Gwella gwybodaeth feddygol yn Legal and General
Partneriaeth barhaus rhwng Prifysgol Caerdydd a Legal and General Assurance Society (L&G) i gyflwyno hyfforddiant meddygol ar gyfer yswirwyr meddygol ac aseswyr hawliadau.
Mae angen i Yswirwyr ac Aseswyr Hawliadau L&G ddehongli ac asesu gwybodaeth feddygol, fodd bynnag nid oes gan y rhan fwyaf gefndiroedd meddygol. Ers 2002, mae rhaglen wedi’i chyflwyno i ddarparu staff gyda sylfaen mewn gwybodaeth feddygol er mwyn hwyluso a gwella eu perfformiad asesu risg.
Datblygiad partneriaeth
Mae’r ddarpariaeth ddiweddaraf, ‘Modiwlau Meddygol Arbenigol’, wedi’i strwythuro o amgylch 11 modiwl gwahanol sy’n ymdrin â phynciau penodol, gan gynnwys Niwroleg, Haematoleg, Endocrinoleg ac Anhwylderau Systemig.
Mae cynnwys a dyluniad yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a L&G, ac mae’n cael ei adolygu yn rheolaidd drwy gydol y rhaglen:
- Nododd L&G pa bynciau meddygol oedd yn cynhyrchu’r mwyaf o atgyfeiriadau.
- Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd Ddadansoddiad o Anghenion Hyfforddi i amlygu’r prif feysydd lle byddai cynadleddwyr yn elwa ar hyfforddiant.
- Treuliodd academyddion y brifysgol amser yn L&G i feithrin dealltwriaeth glir a chynhwysfawr o weithdrefnau gweithio penodol.
- Fe wnaeth trafodaethau rhwng partneriaid sefydlu’r dulliau dysgu mwyaf effeithiol.
Mae’r dull cyfun hwn yn galluogi datblygu modiwlau sy’n adlewyrchu union anghenion y cynadleddwyr, L&G a’u cwsmeriaid.
Canlyniadau oedd y tu hwnt i ddisgwyliadau
Mae’r gwelliannau yng ngwybodaeth a hyder cynadleddwyr wedi mynd ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau O ganlyniad uniongyrchol i’r cwrs mae L&G wedi nodi gwelliannau
Gwasanaeth gwell i gwsmeriaid
- Lleihad mewn gwallau ac ansawdd gwell o ran penderfyniadau.
- Gwneud penderfyniadau cynt oherwydd llai o atgyfeiriadau allanol
Buddiannau staff
- Staff mwy hyderus.
- Rhaeadru gwybodaeth.
- Gwaith tîm gwell rhwng yr adrannau yswiriant a hawliadau ac ar draws safleoedd.
- Galw gan staff i fynychu’r hyfforddiant.
- Ymrwymiad parhaus a gwell gan unigolion i’w datblygiad.
Budd masnachol
- Mwy o hyder gan ail-yswirwyr, yn galluogi negodi telerau mwy ffafriol.
- Lleihad enfawr mewn atgyfeiriadau gan y Prif Swyddog Meddygol bob mis, gan arwain at arbedion costau sylweddol.
- L&G yn cael eu hystyried fel arweinwyr yn eu maes.
- Mae cryfder y cydweithio wedi’i gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladoldrwy wobrau hyfforddi amrywiol, astudiaethau achos arfer da, a cheisiadau am hyfforddiant tebyg gan sefydliadau eraill yn y sector.
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.