Rhaglen Arwain a Gweinyddu Busnes (LBA) Caerdydd
Mae ein cwrs LBA Caerdydd (Arwain a Gweinyddu Busnes) wedi'i lunio i fod yn rhagflas yn y gweithle ar y rhaglen MBA i Weithredwyr. Bydd yn eich helpu i ddatblygu arbenigedd busnes hanfodol a gwella eich perfformiad proffesiynol er mwyn eich galluogi i wireddu eich potensial gyrfaol.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhaglen bwrpasol hefyd y gallwn ei theilwra i'ch gofynion penodol. Os hoffech drafod hyn cysylltu â ni.
Bydd y rhaglen gyffrous hon yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnoch i fabwysiadu rôl arweiniol yn eich sefydliad. Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich arbenigedd strategol a chynnig y ddealltwriaeth sydd ei hangen arnoch i ddylanwadu ac effeithio ar newid go iawn.
Dylunir LBA Caerdydd i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith a chartref, gan ei bod yn cael ei chyflwyno trwy sesiynau undydd dros gyfnod o 12 mis. Byddwch yn gallu mynd yn ôl at eich sefydliad gyda syniadau a’u rhoi ar waith yn syth bin.
Mae darlithwyr yn cynnwys: Dr Sarah Hurlow, David Jones, yr Athro Maneesh Kumar, Stephen Thomas, Richard Strudwick, yr Athro Aoife McDermott a Rachel Williams, Dr Richard Baylis a'r Athro Rob Morgan.
Tîm y Rhaglen Addysg i Weithredwyr, Ysgol Busnes Caerdydd fydd eich hyfforddwr.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio i ddiwallu anghenion rheolwyr canol profiadol sy’n chwilio am ffyrdd o ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth o fyd busnes er mwyn hybu eu gyrfaoedd.
Mae’n addas ar gyfer y rheiny sydd am ddysgu mewn sesiynau byrion a gynhelir unwaith y mis trwy’r flwyddyn - ac nad oes angen achrediad neu asesiad arnynt.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Mae LBA Caerdydd yn MBA ‘mini’, os mynnwch, sy’n rhoi gwybodaeth fusnes arbenigol i chi a’r hyder sydd ei angen i gymryd rôl flaengar yn eich sefydliad - ond heb ddrysfa asesiadau ac aseiniadau!
Bydd yr holl sesiynau yn darparu sawl cyfle i chi werthfawrogi sut mae'r cysyniadau busnes yn berthnasol i’ch gwaith a/neu’n effeithio arno.
Rhoddir sawl enghraifft o amryw o sectorau er mwyn egluro’r pwyntiau dysgu allweddol. Ar ôl pob sesiwn, gallwch roi’r hyn y byddwch wedi’i ddysgu ar waith yn ymarferol ar unwaith.
Rhaid i bawb gydio’n frwd yn y rhaglen a bydd yn hanfodol cwblhau gwaith prosiectau.
Pynciau dan sylw
Arweinyddiaeth ddigidol
- Tywys sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat fel ei gilydd ar hyd y llwybr o'r byd analog i'r byd digidol
- Archwilio'r camau ymarferol y gall arweinwyr eu cymryd er mwyn cyflwyno newidiadau i'w sefydliadau
- Agile a'r MVP
- Gweithio gyda chyflenwyr technoleg
- Byrddau ac arweinyddiaeth ddigidol
- Pwysigrwydd seiberddiogelwch.
Rheoli gweithrediadau
- Deall technegau allweddol ar gyfer rheoli gweithrediadau
- Defnyddio technegau dychmygu i helpu i ddatrys problemau
- Dulliau gwella parhaus a sut mae’u cymathu
- Deall anawsterau cynhenid o ran rheoli gweithrediadau.
Timau sy’n rhagori
- Ffyrdd ymaddasol a dosbarthedig o arwain
- Meithrin meddylfryd iach mewn tîm
- Diogelwch seicolegol
- Datrys problemau ar y cyd
- Meithrin meddylfryd iach mewn tîm.
Adnoddau dynol a rheoli perfformiad
- Meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch prif ddulliau ac arferion adnoddau dynol
- Astudio’r materion allweddol sy’n codi wrth reoli adnoddau dynol (HRM)
- Gwerthuso ac asesu effeithiolrwydd gwahanol weithgareddau ym maes adnoddau dynol o amryw safbwyntiau cyfundrefnol
- Deall effaith polisïau personél ar lwyddiant masnachol, cydymffurfiaeth â’r gyfraith ym maes cyflogaeth a’r gallu i gadw at safonau moesegol cydnabyddedig.
Materion ariannol i reolwyr anariannol
- Sut i ddehongli cyfrifon, adroddiadau o elw a cholled, mantolenni a chymarebau ariannol
- Rheoli cyfalaf gweithredol, stoc, credydwyr, dyledwyr ac arian
- Pennu a rheoli cyllidebau
- Cofnodi a rheoli costau.
Marchnata digidol
- Dadansoddi Sefyllfaol
- Strategaeth
- Amcanion
- Tactegau
- Gweithredu a rheoli.
Rheoli strategol
- Deall a defnyddio syniadau strategol a dulliau dadansoddi sylfaenol ym maes rheoli
- Adnabod, arfarnu ac asesu prosesau strategol mewn sefydliadau
- Canfod problemau strategol a gwerthuso dewisiadau strategol
- Dangos ymwybyddiaeth o foeseg a rôl a hawliau amryw fudd-ddalwyr er mwyn ateb eu gofynion.
Datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth
- Gwahanol ffyrdd o arwain
- Deall arweinyddion fel unigolion o’i chymharu ag arweinyddiaeth fel proses
- Adnabod mathau o bersonoliaethau a’r gwaith sydd orau gan bobl - paratoi cynlluniau gweithredu i wella effeithiolrwydd personol
- Adnabod y ffactorau sefydliadol angenrheidiol i feithrin ffordd ddosbarthedig neu gydweithredol o arwain.
Manteision
- Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn 6ed yn y DU o ran rhagoriaeth ymchwil - mae LBA Caerdydd yn rhoi'r cyfle i chi gwrdd a gweithio gyda'n cyfadran academaidd ragorol, ar ystod o bynciau gwahanol, mewn ffordd hwylus sy'n ysgogi'r meddwl.
- Bydd yr addysgu'n gwbl berthnasol i’r gweithle fel y gallwch ddechrau rhoi’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith yn syth ar ôl sesiwn.
- Mae'r sgyrsiau yn y rhaglen yn gysylltiedig â problemau'r byd go iawn y mae’r myfyrwyr yn eu hwynebu yn y gwaith a’r rhai rydych yn debygol o’u hwynebu yn y dyfodol
- Rhoddir sawl enghraifft addysgu o amryw sectorau er mwyn egluro’r pwyntiau dysgu allweddol.
- Bydd Ysgol Busnes Caerdydd yn rhoi Tystysgrif Presenoldeb Addysg i Weithredwyr ar yr amod bod pob elfen addysgol o’r rhaglen wedi’i gorffen.
- Mae hon yn rhaglen hyblyg iawn, wedi'i dylunio i gyd-fynd ag ymrwymiadau presennol o ran gwaith ac ar yr aelwyd. Gallwch ddewis mynd i bob sesiwn neu dim ond y rheini sydd bennaf o ddiddordeb i chi.
- P’un a ydych eisoes â’r dwymyn ddysgu, neu os yw hi wedi bod yn sbel ers i chi fod yn y Brifysgol (neu yn well fyth, os nad ydych wedi astudio o’r blaen) bydd gweithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd yn tanio eich angerdd dros syniadau a ffyrdd newydd o feddwl.