Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Arweinyddiaeth Glinigol JBI

Mae Gweithdy Arweinyddiaeth Glinigol JBI yn weithdy undydd deinamig a rhyngweithiol sy'n seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ynghylch arweinyddiaeth glinigol.

Mae JBI yn sefydliad byd-eang sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n gwella iechyd a darpariaeth gwasanaethau iechyd.

Mae’r gweithdy trawsnewidiol hwn gan JBI yn agored i arweinwyr clinigol a darpar arweinwyr o bob disgyblaeth gofal iechyd. Mae’n cyflwyno gwybodaeth a thechnegau ymarferol i weithwyr gofal iechyd, er mwyn meithrin diwylliant mwy cadarnhaol, personol a phroffesiynol yn y gweithle.

Hefyd, mae Gweithdy Arweinyddiaeth Glinigol JBI yn helpu gweithwyr iechyd i weld strategaethau fydd yn eu cynorthwyo i reoli ymddygiad anodd, meithrin timau cynhyrchiol a rhoi newidiadau ar waith. Trwy hynny, galluogir arweinyddiaeth effeithiol o brosiectau a phobl.

Mae hwyluswyr hyfforddiant JBI yn tywys cyfranogwyr drwy fodelau ac offer cyfoes i ddatblygu dealltwriaeth a strategaethau ynglŷn ag arweinyddiaeth glinigol a rheoli newid ym maes gofal iechyd drwy ddefnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn.

Mae’r gweithdy’n cynnwys cymysgedd o drafodaethau grŵp a arweinir gan hwylusydd, dysgu wedi’i dywys, myfyrio personol ac ymarferion dadansoddol.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae’r gweithdy’n cynnwys cymysgedd o drafodaethau grŵp a arweinir gan hwylusydd, dysgu wedi’i dywys, myfyrio personol ac ymarferion dadansoddol.