Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Hyfforddi Adolygiad Systematig Cynhwysfawr JBI (modiwl 1 a 3 yn unig) (ar-lein)

Datblygu, cynnal a chyflwyno adolygiadau systematig cynhwysfawr er mwyn rhoi’r dystiolaeth gryfaf posibl i lywio penderfyniadau a chanllawiau clinigol ynglŷn â gofal iechyd.

Cafodd ein Hadolygiad Systematig Cynhwysfawr (CSR) JBI ei ddylunio i baratoi ymchwilwyr a chlinigwyr i ddatblygu, cynnal a chyflwyno adolygiadau systematig cynhwysfawr o dystiolaeth ansoddol a meintiol, ar sail dull JBI a defnyddio meddalwedd SUMARI JBI.

Rydyn ni’n denu cyfranogwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a ledled y byd, ac mae’r rhaglen yn cael ei chynnal gan aelodau o’r ganolfan sydd oll yn hyfforddwyr profiadol ac sydd wedi’u achredu gan y JBI.

Os ydych chi’n gweithio yn y Brifysgol neu’n astudio ar gyfer PhD gyda ni, mae gennych chi’r hawl i gael lle sydd wedi’i rhannol ar y cwrs hwn. Cysylltwch â Chanolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle. Mae rhagor o fanylion isod.

Sylwch mai dyma’r opsiwn i fynychu modiwlau 1 a 3 yn unig. I fynychu pob sesiwn, ewch i brif dudalen y cwrs.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
12 Mai 2025 Ar-lein. 12 Mai a 19-21 Mai 2025
Ffi
£495 (mae hyn yn cynnwys modiwlau 1 a 3 yn unig)

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae rhaglen Adolygu Systematig Cynhwysfawr (CSRT) y JBI yn addas ar gyfer unigolion sy'n newydd i'r broses adolygu systematig cynhwysfawr ac sy'n dymuno dysgu am adolygu a chydblethu tystiolaeth feintiol ac ansoddol. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael dealltwriaeth drylwyr o'r broses a'r offer sydd eu hangen i wneud y math pwysig hwn o ymchwil.

Mae’n rhaglen hyfforddi ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella eu sgiliau cydblethu tystiolaeth (hynny yw, cynnal adolygiadau systematig, a chynnal meta-ddadansoddiad neu feta-synthesis).

P'un a ydych yn fyfyriwr ymchwil gradd uwch, yn academydd, yn weithiwr iechyd cyhoeddus proffesiynol, neu'n glinigwr sydd â diddordeb mewn ymchwil, bydd y cwrs hyfforddiant hwn yn ddefnyddiol i'ch arwain tuag at gynnal adolygiad systematig da.

Staff Prifysgol Caerdydd - Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Rydych yn gymwys i gael lle wedi'i ariannu'n rhannol. Y ffi i'w thalu yw £105. Cysylltwch â Chanolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle.

yfyrwyr PhD sy'n astudio yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd 

Rydych yn gymwys i gael lle wedi'i ariannu'n rhannol. Y ffi i'w thalu yw £105. Cysylltwch â Chanolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle.

Taff nad ydyn nhw’n staff gofal iechyd - Prifysgol Caerdydd

Rydych chi’n gymwys i gael lle am bris gostyngol ar y cwrs hwn. Y ffi i'w thalu yw £297. Cysylltwch â Chanolfan Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru (WCEBC) am ragor o wybodaeth cyn cadw eich lle.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Datblygu, cynnal a chyflwyno adolygiadau systematig cynhwysfawr er mwyn rhoi’r dystiolaeth gryfaf posibl i lywio penderfyniadau a chanllawiau clinigol ynglŷn â gofal iechyd.

Modiwl 1:

Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn dysgu am hanfodion adolygiadau systematig a chydblethu tystiolaeth yn unig (hynny yw, llunio cwestiwn clinigol penodol, chwilio'r llenyddiaeth, a datblygu cynnig). Nid fydd y modiwl yn ymdrin ag adolygu a chydblethu tystiolaeth feintiol ac ansoddol.

  • Defnyddio meddalwedd y JBI i baratoi protocol adolygu systematig, gan gynnwys pennu cwestiwn, chwilio, adfer, a dewis ymchwil ar gyfer yr adolygiad.

Modiwl 2:

Mae’r modiwl 4 diwrnod o hyd hwn yn addas ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn adolygu a chydblethu tystiolaeth feintiol yn unig

  • Gwerthuso sampl o ymchwil meintiol yn feirniadol, yn rhan o'r broses adolygu.
  • Defnyddio meddalwedd y JBI i gynnal meta-ddadansoddiad a meta-synthesis o astudiaethau dethol.

Modiwl 3:

Mae’r modiwl 3 diwrnod o hyd hwn yn addas ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn adolygu a chydblethu tystiolaeth ansoddol yn unig

  • Gwerthuso sampl o ymchwil ansoddol yn feirniadol, yn rhan o'r broses adolygu.
  • Defnyddio meddalwedd y JBI i gynnal meta-ddadansoddiad a meta-synthesis o astudiaethau dethol.

Manteision

  • hyfforddiant ffurfiol yn nulliau adolygu systematig y JBI
  • byddwch yn cwblhau cynllun strwythuredig i greu eich cynnig adolygiad systematig eich hun yn ystod y sesiwn
  • erbyn diwedd y cwrs, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn meddu ar gynllun strwythuredig er mwyn creu protocol adolygu systematig
  • mynediad i feddalwedd SUMRI y JBI am flwyddyn ar ôl cwblhau'r hyfforddiant
  • byddwch chi’n cael tystysgrif gan y JBI ar ôl cwblhau cwrs neu fodiwl astudio o’ch dewis yn llwyddiannus
  • rydyn ni’n cynnig gwasanaeth ymgynghori adolygu systematig am ffi ychwanegol i'r rhai sydd â diddordeb mewn symud ymlaen â'u prosiect adolygu systematig ar ôl i'r hyfforddiant ddod i ben

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Bydd agenda lawn yn cael ei anfon drwy e-bost cyn diwrnod yr hyfforddiant. Bydd holl ddeunyddiau'r cwrs yn cael eu hanfon yn electronig 1-2 wythnos cyn i’r cwrs ddechrau.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein.

Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall (fel manylion mewngofnodi) yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.

Ni fydd angen unrhyw offer arnoch oni bai am gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd da a chamera, a’r gallu i fewngofnodi i Teams.

Tystebau cyfranogwyr

Rydym yn falch iawn o fod wedi cael adborth ardderchog am y cwrs hwn gan gyfranogwyr:

Roedd yr hyfforddiant yn gynhwysfawr, ac roedd yr hwyluswyr yn barod (ac yn dal i fod yn barod) i helpu drwy gynnig arweiniad ar sut i gwblhau adolygiad. A minnau’n ymchwilydd ansoddol, roedd y modiwl ar ymchwil feintiol yn fuddiol ar gyfer dysgu sylfaenol (er ei fod ar lefel rhy uchel i mi!). Roedd cymysgedd da o ymarferion damcaniaethol ac ymarferion dysgu drwy brofiad. Mae llawer i’w wneud mewn wythnos – byddwch yn barod (bydd yn werth chweil)!

Lauren Cox – Uned Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid (JUICE), Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Iechyd Meddwl Manceinion Fwyaf, y DU

Drwy ddatblygu sgiliau syntheseiddio tystiolaeth a chael y cyfle i greu cysylltiadau ag arbenigwyr, rwyf wedi gallu cynnal adolygiad llawer mwy trylwyr a chadarn o’m hymchwil.  Byddwn yn argymell y cwrs yn fawr, ni waeth ble rydych arni yn eich gyrfa ymchwil.

Laura Ingham – myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd, y DU

Cwblheais Raglen Hyfforddiant JBI ar Adolygiadau Systematig Cynhwysfawr ym mis Mehefin 2021 i’m helpu i benderfynu a fyddai adolygiad systematig neu adolygiad cwmpasu’n fwy priodol ar gyfer fy PhD. Erbyn diwedd y cwrs, roeddwn wedi dod i wybod cymaint am y gwahanol fathau o adolygiadau llenyddol gan yr arbenigwyr yng Nghanolfan Cymru (y DU) ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth. Roedd tiwtoriaid y cwrs yn hynod o glir, yn addysgiadol ac yn hawdd mynd atynt. O ganlyniad, cefais brofiad da o’r cwrs. Ar ôl y cwrs, roedd gennyf hyder yn fy ngalluoedd fy hun, ond gwnaeth y tiwtoriaid barhau i roi cymorth i mi drwy ateb cwestiynau a’m cyfeirio at adnoddau defnyddiol wrth i mi symud drwy gamau’r broses o gynnal fy adolygiad systematig cyntaf. Byddwn yn argymell y rhaglen hon yn fawr i ymchwilwyr, ni waeth ble maent arni yn eu gyrfa.

Rachael Hewitt, myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd, y DU

Mae Rhaglen Hyfforddiant JBI ar Adolygiadau Systematig Cynhwysfawr wedi fy helpu’n fawr i ddatblygu adolygiad cwmpasu systematig. Mae wedi datblygu sylfaen gadarn o wybodaeth a sgiliau sydd wedi fy rhoi ar y trywydd cywir, cefnogi dysgu hanfodol a’i gwneud yn bosibl i mi sicrhau ansawdd drwy gynnal ymchwiliadau sydd wedi’u hystyried yn fwy cadarn.

Claire Job, Uwch Ddarlithydd, Nyrsio Oedolion, Prifysgol Caerdydd, y DU

Rhoddodd Canolfan Cymru ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth hyfforddiant arbenigol i glinigwyr ac academyddion o Rwmania, yn rhan o gytundeb mentora ffurfiol â Chanolfan Ymchwil Nyrsio Rwmania.