Uwchsain yn y man lle rhoddir gofal (PoCUS) – Anaesthesia rhanbarthol dan arweiniad uwchsain (USGRA) (cyfunol)
Dyma gwrs dysgu cyfunol pwrpasol ar sganiau uwchsain a luniwyd ar gyfer ymarferwyr gofal brys ac anesthesia.
Datblygwyd y cwrs hwn er mwyn mynd i'r afael â’r galw heb ei fodloni am addysgu, hyfforddiant a chaboli sgiliau clinigol ym maes anesthesia rhanbarthol dan arweiniad uwchsain (USGRA).
Ymrestru ar y cwrs hwn
Dyddiad dechrau | Diwrnodau ac amseroedd |
---|---|
6 Mawrth 2025 | Cyfunol. 09:00 - 16:30 (ynghyd â gwaith cyn-cwrs a dysgu cyfunol) |
Ffi |
---|
£295 |
Ar gyfer pwy mae hwn
Lluniwyd y cwrs hwn yn bennaf ar gyfer ymarferwyr gofal brys ac anaesthesia. Serch hynny, bydd y sgiliau a ddatblygir o fudd mawr hefyd i glinigwyr (a myfyrwyr) sy'n awyddus i ehangu eu strategaethau aml-ddull i reoli poen.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Caiff amser ar y cwrs hwn ei rannu rhwng astudio cyn dechrau’r cwrs ar-lein a sesiwn ymarferol wyneb yn wyneb:
- fideos byr cyn dechrau’r cwrs sy'n cyflwyno gwybodaeth ddamcaniaethol, arddangosiadau ymarferol a chyfeiriadau at ddeunydd print perthnasol
- ymarfer o dan oruchwyliaeth gydag adborth ar fodelau byw, efelychwyr a modelau o bobl a wneir o gelatin
- asesiad ar ddiwedd cwrs yn seiliedig ar wybodaethddamcaniaethol
Cydran e-ddysgu
Bydd deunyddiau'r cwrs ar gael o 20 Chwefror 2025.
Pwysig
Mae'n rhaid i chi gwblhau'r cwrs e-ddysgu cyn dechrau elfen wyneb-yn-wyneb y cwrs PoCUS. Efallai na fydd ymgeiswyr nad ydynt yn cwblhau'r e-ddysgu mewn pryd yn gallu dod i'r diwrnod wyneb-yn-wyneb.
Bydd y cwrs sylfaenol yn cynnwys:
- gwddf
- rhwystro plecsws gyddfol arwynebol
- braich
- rhwystro plecsws breichiol uwchglaficlaidd
- rhwystro nerf ceseiliol + suprascapular
- rhwystro nerf rheiddiol, wlnar, a chanolwedd
- y bongorff
- rhwystro plân erector spinae
- rhwystro serratus anterior
- coes
- rhwystro clun (Nerf ffemwrol, Fascia Iliaca, a rhwystro Grŵp Nerfau Pericapsular)
- rhwystro nerf clunol transgluteal
- rhwystro nerf Popliteal Siatig
- rhwystro nerf y pigwrn
Ar ôl cwblhau'r cwrs, dylech allu gwneud y canlynol:
- disgrifio ac adnabod anatomeg berthnasol lleoliad y bloc; defnyddio uwchsain er mwyn dod o hyd i nerfau yn y gwddf, y breichiau, y torso a'r coesau, gan wahaniaethu’r nerfau oddi wrth y strwythurau cyfagos megis tendonau a chyhyrau
- crynhoi’r manteision ynghlwm wrth weithdrefnau bloc unigol; trafod y manteision a'r peryglon; deall sut i fynd at nerfau gan ddefnyddio technegau yn y plân a’r rheiny y tu allan i’r plân; dewis y nerf priodol er mwyn anestheteiddio yn achos patrymau anafiadau neilltuol; gosod cleifion yn gywir ar gyfer pob math o floc i wella’r llwyddiant
- defnyddio eich gwybodaeth a’ch sgiliau newydd er mwyn saernïo cynllun ymarferol i ddelio â phroblem glinigol benodol - trafod sut y gallai techneg unigol amlygu ei hun, gan ystyried strategaethau gwahanol a chymharu a chyferbynnu technegau anesthetig i gyflawni’r amcan clinigol
- gwerthuso'r opsiynau USGRA, ystyried natur y claf a'r lleoliad, ynghyd â’r risgiau sy'n gysylltiedig ag anatomeg a gwenwyndra anesthetig lleol, i roi dadl dros y camau mwyaf diogel i’w cymryd
Pynciau dan sylw
08:30-09:00 Cofrestru/coffi
09:00-09:10 Croeso; cyflwyniad i'r lleoliad, hwyluswyr ac offer
9.10- 09:30 Cyfarwyddiadau ar gyfer y trafodaethau grŵp bach: Egwyddorion/ peryglon/defnyddio offer (“knobology”) Uwchsain
09:30- 10.45 Cylchdroi rhwng gweithdai amrywiol
- gosod/optimeiddio peiriannau
- modelau i ddangos anatomeg berthnasol
- ymgyfarwyddo â chysylltwyr NRFit
- efelychiadau (phantoms) i ddangos technegau nodwyddau i mewn ac allan o blân
10:45-11:10 Te/coffi
11:10-12:40 Cylchdroi rhwng gweithdai amrywiol
- ymgyfarwyddo gydag offer NeedleTrainer
- modelau i ddangos anatomeg berthnasol
- efelychiadau (phantoms) i ddangos technegau nodwyddau i mewn ac allan o blân
- trafodaeth grŵp bach ar wanhau a chymysgu anesthetig lleol
12:40-13:30 Cinio
13:30-15:00 Cylchdroi rhwng gweithdai amrywiol
- modelau i ddangos anatomeg berthnasol
- dysgwyr yn arddangos technegau gyda nodwyddau gan ddefnyddio efelychiadau a NeedleTrainer
- trafodaeth grŵp bach ar wenwyndra a thriniaeth anesthetig lleol
15:00- 15:20 Te/coffi
15:20 -16:30 Cylchdroi rhwng gweithdai amrywiol
- modelau i ddangos anatomeg berthnasol
- efelychiadau i ddangos technegau gyda nodwyddau a gosod cathetrau rhwystro nerfau parhaus
- sesiwn holi ac ateb trafodaeth grŵp bach
16:30 Crynodeb a chloi
Manteision
- dull cyflwyno cyfunol: mae’r gydran eDdysgu yn caniatáu ichi ddysgu'n hyblyg wrth eich pwysau eich hun, tra bod y sesiwn wyneb yn wyneb yn cynnig dysgu amlddisgyblaethol gan gyd-fyfyrwyr eraill
- mae’r addysgu'n cyd-fynd ag arferion clinigol cyfoes y DU
- byddwch chi’n ymgymryd â’ch ymarfer ar wirfoddolwyr byw a modelau o bobl uwchsain
- byddwn yn defnyddio peiriannau uwchsain cart, offer uwchsain â llaw ac efelychwyr uwchsain
- arbenigwyr clinigol fydd yn cyflwyno’r cwrs
- pris cystadleuol