Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Adolygiad Cwmpasu JPI (ar-lein)

Mae'r gweithdy ar-lein hwn, a gynhelir dros ddau hanner diwrnod, yn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i ymchwilio i’r damcaniaethau a'r cysyniadau sy'n ymwneud ag adolygiadau cwmpasu a mathau eraill o synthesis tystiolaeth. Mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gynllunio’n llwyddiannus ar gyfer adolygiad cwmpasu, gan gynnwys cynnal adolygiad cwmpasu ac adrodd arno gan ddilyn dull JBI.

Os ydych chi’n gweithio yn y Brifysgol neu’n astudio ar gyfer PhD gyda ni, mae gennych chi’r hawl i gael lle sydd wedi’i ariannu’n llawn/rhannol ar y cwrs hwn. Cysylltwch â Chanolfan Cymru ar gyfer Gofal sy'n Seiliedig ar Dystiolaeth cyn cadw eich lle. Mae rhagor o fanylion ar gael isod. Cysylltwch â Chanolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle. Mae rhagor o fanylion isod.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
3 Mawrth 2025 3 a 4 Marwth. Ar-lein. 2 hanner diwrnod. (09:30 - 13:30)
Ffi
£240

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r gweithdy hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnal adolygiadau cwmpasu. P'un a ydych yn fyfyriwr ymchwil gradd uwch, yn academydd, yn weithiwr iechyd cyhoeddus proffesiynol, neu'n glinigwr sydd â diddordeb mewn ymchwil, bydd y gweithdy hwn yn ddefnyddiol i'ch arwain tuag at gynnal adolygiad cwmpasu da.

Staff Prifysgol Caerdydd - Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Efallai eich bod yn gymwys i gael lle sydd wedi’i ariannu’n llawn ar y cwrs hwn. Cysylltwch â Chanolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle.

Myfyrwyr PhD sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd

Rydych yn gymwys i gael lle wedi'i ariannu'n rhannol. Y ffi i'w thalu yw £50. Cysylltwch â Chanolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle.

Taff nad ydyn nhw’n staff gofal iechyd - Prifysgol Caerdydd

Rydych chi’n gymwys i gael lle am bris gostyngol ar y cwrs hwn. Y ffi i'w thalu yw £144. Cysylltwch â Chanolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Ar ddiwedd y rhaglen hyfforddi hon bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu:

  • llunio cwestiwn cwmpasu atebol
  • datblygu meini prawf cynhwysiant ac allgáu i adnabod llenyddiaeth i ateb y cwestiwn
  • llunio chwiliadau cymhleth ar gyfer llenyddiaeth sy'n briodol i'r cwestiwn cwmpasu
  • echdynnu data perthnasol o'r llenyddiaeth
  • cyfuno data ymchwil a dynnwyd i ffurfio casgliadau ac ateb y cwestiwn adolygu
  • llunio protocol ac adroddiad adolygu y gellir ei gyhoeddi

Gwybodaeth ddefnyddiol am y cwrs hwn

Cynhelir y cwrs hwn dros ddau hanner diwrnod (09:30 – 13:30 bob dydd).

Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.

Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein.  Byddwn yn darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall (fel manylion mewngofnodi) yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.

Ni fydd angen unrhyw offer arnoch oni bai am gyfrifiadur gyda chysylltiad da â’r rhyngrwyd, camera, a’r gallu i fewngofnodi i Zoom.

Tystebau cyfranogwyr

Rydym yn falch iawn o fod wedi cael adborth ardderchog am y cwrs hwn gan gyfranogwyr:

Roedd hyfforddiant ar-lein JBI ar adolygiadau cwmpasu’n ddefnyddiol iawn. Cafodd y broses o wneud adolygiad cwmpasu a’r ystyriaethau ymarferol eu hegluro’n glir iawn.  Roedd y cwrs wedi’i drefnu mewn ffordd effeithlon a defnyddiol. Mae hynny’n wir hefyd am y cyfathrebu â’r Brifysgol.  Byddwn yn bendant yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy'n ystyried gwneud adolygiad cwmpasu. Roeddwn yn teimlo’n fwy hyderus (a brwdfrydig!) wrth ddechrau fy adolygiad ar ôl gwneud y cwrs.

Kirsten Lamb, Ffisiotherapydd Cyhyrysgerbydol, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Cymunedol Leeds

Rhoddodd hyfforddiant JBI ar adolygiadau cwmpasu’r hyder i mi wneud adolygiad cwmpasu’n rhan o’m PhD. Roedd y staff a'r cyflwynwyr i gyd yn hawdd mynd atynt ac yn wybodus iawn. Byddwn yn argymell yr hyfforddiant hwn i ymchwilwyr PhD eraill neu'r rhai sy'n newydd i adolygiadau cwmpasu.

Megan Blinn, Ymchwilydd PhD, y Sefydliad Ymchwil Nyrsio ac Iechyd, Prifysgol Ulster

Cymerais ran yn hyfforddiant JBI ar adolygiadau cwmpasu ym mis Medi 2022. Roedd y broses gofrestru’n syml, ac roedd y cyfathrebu cyn y digwyddiad yn ardderchog – anfonodd y tîm yr holl adnoddau hyfforddi atom ymlaen llaw. Roedd yr hyfforddiant wedi'i strwythuro'n eithriadol o dda, ac roedd digon o seibiannau ar adegau da. Cafodd y cynnwys ei gyflwyno’n briodol gan amrywiaeth o gyflwynwyr, a oedd i gyd yn wybodus ac yn frwdfrydig. Drwy ddefnyddio gwaith grŵp, llyfr gwaith a chwisiau, er enghraifft, roedd yr hyfforddiant yn rhyngweithiol, yn ddiddorol ac yn berthnasol i’m gwaith unigol. Roedd yr hyfforddiant hwn yn werth chweil.

Jessica Bailey, Uwch Ddarlithydd, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd

Cymerais ran yng ngweithdy JBI ar adolygiadau cwmpasu ar 21 Medi, a hynny o bell.  Roedd yn ddiwrnod gwych, yn llawn cynnwys perthnasol a diddorol.  Cefais wybodaeth a dealltwriaeth newydd sy'n dangos eu gwerth wrth gynnal ein hadolygiad systematig.  Roeddwn yn meddwl y byddai diwrnod cyfan o ddysgu ar-lein yn waith caled, ond roedd y fformat a'r cyflwynwyr wedi paratoi a chynnal diwrnod rhyngweithiol ac addysgiadol.

Dr Angie Logan, Ffisiotherapydd Ymgynghorol – Adsefydlu yn Dilyn Strôc, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gofal Iechyd Prifysgol Frenhinol Dyfnaint a Phrifysgol Plymouth

Rhoddodd Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth hyfforddiant arbenigol i glinigwyr ac academyddion o Rwmania, yn rhan o gytundeb mentora ffurfiol â Chanolfan Ymchwil Nyrsio Rwmania.