Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Radiograffeg

Diwrnod astudio cyffrous a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygiadau sydd ar ddod yn y proffesiwn radiograffeg, gan edrych ar feysydd gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (DA), addysg, delweddu cludadwy ac ymarfer estynedig.

Mae'r cwrs yn cyfateb i 6 awr Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Os ydych yn fyfyriwr, mae gennych hawl i le am bris gostyngol ar y cwrs hwn. Y ffi i'w thalu yw £40. Cysylltwch â Charlotte Stephenson ar stephensoncj1@caerdydd.ac.uk cyn archebu. Manylion pellach isod.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae’r diwrnod astudio hwn wedi’i anelu’n bennaf at staff Radioleg, gan gynnwys Radiograffwyr, Radiolegwyr, Ymarferwyr Cynorthwyol, Nyrsys Radioleg a chynorthwywyr Radioleg. Fodd bynnag, rydym yn croesawu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sy'n teimlo y bydd mynychu'r diwrnod astudio hwn o fudd i'w gwybodaeth a'u dealltwriaeth eu hunain.

Gostyngiad myfyriwr

Os ydych yn fyfyriwr, mae gennych hawl i le am bris gostyngol ar y cwrs hwn. Y ffi i'w thalu yw £40. Cysylltwch â Charlotte Stephenson ar stephensoncj1@caerdydd.ac.uk cyn archebu.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Prif nod y diwrnod astudio hwn yw rhoi dealltwriaeth a gwybodaeth ddyfnach i gynrychiolwyr o'r meysydd sy'n datblygu o fewn y proffesiwn Radiograffeg. Erbyn diwedd y dydd, dylech allu adnabod y newidiadau sy'n digwydd mewn addysg radiograffeg, yn enwedig mewn perthynas ag efelychu, wedi ehangu eich gwybodaeth am y defnydd o ymarfer radiograffeg cartref yn y DU, deall yn well sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn dod yn ei flaen ym myd radiograffeg a gwerthfawrogi datblygiad rhai meysydd o ymarfer estynedig o fewn radiograffeg.

Pynciau dan sylw

Efelychu mewn Addysg Radiograffeg, Radiograffeg Cartref, DA mewn Radiograffeg ac Ymarfer Estynedig gan gynnwys rolau Colonograffi CT, Radiograffeg Adrodd a Radiograffeg Ymgynghorol.

Amlinelliad o'r Diwrnod

09:15 -09:30

Cofrestru/Te a Choffi

09:30 - 09:40Croeso
09:40 - 10:40

Efelychu mewn Radiograffeg (Louise Rainford)

10:40 - 11:00

Te a Choffi

11:00 - 12:00Radiograffeg Cartref (Deborah Henderson a Stuart Mark)
12:00 - 13:00

DA mewn Radiograffeg (Christina Malamateniou a i'w gadarnhau)

13:00 - 13:45Cinio a Chyfle i weld car diagnosteg tra-gludadwy Fuji Diagnostics
13:45 - 14:45Sgyrsiau Ymarfer Estynedig (Richard Holford, Louisa Edwards a i’w gadarnhau)
14:45 - 15:15Trafodaeth Radiograffeg Estynedig / Holi ac Ateb
15:15 - 15:30Diweddglo a Chau

Manteision

  • mae'r cwrs wedi'i gymeradwyo gan Gymdeithas Radiograffwyr
  • mae siaradwyr yn arbenigwyr clinigol yn eu maes
  • ffioedd cystadleuol o gymharu â diwrnodau astudio eraill sy'n gysylltiedig â radiograffwyr a   gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • cynhwysir cinio
  • ar ôl cwblhau'r diwrnod astudio, byddwch yn derbyn tystysgrif DPP y gellir ei hychwanegu at eich portffolio, gan ddangos 6 awr o amser DPP

Lleoliad

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3BB
Cyrsiau byr i feddygon a staff gofal iechyd, wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu sgiliau arwain.