Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Lynoleg Cronfeydd Dŵr a Monitro Biolegol  (ar lein)

Mae'r cwrs byr hwn yn ymdrin â’r prosesau biolegol, cemegol a ffisegol yng nghyd-destun cronfeydd dŵr yfed y mae angen eu deall wrth reoli'r systemau cymhleth hyn, a hynny er mwyn lleihau'r risg o ansawdd dŵr gwael cyn y broses o drin y dŵr.

Bydd y cwrs yn cynnwys prosesau cronfeydd dŵr a gwaddodion, monitro a dadansoddi data, a dulliau o fonitro biolegol.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
8 Mai 2025 8 Mai a 15 Mai (pob sesiwn 10:00-12:30)
Ffi
£350 (2 x sesiwn 2.5 awr, yn dechrau am 10:00)

Ar gyfer pwy mae hwn

Roedd yna alw am y cwrs hwn ymysg staff y diwydiant dŵr, ac mae wedi’i gynllunio ar sail eu hanghenion a’u profiadau o gyflwyno’r cwrs drwy gydweithrediadau hirdymor gyda’r cwmnïau dŵr.

O ganlyniad, mae'r cwrs wedi'i deilwra i hwyluso’r cyfnewid gwybodaeth y mae ei hangen ar staff y cwmnïau dŵr sy'n ymwneud â phob agwedd ar ansawdd a monitro dŵr, gan gynnwys rheolwyr cronfeydd dŵr, gwyddonwyr yn y dalgylch ac ati, yn ogystal â'r rhai mewn timau ymchwil ac arloesi a dadansoddi data.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Bydd y rheiny sydd ar y cwrs yn dysgu’r prif brosesau sy’n effeithio ar risgiau biolegol a chemegol ar ansawdd y dŵr mewn cronfa ddŵr, ynghyd â’r dulliau y mae modd eu defnyddio i allu rhagweld digwyddiadau ynghylch ansawdd y dŵr (blas ac arogl, gordyfiant algae, manganîs ac ati).

Yn ogystal, cewch chi wybod sut i ddefnyddio’r data hyn er mwyn amlygu ymyriadau mewn achosion lle bo hynny’n ymarferol.

Mae'r cwrs wedi'i rannu'n ddwy ran: i) y prosesau biolegol, cemegol a ffisegol yng nghyd-destun cronfeydd dŵr; ii) monitro cronfeydd dŵr drwy ddefnyddio dulliau biolegol moleciwlaidd.

Caiff y cwrs ei gyflwyno’n rhan o gydweithrediad rhwng Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ac Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd.

Pynciau dan sylw

Sesiwn 1: Prosesau cronfeydd dŵr

  • Trosolwg o weoedd bwyd mewn cronfeydd dŵr, mathau allweddol o rywogaethau, beth sy'n rheoli eu helaethrwydd a sut mae'r gwahanol grwpiau hyn o organebau yn effeithio ar ansawdd y dŵr.
  • Rheolaeth yn y dyfodol: effeithiau newid yn yr hinsawdd a dulliau ecosystemau gan ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur.
  • Maetholion allweddol yn y golofn ddŵr; yr hyn mae angen ei fesur, a sut y gellir dadansoddi'r rhain yn well.
  • Cysylltu'r data â risgiau o ran ansawdd y dŵr, a thrwy hynny, ymgymryd â dulliau o ddefnyddio data at ddibenion rhagfynegi risg a phenderfynu ar ymyriadau.
  • Prosesau cemegol a ffisegol yng nghyd-destun gwaddodion: y ffactorau sy'n rheoli llwythi maetholion, haearn a manganîs mewnol; effeithiau cymysgu; dadansoddi cydbwysedd màs i bennu dosraniad ffynhonnell berthynol.

Sesiwn 2: Monitro Biolegol gan ddefnyddio dulliau moleciwlaidd

  • Egwyddorion dadansoddi moleciwlaidd; Yr hanfodion.
  • Dulliau dilyniannu eraill a'u cymwysiadau.
  • Trosolwg o eDNA; sy’n amrywio o gasglu samplau i allbwn data.
  • Delweddu a dehongli data eDNA; Sut i ddeall a defnyddio eich setiau data.

Manteision

Mae'r cwrs yn unigryw gan ei fod wedi'i ddatblygu yn seiliedig ar ddealltwriaeth wirioneddol o'r heriau sy'n wynebu cwmnïau dŵr o ran cyfyngiadau i fonitro cytbwys, ynghyd â'r angen i ddeall llynoleg cronfeydd dŵr er mwyn amlygu datrysiadau a rhagweld problemau.

Drwy hynny, bwriad y cwrs yw arfogi staff y diwydiant dŵr gyda'r wybodaeth i farnu'n well ai datrysiadau peirianyddol yw'r opsiwn cywir, os gall rheoli dalgylchoedd leihau'r risg, os yw atebion sy'n seiliedig ar natur yn gweithio, os oes atebion neu ai triniaeth yw'r opsiwn gwell, a deall sut mae pethau'n newid mewn hinsawdd sy'n newid.

Bydd y cwrs yn rhoi cyflwyniad i'r wybodaeth a'r ffyrdd o fonitro a dadansoddi data ar gronfeydd dŵr i gyflawni hyn.

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Bydd manylion y cwrs, deunyddiau dysgu, ac unrhyw wybodaeth ychwanegol yn cael eu rhoi bythefnos cyn y dyddiad cychwyn. Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal ar-lein. Bydd angen cyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd sefydlog, camera, a'r gallu i gyrchu Microsoft Teams.

Cwrs sylfaenol a rhagarweiniol yw hwn, sy’n cael ei gynnal dros dwy sesiwn (mae pob sesiwn unigol yn para 2.5 awr). Cyfanswm hyd y sesiynau felly fydd 5 awr.

Bydd y ddwy sesiwn yn cael eu cynnal gyda bwlch o wythnos rhwng pob sesiwn, a byddan nhw’n cael eu cyflwyno gan ddau aelod o staff: Yr Athro Rupert Perkins a Dr Sophie Watson.

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.