Cyflwyniad i Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol ar gyfer Gwyddonwyr y Ddaear a’r Amgylchedd (ar lein)
Rhoi’r sgiliau i wyddonwyr y ddaear a’r amgylchedd ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i greu mapiau ac i ddelweddu a dadansoddi amrywiaeth o ddata gofodol.
Mae GIS yn arbennig o bwysig ym maes gwyddoniaeth y Ddaear a'r Amgylchedd. O greu mapiau adnoddau daearegol a mwynau i geisiadau mewn meysydd fel peryglon naturiol, peirianneg sifil, gan gynnwys adeiladu pontydd a ffyrdd, mathau o bridd, amaethyddiaeth, a chynllunio trefol, mae GIS yn darparu'r offer ar gyfer delweddu a dadansoddi perthnasoedd gofodol. Mae GIS hefyd yn hanfodol ar gyfer lleoli'r georesources y bydd eu hangen arnom ar gyfer trosglwyddo i'r economi werdd.
Cwrs ar-lein hwn ac fe’i cynlluniwyd i chi ei gwblhau yn eich amser eich hun ac ar gyflymder sy’n addas i chi. Mae’n cael ei gyflwyno yn Saesneg gan arbenigwyr GIS ac arbenigwyr mapio rhagolygon o Brifysgol Caerdydd a cheir cynnwys gan gydweithwyr o Arolwg Daearegol y Ffindir a Midlands State University, Zimbabwe yn rhan ohono.
Sylwer: Dim ond gyda cherdyn credyd y gallwn dderbyn taliad ar gyfer y cwrs hwn. Byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau'r cwrs heb fod yn hwyrach nag wythnos ar ôl gwneud taliad. Bydd gennych fynediad am 2 fis o'r dyddiad y byddwch yn cyrchu'r deunyddiau dysgu am y tro cyntaf.
Yr Athro Thomas Blenkinsop ddatblygodd y cwrs.
Ymrestru ar y cwrs hwn
Dyddiad dechrau | Diwrnodau ac amseroedd |
---|---|
24 Chwefror 2025 | Cwrs ar-lein 16-20 awr i'w gymryd yn eich amser eich hun. |
Ffi |
---|
£250 (byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau'r cwrs heb fod yn hwyrach nag wythnos ar ôl gwneud taliad) |
Ar gyfer pwy mae hwn
Gwyddonwyr y Ddaear a’r Amgylchedd.
Yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd, rydym wedi creu cwrs ar-lein newydd sbon, sy'n edrych ar Dechnegau GIS o safbwynt geowyddoniaeth. Felly, er efallai eich bod wedi gweld rhaglenni GIS eraill, credwn fod hwn yn gwrs eithaf unigryw. Mae'r cynnwys wedi'i ddylunio gyda daearegwyr a gwyddonwyr amgylcheddol mewn golwg, ac mae enghreifftiau drwy gydol y cwrs yn canolbwyntio ar georesources.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd y sawl fu’n cymryd rhan yn gallu:
- deall egwyddorion a chymwysiadau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
- deall y gwahanol fathau o ddata gofodol a'r gallu i ddewis a gweithredu'r dulliau mwyaf priodol i'w dadansoddi a'u harddangos
- dewis a chymhwyso systemau cyfeirio cyfesurynnau, priodol, a newid rhwng y systemau hynny
- defnyddio QGIS ar gyfer arddangos a dadansoddi data gofodol, yn enwedig ar gyfer Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd
- digido data gofodol i greu mapiau
- defnyddio gwasanaethau mapio gwe, teils, ategion a blwch offer QGIS
Pynciau dan sylw
- cyflwyniad cyffredinol i GIS a QGIS
- yrhyngwyneb QGIS
- gweithio gyda data rastr a fector
- cynlluniau print: creu map
- gweithio gyda mathau eraill o haenau
- gwasanaethau mapio gwe, Teils
- digido
- ategion a'r Blwch Offer
Manteision
Er bod cyrsiau GIS eraill ar gael, mae ffocws arbennig yr un hwn ar wyddor y ddaear a'r amgylchedd sy’n rhoi cymeriad unigryw i’r cwrs, a bydd yn apelio at y rhai sy'n fyfyrwyr yn gweithio yn y maes neu weithwyr proffesiynol yn y maes.
Nod y cwrs yw bod yn gyflwyniad cymharol gyflym ac effeithiol, a fydd yn rhoi platfform i gyfranogwyr ddefnyddio GIS ar lefel sylfaenol yn ogystal â datblygu arbenigedd mwy penodol.
Ein tîm:
- yn creu awyrgylch cyfeillgar, croesawgar a chefnogol ar gyfer dysgu
- yn cael adborth rhagorol yn gyson gan ddysgwyr
Mae'r dyluniad yn eich galluogi i:
- ymgymryd ag elfen astudio annibynnol y cwrs ar amser sy'n addas i chi, ac ar eich cyflymder eich hun
Cymerwch olwg ar y fideo byr hwn, sy'n amlinellu nodau, amcanion a manteision y cwrs hwn.
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Cwrs ar-lein hwn ac fe’i cynlluniwyd i chi ei gwblhau yn eich amser eich hun ac ar gyflymder sy’n addas i chi. Mae’n cael ei gyflwyno yn Saesneg gan arbenigwyr GIS ac arbenigwyr mapio rhagolygon o Brifysgol Caerdydd a cheir cynnwys gan gydweithwyr o Arolwg Daearegol y Ffindir a Midlands State University, Zimbabwe yn rhan ohono.
Bydd yn cael ei gyflwyno drwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein a rhyngweithiol, megis fideos byr ac ymarferion i brofi eich gwybodaeth. Mae prawf ar ddiwedd y cwrs i asesu’r dysgu hefyd. Os byddwch chi’n cael 50% neu fwy, byddwn ni’n anfon e-dystysgrif cwblhau atoch.
Bydd yr hyfforddiant yn cymryd tua 16-20 awr i'w gwblhau.
Mae'r cwrs hwn yn anghydamserol, ond byddwch chi’n cael cyfle i gysylltu â'r tiwtor arweiniol, a byddwn ni’n cysylltu â chi i drefnu dyddiad am sesiwn fyw.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy blatfform dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu ebostio atoch ychydig ddyddiau cyn i'ch mynediad at y cwrs ddechrau.
Bydd gennych chi fynediad at ddeunyddiau'r cwrs am hyd at ddeufis.
Arweinydd cwrs
Yr Athro Thomas Blenkinsop
Mae Tom yn Athro Daeareg Strwythurol yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd y Brifysgol. Mae ganddo fe 30 mlynedd o brofiad o ddadansoddi adeileddol. Mae llawer o hyn wedi’i gynnal yng nghyd-destun ymgynghori ynghylch problemau gyda mwyneiddio hydrothermol ar gyfer cwmnïau mwyngloddio mawr. Drwy’r profiad hwn, mae wedi datblygu dull unedig a systematig o ddadansoddi adeileddol, sy’n cynnwys dulliau newydd a syml o ddelio ag adeileddau fel llinelliadau, plygiannau a pharthau rhwygo.