwydd i’r strategaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd hyn yn bosib drwy weledigaeth a gwerthoedd y tîm craidd, a'u hymrwymiad diwyro i ganfod ffyrdd cydweithredol o weithio ar bob lefel o'r rhaglen arloesol hon.
Deon Partneriaethau Rhyngwladol - Prifysgol Caerdydd

Cefndir

Ymdrech wirioneddol gydweithredol yw creu a gweithredu'r Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol (ITPP), sy'n cynnwys nifer o adrannau'r Brifysgol yn gweithio law yn llaw. Rhaglen gymhleth a hyblyg yw hon, ac sydd wedi’i theilwra i ofynion penodol pob sefydliad sy’n rhan ohoni. Mae academyddion a staff gwasanaethau proffesiynol o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, y tîm Iaith Saesneg a'r Uned DPP yn gweithio'n agos i ddatblygu a mireinio’r rhaglen ar gyfer pob carfan.

Ym mis Medi 2018, fe groesawodd Prifysgol Caerdydd 10 academydd o Brifysgol Guizhou i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant addysg ac arferion addysgeg bwrpasol dros gyfnod o 3 mis. Yn dilyn cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus ac adborth rhagorol gan y rhai a oedd yn cymryd rhan, danfonodd Brifysgol Guizhou ail ddirprwyaeth o academyddion i Gaerdydd, a oedd yn cynnwys 16 academydd o feysydd ar draws tri o Golegau Prifysgol Caerdydd y tro hwn.

Ym mis Ionawr 2020, daeth dirprwyaeth o 16 academydd o Brifysgol Feddygol Xuzhou i Gaerdydd i gymryd rhan yn y rhaglen.

Bu’n rhaid gohirio’r rhaglen yn ystod adeg Covid-19; ond ar hyn o bryd, rydyn ni’n cysylltu â sefydliadau amrywiol i drafod y posibilrwydd o ail-lansio'r rhaglen hon y flwyddyn nesaf.

Cynadleddwyr

Mae’r rhaglen Arferion Addysgu Arloesol yn bwrpasol a gellir ei haddasu i fodloni gofynion neu arbenigeddau penodol sefydliadau a chynadleddwyr sy’n cymryd rhan. Gwnaethom weithio’n agos â Phrifysgol Guizhou a Phrifysgol Feddygol Xuzhou i wneud yn siŵr fod gan bob hyfforddai y cyfle i arsylwi arferion addysgu o fewn eu disgyblaeth eu hunain, a gwnaethom hefyd drefnu teithiau maes a oedd yn ategu disgyblaethau’r cynadleddwyr.

Medi 2018

Cynadleddwyr ym maes y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Prifysgol Guizhou, Tsieina.

Medi 2019

Cynadleddwyr sy’n gweithio o fewn amrywiaeth o ddisgyblaethau a addysgir ar draws tri o Golegau Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys microbioleg, athroniaeth, peirianneg sifil ac ieithoedd. Roedd y grŵp hwn hefyd yn cynnwys arweinwyr y brifysgol a gwblhaodd fodiwl Arweinyddiaeth Dysgu ac Addysgu ym maes Addysg Uwch ychwanegol. Prifysgol Guizhou, Tsieina.

Ionawr 2020

Prifysgol Feddygol Xuzhou, Tsieina. Mae’r academyddion meddygol sydd ag arbenigeddau ar draws ystod o feysydd yn cynnwys:

  • nyrsio
  • radioleg
  • ffisioleg
  • anatomeg
  • pediatreg
  • dadansoddi fferyllol
  • ffisioleg ar gyfer anesthesia
  • gynaecoleg
  • meddygaeth adsefydlu
  • llawdriniaeth wrolegol
  • meddygaeth fewnol: arenneg
  • clefyd heintus / clefyd yr afu

Trosolwg o’r rhaglen ddysgu

Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i gynnig:

  • dealltwriaeth gadarn o agweddau ar ddull dysgu, addysgu ac arferion addysgeg Prifysgol Caerdydd ar draws ystod o ddisgyblaethau (yn dibynnu ar ofynion y cleient)
  • dealltwriaeth o amrywiaeth o strategaethau addysgu a sut y gall cyfranogwyr ddefnyddio technolegau arloesol i gefnogi dysgu ac addysgu
  • mwy o ymwybyddiaeth o sut y mae Prifysgol Caerdydd yn defnyddio arferion cynhwysol i gefnogi anghenion amrywiol myfyrwyr.
  • dealltwriaeth o ddylunio cwricwlwm a’i berthynas ag asesu er mwyn cefnogi cynnydd ac ymgysylltiad myfyrwyr
  • sgiliau i fyfyrio ar arferion proffesiynol o ran addysgu

... mae'r ITPP wedi chwarae rhan bwysig yn ein diwygiad ... Hyfforddi darpar anesthesiolegyddion y dyfodol ar raddfa fawr. A ninnau’n aelod blaenllaw o'r Pwyllgor Llywio ar Gyflawni Rhaglen Anaesthesioleg ar gyfer Sefydliadau AU yn y Weinyddiaeth Addysg [yn Tsieina], rydyn ni ar flaen y gad wrth arwain y gyfres nesaf o ddiwygiadau ar hyfforddi israddedigion... Bu imi ymweld â cholegau meddygol (Prifysgol Feddygol Weifang, Prifysgol Feddygol Anhui, Coleg Meddygol Xiangya) er mwyn rhannu ein profiadau [ITPP] gyda nhw.
Cyfranogwr 2020

Yn y Rhaglen Ymarfer Addysgu Arloesol (ITPP), ceir pum prif linyn sy’n ganolog iddi:

  • modiwlau craidd - sy’n cael eu harwain gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • sesiynau arsylwi - gyda grwpiau mawr, grwpiau bach, ac asesu ar gyfer dysgu
  • rhaglenni iaith Saesneg a sgiliau astudio
  • sesiynau gwybodaeth
  • gweithgareddau diwylliannol ac addysgol

Modiwlau craidd

Modiwl 1: Dysgu, addysgu ac arferion addysgeg ym maes Addysg Uwch

Yn y modiwl hwn, bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn trin a thrafod ystod o strategaethau dysgu ac addysgu: yn benodol, y defnydd o dechnolegau arloesol i gefnogi dysgu ac addysgu; arferion cynhwysol i gefnogi anghenion amrywiol myfyrwyr; ystyried y broses o ddylunio’r cwricwlwm, gan gynnwys natur a ffyrdd o asesu er mwyn cefnogi cynnydd ac ymgysylltiad; a llais myfyrwyr, gan gynnwys ymgysylltu â myfyrwyr fel partneriaid wrth ddylunio a chyflwyno’r cwricwlwm.

Modiwl 2: Cyflwyno achos a myfyrdodau ar arferion

Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle ichi arsylwi addysgu sy’n digwydd mewn grwpiau bach, grwpiau mawr, a’r asesu ar gyfer dysgu a ddefnyddir o fewn disgyblaethau perthnasol. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn y modiwl hwn yn datblygu astudiaethau achos eu hunain, gan ddefnyddio a chymhwyso damcaniaethau a myfyrdodau personol ar yr arfer ddysgu drwy ddeialog.

Sesiynau arsylwi

Ochr yn ochr â’r modiwlau hyn, mae gan cyfranogwyr y cyfle i arsylwi darlithoedd Prifysgol Caerdydd yn eu disgyblaethau eu hunain trwy gydol y rhaglen. Caiff y profiadau hyn eu cyfuno â seiliau damcaniaethol a myfyrir arnynt drwy brofiadau dysgu sgyrsiol.

Modiwlau ychwanegol

Rydym yn gweithio’n agos â’r sefydliad sy’n cymryd rhan er mwyn nodi a chyflwyno modiwlau neu feysydd astudio newydd. Er enghraifft, roedd un o’r rhaglenni’n cynnwys trydydd modiwl ar gyfer y cynadleddwyr hynny mewn rôl arweiniol yn eu prifysgol eu hunain.

Modiwl 3 - Arweinyddiaeth Dysgu ac Addysgu ym maes Addysg Uwch

Cafodd y modiwl hwn ei ddylunio ar gyfer aelodau o’r rhaglen sydd â/sy’n dyheu am rolau arweinyddiaeth o fewn dysgu ac addysgu. Roedd yn archwilio’r heriau sy’n gysylltiedig ag ymgymryd â rôl arwain addysgu mewn cyd-destun academaidd. Mae’r modiwl hwn hefyd yn ystyried safbwyntiau ar arweinyddiaeth, ac yn talu sylw at yr heriau sy’n gysylltiedig ag arwain gyda dylanwad mewn cyd-destun academaidd.

Sesiynau iaith Saesneg

Mae’r rhaglen hon yn dechrau gyda phythefnos o sesiynau iaith Saesneg pwrpasol er mwyn datblygu sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu sy’n berthnasol i weddill y rhaglen addysgu.  Mae'r rhain yn sesiynau hollbwysig sy’n galluogi’r sawl sy’n cymryd rhan i addasu i amgylchedd ieithyddol a diwylliannol newydd, tra'n datblygu hyder i gyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg. Ar ôl hyn, cynhelir sesiynau cefnogi iaith Saesneg ddwywaith yr wythnos a thiwtorialau un-i-un er mwyn cynnig cefnogaeth ychwanegol.  Bydd y sesiynau hyn yn paratoi’r sawl sy’n cymryd rhan ar gyfer y modiwlau addysgu drwy ymdrin â phynciau perthnasol, megis defnyddio iaith fyfyriol, trafod materion sy'n gysylltiedig ag addysgu, sgiliau cyflwyno, a defnyddio iaith i gyflwyno dadl neu gyfiawnhau/amddiffyn syniadau.

Sesiynau gwybodaeth

Mae ein sesiynau gwybodaeth yn rhoi mynediad a chyfleoedd i’r rhai sy’n cymryd rhan ynddynt i rwydweithio gyda’r tîm rheoli a’r gwasanaethau cymorth dysgu i fyfyrwyr sy’n gyfrifol am greu amgylchedd o ragoriaeth dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gweithgareddau diwylliannol ac addysgol

Rydyn ni hefyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a chyfleoedd i unigolion gryfhau eu cyd-berthnasau, adeiladu cymuned ddysgu gydlynol, a dathlu diwylliant Tsieineaidd a Chymreig.  Mae digwyddiadau, sef y cinio croeso a’r seremoni dystysgrifau ar ddiwedd y rhaglen, yn nodi dechrau a diwedd Rhaglen ITPP.

Canlyniadau ac effaith

Rydyn ni’n wrthi’n mireinio ac yn datblygu’r rhaglen hon yn barhaus, a hynny ar sail yr adborth gan yr unigolion sydd wedi cymryd rhan ynddi, a myfyrdodau gan gydweithredwyr ehangach.

Anogwn yn gryf i’r rheiny sy’n cymryd rhan gynnig adborth sy’n onest a manwl, ac fe wnawn hyn:

  • yn ddyddiol, ym mhob sesiwn addysgu
  • yn wythnosol, mewn cyfarfodydd a gynhelir gan y tîm craidd a'r 'arweinwyr' neu gynrychiolwyr y garfan
  • drwy ddosbarthu holiadur ffurfiol cyn, yn ystod, ac ar ôl y rhaglen

Rydw i wedi gwrando’n fwy astud, wedi dod yn fwy agored i farn ac awgrymiadau’r myfyrwyr, wedi rhannu fy syniadau gyda nhw, ac wedi rhoi cynnig ar ddulliau addysgu mwy amrywiol o fewn yr ystafell ddosbarth... er mwyn annog myfyrwyr i fod yn fwy egnïol yn y dosbarth... bu newidiadau sylweddol yn fy myfyrwyr o ran eu brwdfrydedd, eu hymgysylltiad, a’u dealltwriaeth o’r cynnwys a’u perfformiad academaidd.
Cyfranogwr 2019

Ers i’r cyfranogwyr ddychwelyd i Tsieina, rydyn ni wedi cadw mewn cysylltiad â nhw drwy gynnal arolygon rheolaidd (un ar ôl tri mis, chwe mis a dwy flynedd), yn ogystal â chyfarfodydd rhithwir er mwyn cael dal pen rheswm a myfyrio ar y cyd ar eu profiadau o ran y pandemig.  Mae hyn wedi bod yn help mawr inni allu gwerthfawrogi’r effaith y mae’r rhaglen wedi’i chael ar brofiad dysgu’r cyfranogwyr, ac yn nodi sut maent wedi lledaenu yr hyn a ddysgon nhw o fewn eu sefydliadau. Cawsom wybod am brosiectau, mentrau a gwobrau sy'n gysylltiedig ag addysg, ac rydyn ni hefyd wedi casglu adborth manwl ar yr effaith hirdymor y mae’r rhaglen yn ei chael.

Soniodd y cyfranogwyr eu bod wedi symud ymlaen i gefnogi cydweithwyr a rhannu’r hyn a ddysgon nhw mewn amryw ffyrdd (yn Tsieina ac yn UDA), gan gynnwys:

  • rhoi cyflwyniadau/seminarau/darlithoedd
  • cyflwyno mewn cynadleddau dysgu ac addysgu
  • ysgrifennu adroddiadau academaidd
  • rhannu profiadau yn ystod cyfarfodydd/fforymau adrannol
  • datblygu deunyddiau dysgu
  • ymgymryd â gweithgareddau adolygu gan gymheiriaid
  • cymryd rhan mewn trafodaethau anffurfiol yn feunyddiol

Mae'r Rhaglen Arferion Addysgu Arloesol (ITPP) yn rhoi pwyslais mawr ar addysgwyr sy'n gweithio mewn partneriaeth â chyfranogwyr, a phwysigrwydd cynnig cyfleoedd go iawn i ennyn a chael adborth. Wedi iddyn nhw gael blas ar wneud hyn drwy’r rhaglen ITPP, mae’r cyfranogwyr yna’n mynd ati i gymhwyso’r hyn a ddysgon nhw ac a ddefnyddion nhw i’w harferion dysgu eu hunain.  O ganlyniad, maent yn medru gwerthuso perfformiad myfyrwyr mewn modd cryfach a mwy cadarnhaol, gan geisio ymgorffori’r adborth a gawson nhw gan fyfyrwyr i mewn i’w harferion addysgu.  Mae hyn yn annog dysgu dwyochrog, gan alluogi myfyrwyr y cyfranogwyr i lunio a dylanwadu ar ddylunio addysgegol, sydd yn ei dro yn caniatáu i'n cyfranogwyr ddeall a diwallu anghenion eu myfyrwyr unigol yn well.

Mae'r addysgu, yr arsylwi, y profiad a'r drafodaeth [ym Mhrifysgol Caerdydd] wedi rhoi min ar fy syniadau, fy nulliau a’m sgiliau addysgu ac wedi fy ysgogi i weithredu’n briodol. Dros y 3 blynedd diwethaf, rydw i wedi gwneud 3 chwrs israddedig a 2 gwrs ôl-raddedig. Rydw i hefyd wedi gwneud cais am brosiectau diwygio addysg ac wedi ennill 5 ohonynt, ac wedi bod o gymorth i fyfyrwyr wrth ysgrifennu eu hachosion cwrs a enillodd y gystadleuaeth ar gyfer y radd broffesiynol ym maes cyllid. Ar hyn o bryd, rwy'n ysgrifennu llyfr ar reoli addysgu ym maes bancio masnachol, a fydd yn cael ei gyhoeddi eleni.
Cyfranogwr 2018

... Mae [yr ITPP] wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar wella dysgu, brwdfrydedd ac effeithiolrwydd y myfyrwyr... Mae eu dawn a'u perfformiad academaidd wedi'u cryfhau'n sylweddol.
Cyfranogwr 2019

Mae dyfnder y dysgu, meddwl yn feirniadol, cyfathrebu, cydweithio, ymreolaeth a sgiliau datrys problemau y myfyrwyr wedi gwella'n sylweddol.
Cyfranogwr 2020

Mae’r adborth gan ein cyfranogwyr yn dangos natur helaeth y syniadau, yr arferion a'r dulliau o ddysgu ac ymgysylltu â myfyrwyr y maent wedi'u rhoi ar waith ers iddynt gwblhau'r rhaglen ITPP. Ochr yn ochr â'r gweithgareddau lledaenu amrywiol, mae hyn yn awgrymu symud i ffwrdd o'r dulliau addysgu traddodiadol sy'n gysylltiedig â'r sefydliadau hyn, ac sy’n cael eu crybwyll yn aml gan y cyfranogwyr.

Mae pob carfan sydd wedi ymgymryd â'r ITPP wedi sefydlu perthnasoedd cryf ymysg ei gilydd sydd wedi annog ystod eang o ddulliau addysgu arloesol newydd. Mae'r cyfranogwyr wedi dod o hyd i ddiddordebau ymchwil a rennir ac wedi cefnogi ei gilydd wrth ymgorffori strategaethau addysgol yn eu priod ddisgyblaethau yn ôl yn eu sefydliadau cartref, yn ogystal â chydweithio ar waith newydd sy'n archwilio profiadau myfyrwyr/staff AU.

Mae hyn oll yn cael eu tystio’n ymhellach drwy lwyddiant y cyfranogwyr wrth iddynt:

  • ennill sawl gwobr am ragoriaeth ac arloesedd parhaus ym maes dysgu ac addysgu (yn lleol ac yn genedlaethol)
  • ymgeisio am astudiaethau doethurol a chael dyrchafiadau swydd mewn sefydliadau academaidd o fri
  • arwain gweithgareddau dysgu ac addysgu yn adrannol a ledled y sefydliad.
  • sicrhau sawl grant ar gyfer prosiectau addysgu arloesol (a ddyfarnwyd gan brifysgolion a chanolfannau addysgu daleithiol)
  • cynnal ymweliadau a chyflwyno prif anerchiadau academaidd (ym maes economeg) a chyfleoedd i fod yn gymrawd gwadd anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd (ym maes nyrsio)
  • cydweithrediadau ymchwil ar y cyd (ym maes busnes) ym Mhrifysgol Caerdydd
  • ysgrifennu/cyd-ysgrifennu gwaith academaidd, a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion rhyngwladol ac a adolygwyd gan gymheiriaid, sy’n canolbwyntio ar arferion addysgegol arloesol

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi siarad â ni am sut y gallem ni ddylunio a chyflwyno rhaglen debyg mewn cydweithrediad â’ch sefydliad, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar am drafodaeth anffurfiol gychwynnol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus