Ewch i’r prif gynnwys

Adolygiad Cyflym (ar-lein)

Mae'r cwrs hyfforddiant adolygiad cyflym hwn, sy’n digwydd dros dri hanner diwrnod ar-lein, wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â'r angen cynyddol am synthesis tystiolaeth amserol o ansawdd uchel sy'n bodloni gofynion y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

Gall adolygiadau systematig traddodiadol, er eu bod yn drylwyr, fod yn ormod o ran amser ac adnoddau ar gyfer sefyllfaoedd gwneud penderfyniadau cyflym.

Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau i unigolion gynnal adolygiadau cyflym sy'n canolbwyntio ar drylwyredd methodolegol, tryloywder a dibynadwyedd, hyd yn oed o fewn amserlenni a chyllidebau cyfyngedig.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
16 Mehefin 2025 16, 17, 18 Mehefin 2025 (09:30 - 13:30)
Ffi
£410 (3 sesiwn hanner diwrnod ar-lein)

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r gweithdy hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnal adolygiadau cyflym.

P'un a ydych chi'n fyfyriwr ymchwil, yn academydd, yn weithiwr iechyd cyhoeddus proffesiynol, neu'n glinigwr sy'n awyddus i ymgymryd ag ymchwil, bydd y gweithdy hwn yn eich arwain chi wrth gynllunio, cynnal ac adrodd ar adolygiad cyflym o ansawdd uchel yn effeithiol.

I wneud y mwyaf o’r cwrs hwn, rydym yn eich cynghori i ymgyfarwyddo â dealltwriaeth sylfaenol o synthesis tystiolaeth, er enghraifft sut y cynhelir adolygiadau systematig ac adolygiadau cwmpasu.

Myfyrwyr PhD sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd

Rydych chi’n gymwys i gael lle a ariennir yn rhannol. Y ffi i'w thalu yw £164. Cysylltwch â Chanolfan Cymru ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle.

Aelod o staff Prifysgol Caerdydd

Rydych chi’n gymwys i gael lle am bris gostyngol ar y cwrs hwn. Y ffi i'w thalu yw £246. Cysylltwch â Chanolfan Cymru ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Diwrnod Un (09:30 i 13:00)

  • Sesiwn 1: Cyflwyniad i Adolygiadau Cyflym a'u pwrpas
  • Sesiwn 2: Llunio cwestiwn ymchwil ar gyfer Adolygiad Cyflym, gan gynnwys cynnal chwiliadau rhagarweiniol a drafftio protocol
  • Sesiwn 3: Ymarferion ymarferol

Diwrnod Dau (09:30 i 13:00)

  • Sesiwn 4: Technegau chwilio a rheoli cyfeiriadau
  • Sesiwn 5: Sgrinio astudiaethau am berthnasedd
  • Sesiwn 6: Ymarferion ymarferol

Diwrnod Tri (09:30 i 13:.30)

  • Sesiwn 7: Tynnu data ac asesu ansawdd astudio
  • Sesiwn 8: Synthesis a dadansoddi data
  • Sesiwn 9: Ysgrifennu’r adroddiad terfynol

Drwy gydol y sesiynau amrywiol, bydd y cwrs hyfforddi Adolygiad Cyflym hwn hefyd yn dangos sut y gellir integreiddio offer awtomeiddio a Deallusrwydd Artiffisial ar wahanol gamau o brosiect adolygu cyflym i symleiddio prosesau. Bydd unigolion yn dysgu sut i ddatblygu cwestiynau ymchwil yn effeithlon, rheoli cyfeiriadau, sgrinio astudiaethau, a pherfformio tynnu data gan ddefnyddio'r offer hwn.

Manteision

Erbyn diwedd yr hyfforddiant hwn, bydd gan unigolion:

  • dealltwriaeth glir o adolygiadau cyflym gan gynnwys eu pwrpas, eu cwmpas, a sut maen nhw’n wahanol i adolygiadau systematig
  • dealltwriaeth o dechnegau chwilio wedi'u teilwra ar gyfer adolygiadau cyflym
  • gwybodaeth a phrofiad ymarferol gydag offer Deallusrwydd Artiffisial ac awtomeiddio ar draws gwahanol gamau o'r broses adolygu gyflym
  • cipolwg ar sut i lunio ac ysgrifennu adroddiadau cryno o ansawdd uchel sy'n bodloni safonau adolygu cyflym, yn barod i'w cyhoeddi

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio Microsoft Teams, dros dri hanner diwrnod (09:30–13:30 bob dydd).

Bydd manylion y cwrs, deunyddiau dysgu, ac unrhyw wybodaeth ychwanegol yn cael eu rhoi bythefnos cyn y dyddiad cychwyn. Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal ar-lein. Bydd angen cyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd sefydlog, camera, a'r gallu i gyrchu Microsoft Teams.

Cyrsiau byr i feddygon a staff gofal iechyd, wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu sgiliau arwain.