Ewch i’r prif gynnwys

Gofal Lliniarol

Mae'r tîm cyflwyno MSc/Diploma wedi datblygu'r cwrs DPP wyneb yn wyneb undydd hwn fel ymateb i'r cynnydd mewn morbidrwydd a marwolaethau o gyflyrau anwelladwy.

Mae'n cynnig sylfaen dda mewn meddygaeth a gofal lliniarol, gan gynnwys canser, dementia, cyflyrau resbiradol diwedd oes a chyflyrau cardiaidd diwedd oes.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r cwrs aml-broffesiynol byr hwn yn addas i'r holl weithwyr iechyd proffesiynol mewn lleoliadau gofal iechyd gan gynnwys meddygon teulu, ymgynghorwyr a nyrsys arbenigol.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • rhagor o wybodaeth a hyder wrth ofalu am gleifion sydd ag anghenion gofal lliniarol
  • sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys gweithio gyda theuluoedd cleifion mewn gofal lliniarol

Pynciau dan sylw

  • sgiliaucyfathrebu
  • rheoli moeseg, poen a deliriwm
  • gofal ym mlwyddyn olaf bywyd (symptomau, cynllunio, teuluoedd, effaith profedigaeth)
  • gwella ansawdd - sesiwn ryngweithiol lle gofynnir i bob cynrychiolydd sôn am faes gofal lliniarol yr hoffent wella ynddo

Bydd yr addysgu'n seiliedig ar achosion gyda ffocws clinigol.

Manteision

Bydd cynrychiolwyr yn elwa o wybodaeth a hyder cynyddol wrth ofalu am gleifion gydag anghenion gofal lliniarol. Bydd adfyfyrio ar strategaethau sgiliau cyfathrebu a fframweithiau moesegol sy'n sail i ymarfer yn gwella perfformiad a bydd y sesiwn ar wella elfen o gyflwyno gofal lliniarol o fewn y tîm neu'r lleoliad yn fuddiol i'r gwasanaethau clinigol.

Mae sesiynau blaenorol wedi cael adborth rhagorol.  Yn benodol, mae'r grŵp rhyngddisgyblaethol o ddysgwyr wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol rolau mewn tîm a gweithio mewn tîm yn fwy effeithiol.

Cyrsiau byr i feddygon a staff gofal iechyd, wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu sgiliau arwain.