Datrys Problemau ym maes Gofal Lliniarol Pediatrig (cwrs dysgu cyfunol)
Cwrs byr ar lefel Meistr am ofal lliniarol pediatrig. Mae’r cwrs hwn wedi’i drefnu gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd â Hosbis Plant Tŷ Hafan a Rhwydwaith Clinigol a Reolir Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Lliniarol i Blant.
Cynhelir y cwrs hwn wyneb-yn-wyneb yn Nhŷ Hafan, Caerdydd. Mae pob sesiwn yn cael ei chynnal rhwng 09:00 a 16:30. Mae'r cwrs hefyd yn gofyn astudio’n annibynnol rhwng y diwrnodau dysgu wyneb-yn-wyneb. Gallwch wneud hyn ar adeg sy’n gyfleus i chi.
Ymrestru ar y cwrs hwn
Dyddiad dechrau | Diwrnodau ac amseroedd |
---|---|
10 Mawrth 2025 | Wyneb yn wyneb. 10 Mawrth, 7 Ebrill, 12 Mai, 9 Mehefin 2024 |
Ffi |
---|
£550 |
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae'r cwrs yn agored i feddygon, nyrsys, seicolegwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
Mae ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn gofal diwedd oes / gofal lliniarol a'r rhai sydd wedi ymrwymo i gyflwyno a lledaenu addysg am ofal diwedd oes / gofal lliniarol yn eich sefydliad.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Nod y cwrs yw gwella gofal i gleifion drwy gyflwyno addysg hwylus. Drwy wneud hyn, rydym yn ceisio helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatrys problemau ym maes gofal lliniarol pediatrig, beth bynnag eu lleoliad neu’r maes sydd o ddiddordeb iddynt.
Mae’r cwrs wedi’i rannu’n ddwy brif ran – 4 diwrnod dysgu wyneb-yn-wyneb (gyda mis rhwng pob un) a dysgu rhithwir i gefnogi darllen, datblygu prosiectau a thrafod rhwng y diwrnodau addysgu.
Mae hefyd yn addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn gofal diwedd oes / gofal lliniarol neu’r rhai sydd wedi ymrwymo i gyflwyno a lledaenu addysg gofal diwedd oes / gofal lliniarol pediatrig yn eich sefydliad.
Pynciau dan sylw
- dyddiau cynnar: egwyddorion ac athroniaeth gofal lliniarol pediatrig, adnabod angen, cyfeirio at wasanaethau, asesu
- cyfnod o sefydlogrwydd / angen cynllunio cyfochrog. Cynnwys rheoli symptomau
- cyfnod diwedd oes gan gynnwys cynllunio gofal ymlaen llaw
- cymorth yn dilyn profedigaeth ac ar gyfer staff
Sut mae'r cwrs yn cael ei addysgu
Dyma raglen sydd wedi'i sefydlu’n gadarn. Mae sesiynau wyneb-yn-wyneb yn tueddu i ddilyn y strwythur hwn (ond nodwch y gallai hyn newid ychydig ar gyfer pob rhaglen).
Sesiwn y bore
Sgiliau a gwybodaeth: cyfuniad o hwyluswyr rhaglenni a siaradwyr allanol
Sesiwn y prynhawn
Gweithdy prosiect: sesiwn strwythuredig sy’n gofyn mynd ati mewn grwpiau i ddatrys problemau prosiectau unigol
Themâu dysgu wyneb-yn-wyneb:
Mis un: Dyddiau cynnar: egwyddorion ac athroniaeth gofal lliniarol pediatrig, nodi anghenion, cyfeirio at wasanaethau, asesu
Mis dau: Cyfnod o sefydlogrwydd / yr angen i gynllunio’n gyfochrog (gan gynnwys rheoli symptomau)
Mis tri: Cyfnod diwedd oes a gwaith cynllunio gofal uwch
Mis pedwar: Cymorth yn dilyn profedigaeth ac ar gyfer staff
Nod y sesiynau wyneb-yn-wyneb yw eich cyflwyno i gysyniadau na ellir eu haddysgu’n rhwydd mewn amgylchedd dysgu rhithwir, gan gynnwys heriau moesegol, y broses gwneud penderfyniadau, sgiliau cyfathrebu a sgiliau datrys problemau.
Manteision
Byddwch yn elwa o well dealltwriaeth a hyder wrth ofalu am gleifion ag anghenion gofal lliniarol pediatrig.
Bydd ystyried eich sgiliau cyfathrebu a fframweithiau moesegol sy'n sail i ymarfer yn gwella eich perfformiad clinigol a phroffesiynol. Bydd y gweithdy’n eich helpu i ganolbwyntio ar faterion sy'n benodol i'ch tîm neu eich lleoliad ac o fudd i wasanaethau clinigol yn sgîl hynny.
Wrth gael eich addysgu, bydd cyfleoedd i wella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys astudio'n annibynnol, ymarfer mewn ffordd fyfyriol, trafod â myfyrwyr eraill, cymryd rhan mewn gweithdai, cwblhau tasgau/ymarferion, ymarfer sgiliau cyfathrebu, hunanasesu, adolygu deunydd dysgu a mynd i ddarlithoedd.
Tîm craidd y rhaglen
Dr Jo Griffiths – Dr Griffiths yw’r prif diwtor pediatreg ac arweinydd y modiwl Addysg Gofal Lliniarol Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymgynghorydd yw hi ym maes gofal lliniarol i blant yng Nghymru sy’n gweithio'n agos gyda'r GIG a hosbisau.
Dr Fiona Rawlinson – Mae Dr Rawlinson yn Uwch-ddarlithydd Clinigol, yn Ddarllenydd ac yn Ymgynghorydd Gofal Lliniarol. Hi yw Cyfarwyddwr y Rhaglen Addysg Gofal Lliniarol Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei phrif ddiddordebau yw gofal lliniarol, addysg feddygol, arloesi a chydweithio.