Ewch i’r prif gynnwys

Daeareg Adeileddol ar gyfer Archwilio a Mwyngloddio (ar-lein)

Cwrs ar-lein yw hwn, wedi’i gyflwyno’n Saesneg, ac wedi’i gynllunio i chi ei gwblhau yn eich amser eich hun ac ar eich cyflymder eich hun. Bydd yn cael ei gyflwyno drwy amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol ar-lein, megis erthyglau darluniadol, fideos byr a chwisiau.

Sylwer: Dim ond gyda cherdyn credyd y gallwn dderbyn taliad ar gyfer y cwrs hwn. Byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau'r cwrs heb fod yn hwyrach nag wythnos ar ôl gwneud taliad. Bydd gennych fynediad am 2 fis o'r dyddiad y byddwch yn cyrchu'r deunyddiau dysgu am y tro cyntaf.

Bydd y cwrs pedair wythnos hwn yn addysgu egwyddorion sylfaenol daeareg adeileddol a sut i ddadansoddi strwythurau creiddiau drilio i chi. Bydd yn pwysleisio pwysigrwydd daeareg adeileddol i'r diwydiant archwilio a mwyngloddio, ac yn dysgu hanfodion beth i'w fesur, dulliau mesur, a sut i gofnodi data.

Yr Athro Thomas Blenkinsop ddatblygodd y cwrs.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
24 Chwefror 2025 Cwrs ar-lein 4 wythnos i'w gymryd yn eich amser eich hun.
Ffi
£250 (byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau'r cwrs heb fod yn hwyrach nag wythnos ar ôl gwneud taliad)

Ar gyfer pwy mae hwn

  • daearegwyr sy’n gweithio ar brosiectau mwyngloddio ac archwilio
  • israddedigion sy’n astudio graddau daeareg ac archwilio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Rhagolwg ar Ddaeareg Adeileddol ar gyfer Archwilio a Mwyngloddio

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, dylai’r cyfranogwyr allu gwneud y canlynol:

  • disgrifio’n glir pam mae dadansoddi adeileddol mor bwysig i archwilio mwynol
  • adnabod ffurfiannau’r mathau mwyaf cyffredin o adeileddau a geir mewn cerrig wedi’u hanffurfio
  • disgrifio gweithdrefnau drilio sylfaenol a’r cyfyngiadau posibl ar weithio gyda chreiddiau drilio
  • gwybod am y gwahanol offer a ddefnyddir i fesur adeileddau mewn creiddiau drilio
  • adnabod a mesur nodweddion adeileddol mewn creiddiau drilio
  • cofnodi, cyflwyno a dadansoddi’r data’n hyderus
  • cysylltu adeileddau â rheolyddion tebygol ar gyrff mwynol

Pynciau dan sylw

  • geometreg a ffurfiant adeileddau mewn cerrig wedi’u hanffurfio
  • adeileddau a welir mewn creiddiau drilio
  • cyflwyniad i ddrilio a chyrff mwynol
  • mesuriadau adeileddol ar gyfer creiddiau drilio
  • dull systematig ac unedig ar gyfer mesur adeileddau planar a llinol
  • cofnodi, dadansoddi a chyflwyno mesuriadau adeileddol o greiddiau drilio

Offer

Ni fydd angen unrhyw offer arbenigol arnoch ond bydd rhaid i chi gael mynediad at gyfrifiadur gyda chyswllt gwe cyflymder uchel.

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Cwrs ar-lein yw hwn, wedi’i gyflwyno’n Saesneg, ac wedi’i gynllunio i chi ei gwblhau yn eich amser eich hun ac ar eich cyflymder eich hun. Bydd yn cael ei gyflwyno drwy amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol ar-lein, megis erthyglau darluniadol, fideos byr a chwisiau.

Os byddwch chi’n yn cael 50% neu fwy, byddwn ni’n anfon e-dystysgrif cwblhau atoch chi.

Mae'r cwrs yn cynnwys 4 wythnos o gynnwys dysgu. Mae 13-15 o weithgareddau bob wythnos, a dylen nhw gymryd 10 i 20 munud yr un i’w cwblhau.

Mae'r cwrs hwn yn anghydamserol, ond byddwch chi’n cael cyfle i gysylltu â'r tiwtor arweiniol, a byddwn ni’n cysylltu â chi i drefnu dyddiad am sesiwn fyw.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy blatfform dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu ebostio atoch ychydig ddyddiau cyn i'ch mynediad at y cwrs ddechrau.

Bydd gennych chi fynediad at ddeunyddiau'r cwrs am hyd at ddeufis.

Manteision

Nid yw’r wybodaeth a gyflwynir yn y cwrs hwn ar gael yn gynhwysfawr gan ffynonellau eraill.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu gan yr Athro Tom Blenkinsop, academydd yn ein Hysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd. Mae gan Tom 30 mlynedd o brofiad o ddadansoddi adeileddol. Mae llawer o hyn wedi’i gynnal yng nghyd-destun ymgynghori ynghylch problemau gyda mwyneiddio hydrothermol ar gyfer cwmnïau mwyngloddio mawr.

Drwy’r profiad hwn, mae wedi datblygu dull unedig a systematig o ddadansoddi adeileddol, sy’n cynnwys dulliau newydd a syml o ddelio ag adeileddau fel llinelliadau, plygiadau a pharthau croeswasgu.

Mae'r fethodoleg wedi'i hamlinellu yn Daeareg Adeileddol Diwydiannol: Egwyddorion, Technegau ac Integreiddio.*

Mae’r cwrs hwn yn addysgu sut i weithredu’r dull ar lefel ymarferol.

*Blenkinsop, T. O. M., Doyle, M., a Nugus, M. (2015). A unified approach to measuring structures in orientated drill core. Yn Richards, F. L., Richardson, N. J., Rippington, S. J.,Wilson,R.W.&Bond, C. E. (golygwyr) Industrial Structural Geology: Principles, Techniques and Integration. Y Gymdeithas Ddaearegol, Llundain, Cyhoeddiadau Arbennig, 421.

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.