Cyrsiau hyfforddiant pwrpasol
Mae gennym brofiad helaeth o weithio gyda sefydliadau i ddatblygu a sicrhau datrysiadau dysgu perthnasol, pwrpasol a chost-effeithiol o safon uchel.
Gallwn greu gweithgareddau hyfforddi a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Siaradwch â ni am sut y gallwn greu rhaglen bwrpasol neu fewnol ar eich cyfer chi.
Beth gallwn ni gynnig i'ch busnes
Rydym yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau i ddatblygu a chyflwyno atebion dysgu pwrpasol, cost-effeithiol, perthnasol ac o ansawdd uchel. Gallwn:
- gyflwyno cyrsiau o’n rhaglen bresennol yn benodol ar gyfer eich sefydliad
- teilwra cynnwys o’n cyrsiau sy’n addas i’ch busnes
- dylunio rhaglen neu weithgaredd hyfforddiant gwbl bwrpasol i fodloni amcanion eich sefydliad.
Mae’r dysgu’n ymarferol a rhoddir pwyslais penodol ar drafod a rhyngweithio, a chael gwybod sut y gall sgiliau a gwybodaeth newydd gael eu defnyddio yn y gweithle. Ein nod yw sicrhau y gall gweithwyr barhau i ddatblygu eu sgiliau i’r eithaf, a fydd yn helpu sefydliadau i fod yn arloesol, yn gystadleuol ac yn gyfoes bob amser.
Caiff ein darpariaeth hyfforddiant ei diweddaru’n gyson i adlewyrchu anghenion busnes a’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant.
Ategir ein cyrsiau gan ymchwil o’r radd flaenaf ac arbenigedd addysgu, a chânt eu llywio gan ein cysylltiadau agos â diwydiant, cyrff proffesiynol a’r sector cyhoeddus.
Yn dibynnu ar amcanion a phynciau, mae gweithgareddau DPP ar gael mewn ystod o fformatau – mae hyn yn cynnig hyblygrwydd ac yn bodloni gofynion unigol eich busnes.
Arbenigedd ar draws tri choleg
Mae gennym dri Rheolwr Datblygu Busnes, ac mae pob un ohonynt yn gweithio’n agos gydag un o’r Colegau:
- Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol - Phil Swan
- Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd - Charlotte Stephenson
- Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg - Kate Sunderland.
Uned DPP bwrpasol
Bydd yr Uned DPP yn borth ar eich cyfer ac yn eich cefnogi chi a’ch busnes i fanteisio ar arbenigedd ac ymchwil blaenllaw y Brifysgol ar draws ystod o ddisgyblaethau.
Byddwn yn cydweithio â chi, drwy’r broses o adnabod problem eich busnes hyd at ddylunio’r cwrs a gwerthuso’r hyfforddiant.
Mae hyn yn sicrhau ein bod yn deall eich busnes drwyddi draw, ac yn cynnig hyfforddiant sydd wedi’i deilwra’n benodol i ofynion eich sefydliad. Mae gweithio yn y ffordd hon yn ein galluogi i drin eich hyfforddiant mewn modd ymarferol a chreu canlyniadau pendant a allai gael effaith ar eich busnes ar unwaith.
Gallwn gynnig fersiynau wedi’u teilwra o gwrs byr neu raglen, neu ddatblygu rhywbeth yn benodol i’ch sefydliad drwy fanteisio ar arbenigedd y Brifysgol mewn ystod o ddisgyblaethau.
Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid
Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd y safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid® nodedig sy'n golygu gallwch fod yn sicr bod eich profiad gyda ni yn gadarnhaol a chyfeillgar.
Manylion cyswllt
Os hoffech drafod sut gall gweithio gyda ni fod o fudd i'ch busnes, ffoniwch neu ebostiwch ni i gael sgwrs anffurfiol gychwynnol neu llenwch ein ffurflen gofynion penodol.
Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.