Rhaglen Cymrodoriaeth Glinigol ar Sail Tystiolaeth JBI
Ydych chi eisiau cynnwys tystiolaeth yn eich ymarfer dydd i ddydd?
Mae Rhaglen Cymrodoriaeth Glinigol ar Sail Tystiolaeth JBI yn cyflwyno dulliau wedi’u profi i glinigwyr, rheolwyr, llunwyr polisïau a rheolwyr ansawdd mewn gofal iechyd er mwyn rhoi tystiolaeth ar waith yn eu hymarfer. Yn ystod y rhaglen, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn:
- datblygu eu sgiliau a’u cryfderau o ran arweinyddiaeth glinigol ymhellach
- cynnal archwiliadau clinigol ac yn ymgymryd â phrosesau gwella ansawdd
- ymgyfarwyddo â fframweithiau a meddalwedd i roi ymchwil a thystiolaeth glinigol ar waith yn ymarferol
- datblygu a gweithredu strategaethau i roi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar waith yn eu hamgylchedd gwaith eu hunain
Eich galluogi chi i wella gofal
Mae Rhaglen Cymrodoriaeth Glinigol ar Sail Tystiolaeth JBI yn grymuso gweithwyr gofal iechyd i wella deilliannau cleifion drwy roi’r sgiliau a’r wybodaeth iddynt roi tystiolaeth ar waith mewn ymarfer. Yn ystod y rhaglen, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn mynd i weithdai hyfforddiant dwys, ac yn cynnal prosiect rhoi tystiolaeth ar waith yn eu gweithle yn ystod y misoedd yn y cyfamser.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.
Cofrestru eich diddordebManteision
Ar ddiwedd y rhaglen, bydd y rhai sy’n cymryd rhan wedi paratoi adroddiad i’w gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid, a bydd hwn i’w weld ar gronfeydd data meddygol rhyngwladol ynghyd â Google Scholar. Mae Rhaglen Cymrodoriaeth Glinigol ar Sail Tystiolaeth yn cynnwys y Gweithdy Arweinyddiaeth Glinigol sy’n ddeinamig ac yn rhyngweithiol.