Niwrowahaniaethu yn y gweithle
Mae niwrowahaniaethu'n cyfeirio at amrywiadau naturiol yn yr ymennydd dynol sy'n effeithio ar sut mae unigolion yn rhyngweithio ag eraill, yn prosesu gwybodaeth, yn rheoli sylw, cydsymud a swyddogaethau eraill.
Mae niwrowahaniaethu’n cwmpasu unigolion niwroamrywiol a niwronodweddiadol, ond mae niwrowahaniaethu'n aml yn gysylltiedig â chyflyrau penodol fel dyslecsia, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), dyspracsia, awtistiaeth, anhwylder iaith ddatblygiadol a syndrom Tourette.
Mae ymchwil diweddar yn dangos y gallai tua 1 o bob 7 o bobl fod yn niwroamrywiol; mae angen i sefydliadau ddeall sut i wneud y mwyaf o alluoedd gweithwyr sy'n niwroddargyfeiriol.
Y nod:
Grymuso’r rhai sy’n bresennol i wneud y mwyaf o alluoedd staff niwroamrywiol yn y gweithle.
Ymrestru ar y cwrs hwn
Dyddiad dechrau | Diwrnodau ac amseroedd |
---|---|
21 Chwefror 2025 | 09:00 - 13:00 |
Ffi |
---|
£180 |
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am niwrowahaniaethu yn y gweithle a sut i gefnogi cydweithwyr niwroamrywiol. Bydd yn arbennig o werthfawr i'r rhai sydd mewn swyddi arwain neu reoli.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Bydd y cwrs yn cynnwys:
- deall niwrowahaniaethau yn y gweithle, gan ymgorffori arbenigedd trwy brofiad
- edrych yn feirniadol ar sut i greu polisïau cynhwysol, gan ymgorffori trafodaethau ynghylch dylunio cyffredinol
- edrych yn feirniadol ar y broses o greu prosesau recriwtio, sefydlu a chadw cynhwysol a hygyrch
- addasiadau yn y gweithle (pan fo angen) i wneud y mwyaf o botensial staff niwroamrywiol
- dod yn gyflogwr hyderus niwroamrywiol
Dull Cyflwyno
Bydd y cwrs yn cynnwys elfennau o:
- cyflwyniadau (i roi gwybodaeth newydd)
- arbenigedd yn ôl profiad
- trafodaethau grŵp (i sicrhau bod pob cysyniad newydd yn cael ei ddeall yn glir)
- gwaith unigol a gwaith grŵp