Atal Gorludded: Hybu gwytnwch a lles ymysg ymarferwyr ym maes gofal sylfaenol
Diben y cwrs undydd hwn yw rhoi grym yn nwylo clinigwyr yng ngofal sylfaenol, gofal rhyngwyneb a gofal critigol i allu rheoli'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r mwyfwy o gymhlethdodau clinigol a wynebir yn ddyddiol mewn ffordd well.
Bydd y cwrs hefyd yn cynnig dulliau ymarferol i ymarferwyr wella eu gwytnwch at ddibenion lleihau'r posibilrwydd o brofi gorludded.
Bydd y cwrs hefyd yn mynd i'r afael â'n rôl gynyddol wrth geisio hybu lles y claf a’i ddychwelyd i'r gwaith.
Ymrestru ar y cwrs hwn
Dyddiad dechrau | Diwrnodau ac amseroedd |
---|---|
27 Mehefin 2025 | Cofrestru am 07:45 i ddechrau am 08:00 |
Ffi |
---|
£195 |
Ar gyfer pwy mae hwn
Ers y pandemig, rydyn ni i gyd wedi wynebu sefyllfaoedd lle roedd gofyn inni reoli cleifion â mwyfwy o gymhlethdod clinigol, yn aml gyda diffyg adnoddau. Ni fu lles na gwytnwch ymysg ymarferwyr erioed mor bwysig, a hynny er mwyn ceisio lliniaru’r risg o orludded, ynghyd â’r cyfraddau gadael cyn gorffen uchel yn y gweithlu.
Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw ymarferwr sy'n gweithio ym meysydd gofal sylfaenol, gofal rhyngwyneb neu ofal critigol ar hyn o bryd, sydd efallai'n cael trafferth yn ymdopi ag amgylchedd clinigol sy’n fwyfwy heriol a straenus. Nod y cwrs yw galluogi clinigwyr i ymdopi'n well â'r straen a'r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth gymhlethdodau clinigol a rheoli risg glinigol, a thrwy hynny, cynnig strategaethau ymarferol i wella gwydnwch a lles.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Bydd y cwrs yn anelu at drafod 3 phrif faes:
Sesiwn 1: Risg glinigol, ymdopi ag ansicrwydd, a lliniaru risg/sicrhau rhwydi diogelwch
Sesiwn 2: Galluogi cleifion i ddychwelyd i'r gwaith
Sesiwn 3: Gwydnwch a lles ymysg ymarferwyr
Caiff cwricwlwm y cwrs ei hwyluso gan ddarlithwyr academaidd, gyda chefnogaeth clinigwyr arbenigol profiadol. Bydd y cwrs yn cynnwys dull dysgu cyfunol, gan ymgorffori cyfuniad o ddarlithoedd a gweithdai, a gwaith grŵp wedi'i gefnogi gan rywfaint o ddysgu anghydamserol cyn y cwrs.
Pynciau dan sylw
Sesiwn 1: Risg glinigol, ymdopi ag ansicrwydd, a lliniaru risg/sicrhau rhwydi diogelwch
- cymhlethdod clinigol. Beth yw cymhlethdod clinigol a’r model Cynefin.
- ansicrwydd. Fframweithiau damcaniaethol at ddibenion rheoli ansicrwydd, ei drafod ac ymdopi ag ef.
- rheoli risg glinigol a’i lliniaru
Sesiwn 2: Galluogi cleifion i ddychwelyd i'r gwaith
- y ddeddfwriaeth a’r arfer cyfredol
- baneri du/glas
- proses nodiadau MED3/FIT
- sefyllfaoedd Achos
Sesiwn 3: Gwydnwch a lles ymysg ymarferwyr
- effeithiau straen gronig a gorludded
- sut gallwn ni ofalu am ein hunain mewn gweithle gofal iechyd
- sefyllfaoedd Achos
Manteision
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch chi’n deall y canlynol yn well:
- theori cymhlethdod clinigol a sylfaen y dystiolaeth sy’n gysylltiedig ag ef
- sut i ymdopi ag ansicrwydd clinigol a rheoli risg glinigol
- y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â nodiadau MED3/FIT a’u cymwysiadau ymarferol
- y ffyrdd y gall straen ddod i'r amlwg, a’r strategaethau ymarferol i hybu gwydnwch ymysg clinigwyr er mwyn gwella eu lles ac atal gorludded
Gwybodaeth am addysgu
Ar ôl cwblhau eich portffolio, byddwch chi’n cael tystysgrif DPP. Does dim asesiad wedi'i gynllunio ar gyfer y gweithgaredd dysgu hwn.
Sylwer, nid yw ffi'r cwrs yn cynnwys cinio. Gwnewch eich trefniadau eich hun neu dewch â phecyn cinio.