Ewch i’r prif gynnwys

Ystyried addysgu: myfyrio ar addysg (ar-lein)

Bydd y cwrs yn rhoi ffordd strwythuredig i fyfyrwyr, yn benodol y rhai sy'n ystyried gyrfa addysgu neu gyflawni cwrs TAR, i fyfyrio ar yr addysgu safon uchel a'r profiadau dysgu sy'n gwneud athro 'da'.

Sesiynau byw gyda'r nos a chynnwys hunan-astudio hyblyg.

Emmajane Milton, Dr Alex Morgan, Dr Heather Pennington fydd eich hyfforddwr.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Dyluniwyd hwn yn bennaf fel cwrs cyflwyno i'r rhai sy'n ystyried gyrfa mewn addysgu.

Gellir ystyried y cwrs hefyd ar gyfer y rhai sydd ag elfen addysgu neu hyfforddi yn rhinwedd eu swydd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae'r cwrs hwn yn mynd â chi drwy'r broses o fyfyrio ar yr addysgu o safon a'r profiadau dysgu sy'n gwneud athro 'da'. Mae’r testunau eang yn cynnwys:

  • pam mae myfyrio yn bwysig
  • creu'r diwylliant, yr hinsawdd a'r ethos cywir
  • meddwl am addysgeg gynhwysol
  • meddwl am ddylunio ar gyfer dysgu
  • pwysigrwydd asesu i gefnogi dysgu
  • meddwl am gyflawni a phwysigrwydd rhyngweithio dysgu

Pynciau dan sylw

Yn dilyn wythnos gyflwyno'r rhaglen a fydd yn paratoi'r cyfranogwyr ar gyfer y cwrs, bydd y cwrs yn cynnwys saith sesiwn wythnos, sef:

  • wythnos 1 - paratoi ar gyfer dysgu
  • wythnos 2 - pwnc 1 - cyflwyniad I fyfyrio
  • wythnos 3 - pwnc 1 - cymhwyso modelau, gan asesu ansawdd ysgrifennu myfyriol
  • wythnos 4 - pwnc 2 - diwylliant, hinsawdd ac ethos
  • wythnos 5 - pwnc 2 - addysgeg gynhwysol
  • wythnos 6 - pwnc 3 - dadleuon allweddol 1) dylunio ar gyfer dysgu
  • wythnos 7 - pwnc 3 - dadleuon allweddol 2) asesu
  • wythnos 8 - pwnc 3 - dadleuon allweddol 3) rhyngweithio cyflenwi a dysgu

Manteision

  • bydd cynnwys a chyflwyniad y cwrs yn canolbwyntio ar gymhwysedd ac effaith ar arfer yn y gweithle
  • bydd yn rhyngweithiol iawn ac yn cael ei arwain gan athrawon ac addysgwyr profiadol o gyd-destunau ysgolion, Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU)
  • bydd y sesiynau'n cael eu cynnal trwy blatfform 'Dysgu Canolog' Prifysgol Caerdydd sy'n caniatáu ar gyfer rhyngweithio a hyblygrwydd y defnyddiwr
  • bydd yn archwilio rhai o'r dadleuon allweddol sy'n siapio addysgu a dysgu

Rhesymau dros astudio gyda ni

  • bydd hyfforddiant a ddarperir gan Brifysgol Caerdydd yn defnyddio cynnwys sydd ar flaen y gad
  • cyflwynir ein cyrsiau mewn ffordd gydlynol, â ffocws ymarferol, gan ddefnyddio enghreifftiau bywyd go iawn
  • mae ein tîm yn cynnig awyrgylch cyfeillgar, croesawgar a chefnogol er mwyn dysgu
  • mae ein tîm yn derbyn adborth rhagorol yn gyson gan ddysgwyr

Gwybodaeth ddefnyddiol am y cwrs hwn

  • bydd pob sesiwn yn cynnwys oddeutu 3 awr o ddysgu craidd yr wythnos, gyda chynnwys anghydamserol trwy ddeunyddiau a gweithgareddau wedi'u recordio ymlaen llaw/wedi'u paratoi a darllen, ac addysgu byw rhyngweithiol
  • addysgu byw bob wythnos am awr yn wythnosau 2-8 (wedi'i ddysgu gyda'r nos i sicrhau'r hyblygrwydd a'r cyfranogiad mwyaf posibl)
  • byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall (fel manylion mewngofnodi) yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs. Caiff y deunyddiau dysgu eu cyflwyno drwy Ddysgu Canolog a byddwch yn gallu cael gafael arnynt yn ystod y cwrs
  • ni fydd angen unrhyw offer arnoch oni bai am gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd da a chamera, a’r gallu i fewngofnodi i Zoom
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.