Ewch i’r prif gynnwys

Microbïom y perfedd mewn iechyd a chlefyd: darn coll o'r jig-so (ar-lein)

Mae gan microbïom y perfedd y potensial i newid arfer clinigol yn y dyfodol o ran rhagfynegi clefydau, atal clefydau a rheoli clefydau ac mae'n chwarae rhan hanfodol mewn sawl agwedd ar iechyd.

Bydd y cwrs hwn yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf sy'n seiliedig ar dystiolaeth am rôl y microbïom mewn llawer o gyflyrau a welir mewn gofal sylfaenol.Bydd hefyd yn cynnwys sesiwn ar drawsblaniad microbïom ysgarthol gan gastroenterolegydd o Gymru.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Bydd y digwyddiad wedi'i anelu at Feddygon, Meddygon Teulu/ Gastroenterolegwyr/ Nyrsys Gastroenteroleg Arbenigol/ Endosgopyddion/ Patholegwyr a hefyd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) megis Dietegwyr/ Maethegwyr.

Mae croeso i fyfyrwyr a chynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a chynigir gostyngiadau iddynt.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • cyflwyniad a throsolwg o'r microbïom a’i brif swyddogaethau (yn enwedig mewn imiwnedd a llid)
  • deall sut mae gan y sylweddau a wneir gan facteria'r perfedd lawer o rolau pwysig mewn iechyd, gan gynnwys rheoli pwysau, rheoli archwaeth, sensitifrwydd i inswlin a lleihau llid
  • archwilio'r dystiolaeth ddiweddaraf ar gyfer rôl microbïom mewn gordewdra, canser y colon a’r rhefr (CRC), syndrom coluddyn llidus (IBS) a chlefyd seliag (CD)
  • deall sut y gall y bwyd y mae pobl yn ei fwyta effeithio ar y microbïom
  • deall yr ymchwil ddiweddaraf a photensial therapiwtig trawsblaniadau microbïom ysgarthol

Pynciau dan sylw

  • gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth am rôl y microbïom mewn llawer o broblemau a welir ac a reolir yn gyffredin o fewn gofal sylfaenol (ee: gordewdra, syndrom coluddyn llidus, canser y colon a’r rhefr)
  • amrywiaeth microbïom mewn syndrom coluddyn llidus, clefyd seliag, sensitifrwydd glwten
  • rôl bosibl ar gyfer modiwleiddio microbïom wrth gefnogi triniaethau meddygol o'r cyflyrau hyn
  • ymchwil ar drawsblaniad microbïom ysgarthol ac ystyried ei botensial therapiwtig
  • pwysigrwydd ffyrdd iach o fyw a rôl ar gyfer cwnsela ffordd o fyw a gofal maeth
  • ffrwythau a llysiau, ffibr a bwydydd wedi'u heplesu i hyrwyddo amrywiaeth microbïom ac awgrymiadau ymarferol y gellir eu rhoi i gleifion i’w bwyta er mwyn cefnogi iechyd microbïom

Manteision

Rydym yn gobeithio cynnig hwn yn rhan o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus a achredir gyda Cholegau Brenhinol a Phroffesiynau Iechyd Perthynol yn ogystal â Chymdeithas Meddygaeth Ffordd o Fyw Prydain.

Bydd cynrychiolwyr yn cael cyfle i rwydweithio a'r potensial i gydweithio â staff eraill o Brifysgol Caerdydd a staff o sefydliadau addysg uwch eraill

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Bydd y diwrnod astudio ar-lein hwn yn cael ei gynnal ar Zoom, felly bydd angen cyfrifiadur neu dabled a Zoom ar bawb i gymryd rhan. Bydd dolenni i recordiadau a sleidiau yn cael eu cyflwyno hefyd.

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant meddygol, byr, gan gynnwys Cyflwyniad i Ddermoscopi a Gofal Lliniarol.