Gofal lliniarol wrth y drws ffrynt
Mae nifer y bobl a chanddynt anghenion gofal lliniarol sy'n ceisio cyrchu gwasanaethau gofal heb eu trefnu a gofal brys yn cynyddu o ganlyniad i amrywiaeth o resymau cymhleth. Daw hyn â heriau i dimau gwasanaethau brys, sydd angen rheoli'r symptomau a'r problemau, yn ogystal â chael sgyrsiau sensitif a gwneud penderfyniadau yn gyflym.
Mae gofal lliniarol wrth y drws ffrynt yn rhan o gyfres 'wrth y drws ffrynt' (‘at the front door’). Digwyddiadau DPP a ddarperir gan dîm DPP Prifysgol Caerdydd yw’r rhain, ac maent yn adeiladu ar bortffolio o gyrsiau byr sy’n ymwneud â gofal lliniarol.
Nod y digwyddiad DPP hwn yw tynnu sylw at strategaethau i reoli a chefnogi unigolion a chanddynt anghenion gofal lliniarol cyffredin sy’n ceisio cyrchu gwasanaethau gofal brys a gofal heb ei drefnu. Bydd yn rhoi sgiliau ychwanegol i’r cyfranogwyr i’w cynorthwyo i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd o’r fath.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae'r cwrs hwn yn addas i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a pharafeddygon sy'n gweithio ym maes gofal brys neu heb ei drefnu, neu ochr yn ochr â’r gwasanaethau hyn. Ceir croeso i bob aelod o'r tîm amlddisgyblaethol.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Bydd mynd ar y cwrs yn eich galluogi i ddeall y dystiolaeth bresennol ynghylch cleifion ag anghenion gofal lliniarol sy’n ceisio cyrchu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, y patrymau atgyfeirio a nodweddion cyffredin yr achosion hyn. Byddwn yn trafod strategaethau cymorth a rheoli ar gyfer yr achosion mwyaf cyffredin, yn ogystal â strategaethau defnyddiol i wella sgiliau cyfathrebu, wedi'u haddasu ar gyfer y cyd-destun hwn lle mae pethau’n symud yn gyflym.
Pynciau dan sylw
Tystiolaeth o anghenion gofal lliniarol unigolion a welir mewn adrannau brys a gafwyd o'r lenyddiaeth a chan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, a'r ymateb presennol i anghenion gofal lliniarol.
Y profiad o reoli anghenion gofal lliniarol 'wrth y drws ffrynt'.
Pecynnau cymorth ar gyfer rheoli symptomau, anfon pobl adref a sgiliau cyfathrebu.
Amserlen
08:45 | Cofrestru. |
09:00 | Cyflwyniad i’r diwrnod. TYSTIOLAETH Beth yw sylfaen y dystiolaeth am anghenion gofal lliniarol cleifion sy'n dod i Adrannau Achosion Brys? |
09:45 | TYSTIOLAETH Pam mae pobl ag anghenion gofal lliniarol yn ceisio cyrchu’r Gwasanaethau Brys? Profiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. |
10:30 | YMARFER Profiad adrannau achosion brys o reoli anghenion gofal lliniarol. |
11:00 | Egwyl am goffi. |
11:15 | GWEITHDY Pecyn cymorth rheoli symptomau. |
12:00 | GWEITHDY Pecyn cymorth ar gyfer y rhai sydd yn barod i fynd adref. |
12:30 | GWEITHDY Sgiliau cyfathrebu ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes mewn sefyllfaoedd brys — pecyn cymorth. |
13:00 | Gwerthuso a chloi. |
Manteision
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn meddu ar wybodaeth am y canlynol:
- y rhesymau arferol pam fod cleifion ag anghenion gofal lliniarol yn ceisio cyrchu gofal heb ei drefnu/ brys
- sut i reoli unigolion a chanddynt anghenion gofal lliniarol yn effeithiol ac yn briodol mewn adrannau achosion brys/gofal heb ei drefnu
- datblygu sgiliau cyfathrebu arferol er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl yn y lleoliad hwn
Dull cyflwyno
Mae'r cwrs yn cael ei arwain gan aelodau staff adrannau gofal heb ei drefnu a gofal brys, gofal lliniarol a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
The course is led by members of the unscheduled and emergency care departments, palliative care and the Welsh ambulance service.