Dosbarth Meistr mewn Gofal Lliniarol
Cyflwynir gan Dr Fiona Rawlinson, Prifysgol Caerdydd a Dr Mary Miller, Sobell House, Rhydychen. Mae'n seiliedig ar Gwrs Uwch Rhydychen mewn Rheoli Poen a Symptomau.
Ers dros ddeng mlynedd ar hugain, mae gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes gofal lliniarol ar draws y byd, wedi diweddaru ac ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau drwy fynd i Gwrs Uwch Rhydychen mewn Rheoli Poen a Symptomau. Nawr, mewn partneriaeth â Hosbis Sobell House yn Rhydychen, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal ei Dosbarth Meistr un diwrnod cyntaf yn seiliedig ar y Cwrs hwn.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae’r cwrs un diwrnod aml-broffesiwn hwn yn berffaith ar gyfer meddygon a nyrsys profiadol sy’n gweithio ym maes Gofal Lliniarol neu sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau yn y maes.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- rhagor o wybodaeth a hyder wrth ofalu am gleifion sydd ag anghenion gofal lliniarol
- adnoddau er mwyn parhau i ddysgu ac addasu’r addysg ar waith
- deall beth sy’n peryglu ‘arfer da’ a meincnodi eich hun yn erbyn eich cymheiriaid
- symbyliad, amser i feddwl a myfyrio
- y cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr a chymheiriaid
Pynciau dan sylw
Bydd y diwrnod yn ymdrin â’r canlynol:
- cleifion gofal lliniarol a chlefyd yr afu
- rheoli poen niwropathig
- diweddariad ar beswch
- pytiau o ddiddordeb ar gyfer ymarfer (detholiadau o Gwrs Uwch Rhydychen mewn Rheoli Poen a Symptomau 2019)
- darlith Caerdydd: C'ydadwaith rhwng anorecsia, canser cachexia a thriniaeth’ - Yr Athro Anthony Byrne
Manteision
Caiff y cwrs ei gyflwyno gan arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd a Sobell House ac mae’n cyflwyno’r arbenigedd a’r datblygiadau diweddaraf. Bydd yr addysg yn gwella ymarfer clinigol.