Cyfres Gweminarau Oncoleg Gymunedol wedi'i chreu a'i chyflwyno yn ystod COVID-19
Rhaglen o 6 gweminar a grëwyd yn ystod pandemig COVID-19 i ddarparu DPP am ddim i weithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol.
Y ddarpariaeth bresennol
Mae'r tîm Gofal Lliniarol yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol wedi bod yn cyflwyno cyrsiau byr effeithiol ers sawl blwyddyn. Mae'r tîm, gyda chefnogaeth yr Uned DPP, wedi creu cyfres o gyrsiau DPP a modiwlau lefel ôl-raddedig annibynnol mewn agweddau ar ofal lliniarol a diwedd oes. Mae yna hefyd MSc mewn Meddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.
Sefydlwyd y cwrs Oncoleg Gymunedol yn 2019 fel sesiwn wyneb yn wyneb 1 diwrnod o hyd, wedi'i gynllunio i ddarparu'r adnoddau mwyaf diweddar ar gyfer meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol. Roedd y sesiwn yn boblogaidd iawn ac yn wreiddiol roedd i fod i gael ei gynnal eto yn 2020. Bu'n rhaid canslo hyn wrth i dimau gofal iechyd lleol baratoi ar gyfer gwasanaethau yn ystod y cyfnod clo a'r pandemig.
Y tîm
Dr Mick Button
Consultant Oncologist, Velindre Cancer Centre
Charlotte Stephenson
Development Officer – College of Biomedical and Life Sciences
- stephensoncj1@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9119
Dr Elise Lang
Macmillan GP, Velindre Cancer Centre
Effaith COVID-19
Ar ôl dechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020 bu newidiadau angenrheidiol i'r broses o ddarparu gofal iechyd, gan gynnwys gofal sylfaenol ac oncoleg, i amddiffyn y GIG rhag niferoedd llethol o gleifion o ganlyniad i COVID-19. Cynyddodd gofynion iechyd y boblogaeth leol o ganlyniad i'r newidiadau parhaus a gafwyd yn ystod y pandemig ac i'r broses o ddarparu gwasanaeth.
Mae effaith y pandemig ar reoli cyflyrau iechyd cronig a chanser wedi bod yn amlwg – gyda chleifion canser newydd yn amharod i ofyn am gyngor a diagnosis, ac opsiynau darparu triniaeth yn newid.
Disgwylir i nifer bosibl y cleifion canser gynyddu wrth i'r pandemig leddfu, ac mae ystadegau yn tystio i hyn eisoes. Mae mynediad at ofal iechyd wedi dod yn fwy cymhleth, a newidiodd trefniadau lleol ar gyfer addysg a chefnogaeth yn fawr gydag diffyg absenoldeb astudio, llwyth gwaith cynyddol, a phellter cymdeithasol yn ei gwneud hi'n anymarferol i addysgu wyneb yn wyneb.
Arweiniodd diddordeb y cyfryngau mewn gofal iechyd, gan gynnwys mynediad yn gyffredinol a rheoli canser yn benodol, at geisiadau am gefnogaeth ac addysg gan gydweithwyr.
Yr ateb
Gan ymateb i'r angen brys am gefnogaeth mewn gofal sylfaenol ar gyfer diagnosio a rheoli canser sy'n deillio o bandemig COVID 19, cyflwynodd grŵp cydweithredol bum gweminar amser cinio ar bynciau oncoleg gymunedol.
Mae'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol (LlC 2021) yn pwysleisio'r angen am fwy o gydweithio rhwng timau gofal sylfaenol ac eilaidd. Gall rhaglenni addysg fel hyn gefnogi cydweithredu o'r fath, gan wella ymwybyddiaeth timau gofal sylfaenol ynghylch diagnosis, triniaeth a sut mae gofal yn cael ei drefnu / darparu a all yn ei dro gefnogi gwell gofal clinigol, gan gynnwys diagnosis cynharach a rheoli problemau brys sy'n gysylltiedig â chanser.
Roedd y tîm Oncoleg Gymunedol yn ymwybodol iawn bod y gynulleidfa darged yn cynnwys gweithwyr rheng flaen a oedd dan bwysau aruthrol oherwydd COVID-19 ac nad oedd ganddynt lawer o amser ar gyfer hyfforddiant DPP; fodd bynnag, roedd y tîm hefyd yn awyddus iawn i ddarparu adnodd am ddim er mwyn cefnogi staff.
Yn ogystal, gan fod nifer yr atgyfeiriadau oherwydd canser wedi gostwng yn ddiweddar (gan fod llai o gleifion yn rhoi gwybod am symptomau yn ystod y pandemig) roedd yn amlwg bod angen brys i gefnogi timau gofal iechyd sylfaenol i reoli cleifion oncoleg yn y gymuned.
Defnyddiodd y tîm Gofal Lliniarol cyfunol ei arbenigedd i ddatblygu sesiynau datblygiad proffesiynol ar-lein a oedd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a oedd angen hyfforddiant ar wneud diagnosis a rheoli canser yn y gymuned.
Y rhaglen
Roedd y rhaglen yn ymdrin â 5 pwnc allweddol mewn Oncoleg Gymunedol, gyda chweched sesiwn yn cael ei darparu fel rhan o Ysgol Gwanwyn yr Uned DPP Ar-lein:
- Canserau GI
- Canser yr ysgyfaint
- Canserau o darddiad anhysbys
- Canserau'r croen
- Sgiliau cyfathrebu
- Canser mewn geriatreg (wedi'i ddarparu fel rhan o Ysgol Gwanwyn yr Uned DPP Ar-lein)
Ystyriodd pob sesiwn sut i ddiagnosio a rheoli'r canser dan sylw; roedd y sesiynau'n anffurfiol ac yn rhyngweithiol, ac yn defnyddio nodweddion fel arolygon cynulleidfa, sesiynau Holi ac Ateb a sgyrsiau; rhannwyd gwybodaeth rhwng y mynychwyr yn ogystal â gwybodaeth gan y panel arbenigwyr, gan ganiatáu i ni gynnal trafodaethau werthfawr yn seiliedig ar ymarfer.
- 92 (GI session)
- 100 (Lung session)
- 84 (Skin session)
Mae dadansoddiad pellach o'r ystadegau'n dangos mai'r sesiynau mwyaf poblogaidd yw GI a chanserau'r croen, a chanserau o darddiad anhysbys.
Gwnaethom gynnal arolygon effaith 11 wythnos ar ôl i'r hyfforddiant gwblhau, ac mae'r canlyniadau'n dangos yn glir bod cyfranogwyr yn dal i ddefnyddio'r gwaith dysgu bron i 3 mis yn ddiweddarach. Felly, mae'r dystiolaeth a gasglwyd yn dangos y gall DPP o ansawdd uchel fel y gyfres gweminar oncoleg hon uwchsgilio a gwella arferion timau gofal sylfaenol.
Adborth
Cysylltwch â ni
Os hoffech ddarganfod mwy am gyrsiau a gweithgareddau DPP ym maes oncoleg gymunedol, gofal lliniarol a diwedd oes, neu feysydd eraill meddygaeth a gofal iechyd, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm cyfeillgar:
Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus
Rydym yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau i ddatblygu a chyflwyno atebion dysgu pwrpasol, cost-effeithiol, perthnasol ac o ansawdd uchel.