Ewch i’r prif gynnwys

Cyfraith wrth y Drws

Yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â'r Gwasanaeth Amddiffyn, nod y cwrs hwn yw mynd i'r afael â rhai o'r sgiliau ymarferol sylfaenol sydd eu hangen ar feddygon ar bob cam o'u hymarfer clinigol, megis ysgrifennu datganiadau crwner a rheoli cwynion yn effeithiol, yn ogystal â rhoi sylw i rai o egwyddorion craidd esgeulustod clinigol a'r broses Ardystio Marwolaeth, fel y gellir gwneud y prosesau a'r llwybrau hanfodol hyn yn fwy eglur.

Er y bydd meddygon yn wynebu heriau meddygol-gyfreithiol rheolaidd trwy gydol eu gyrfaoedd, ychydig o hyfforddiant sy'n bodoli yn yr ysgol feddygol. Gall enghreifftiau meddygol-gyfreithiol gymryd sawl ffurf, er enghraifft cymhwyso deddfwriaeth berthnasol i ymarfer clinigol, rheoli cyfyng-gyngor moesegol a chyfreithiol, ateb pryderon a chwynion, cynorthwyo'r Crwner i ysgrifennu datganiadau, a rhoi tystiolaeth neu fod yn rhan o’r broses esgeulustod clinigol.

Ni fydd llawer o feddygon yn ymwneud â rheoli digwyddiadau difrifol, cwynion nac achosion Crwner nes eu bod yn cyrraedd lefel ymgynghorwyr, ac ar yr adeg honno, gellir cael tybiaethau eu bod yn hyddysg yn y sgiliau hynny, er gwaetha’r ffaith mai cyfyngedig oedd yr hyfforddiant oedd ar gael yn y maes. Gall hyn achosi pryder a gorbryder diangen.

Nod y cwrs hwn yw cynyddu sgiliau a hyder wrth ddefnyddio theori meddygol-gyfreithiol yn senarios bob dydd a chynnig fforwm lle gall meddygon ddysgu gan weithwyr meddygol-gyfreithiol proffesiynol sy'n gyfrifol am gynorthwyo meddygon gyda'u problemau meddygol-gyfreithiol yn ddyddiol.

Dyddiad dechrau 22 Mai 2025
Diwrnodau ac amseroedd 09:00 - 17:30
Ffi £110
Cofrestrwch nawr

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer pob meddyg ar unrhyw lefel, o fyfyrwyr meddygol i hyfforddai a meddygon teulu/ymgynghorwyr, sy'n teimlo y byddent yn elwa o arbenigedd meddygol-gyfreithiol a sgiliau ymarferol.

Mae'r hyfforddiant diwrnod o hyd hwn yn digwydd wyneb yn wyneb a bydd yn cael ei gyflwyno trwy ddarlithoedd a sesiynau gweithdy llai i hyrwyddo rhagor o drafodaeth a phrofiadau a rennir rhwng y sawl sy’n bresennol.

"Cwrs gwych, yn ymdrin â meysydd y mae meddygon yn eu hofni ac yn cael trafferth â nhw mewn ffordd ddifyr ac addysgiadol. Yn ddelfrydol, byddai pob meddyg yn ymdrin â hyn pan fyddan nhw’n cael hyfforddiant achos byddai o fudd enfawr. A finnau'n rhywun sy'n gweithio gyda meddygon sy'n ymwneud â'r materion y mae'r cwrs yn ymdrin â nhw, byddwn i’n argymell y cwrs. Roedd y bwyd a ddarparwyd yn ardderchog - yr unig pice ar y maen dwi wedi mwynhau heblaw am rysáit fy nheulu!"

Lowri Kew | Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Safonau Proffesiynol | GIG De-orllewin Lloegr

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae'r cwrs undydd hwn wedi'i gynllunio ar gyfer meddygon ar bob lefel beth bynnag fo’u profiad. Byddwn yn ymdrin â'r sgiliau ymarferol sylfaenol sydd eu hangen i leihau risgiau mewn ymarfer bob dydd. Nod y cwrs hwn yw rhoi gwell dealltwriaeth i ddysgwyr o senarios meddygol-gyfreithiol, yn ogystal â sut y gall eich Sefydliad Amddiffyn Meddygol gefnogi ymarferwyr.

Pynciau dan sylw

Mae cwrs eleni yn canolbwyntio ar bynciau meddygol-gyfreithiol sydd o ddiddordeb arbennig ar hyn o bryd megis:

  • yr ystyriaethau meddygol-gyfreithiol o weithio gyda meddygon cyswllt
  • diweddariad pellach ar Arfer Meddygol Da 2024 newydd
  • deddfwriaeth cymorth i farw – beth sy'n newydd!
  • y diwygiadau newydd i ardystio marwolaeth – ble ydyn ni nawr?
  • bydd hefyd yn cynnwys gweithdai gyda sgiliau ymarferol a thrafodaethau achos ar bynciau megis rhoi tystiolaeth yn y llys a chydsyniad ar sail gwybodaeth yn ymarferol.

Manteision

Erbyn diwedd y cwrs, dylai myfyrwyr meddygol a meddygon fod â gwybodaeth feddygol-gyfreithiol sylfaenol fydd o gymorth iddynt wrth ymwneud â thasgau ymarferol ac yn helpu i leihau pryder wrth wynebu cyfyng-gyngor meddygol-gyfreithiol.

Mae'r cwrs yn un wyneb yn wyneb; bydd hyn yn caniatáu trafodaethau a rhannu syniadau/heriau gyda chyfoedion.

Lleoliad

Adeilad Morgannwg
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant meddygol, byr, gan gynnwys Cyflwyniad i Ddermoscopi a Gofal Lliniarol.