Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ar lein)
Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn darparu (neu'n gwella) gwybodaeth am dechnoleg ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a'i chymwysiadau.
Mae hwn yn gwrs ar-lein y gallwch ei wneud yn eich amser eich hun. Bydd yr hyfforddiant yn cymryd tua 3.5 awr i'w gwblhau.
Bydd yn cael ei gyflwyno trwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein a rhyngweithiol megis fideos byr ac ymarferion i brofi eich gwybodaeth.
Sylwer: Dim ond gyda cherdyn credyd y gallwn dderbyn taliad ar gyfer y cwrs hwn.
Dr Daryl Beggs, Darlithydd, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth fydd eich hyfforddwr.
Ymrestru ar y cwrs hwn
Dyddiad dechrau | Diwrnodau ac amseroedd |
---|---|
6 Ionawr 2025 | Cwrs ar-lein 3.5 awr i'w gymryd yn eich amser eich hun |
Ffi |
---|
£150 (byddwch yn cael mynediad i ddeunyddiau'r cwrs o fewn 72 awr o dalu) |
Ar gyfer pwy mae hwn
- y rhai sy'n gweithio yn y sector lled-ddargludyddion sy'n dymuno uwchsgilio eu gwybodaeth am ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
- gweithwyr y clwstwr CSconnected a'u partneriaid cadwyn gyflenwi
- y rhai sydd am ailhyfforddi i'r sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd
- y rhai sy’n cefnogi’r sector – fel gweithwyr y sector cyhoeddus, athrawon ysgol uwchradd/Colegau AB/cynghorwyr gyrfaoedd/ dylanwadwyr ieuenctid
Myfyrwyr lefel A a lefel israddedig sy'n astudio pynciau gwyddonol a allai fod â diddordeb mewn gyrfa yn y sector lled-ddargludyddion/lled-ddargludyddion cyfansawdd
At ba lefel mae'r cwrs wedi'i anelu?
Mae hwn yn gwrs lefel rhagarweiniol a allai fod yn addas ar gyfer pobl o ystod eang o gefndiroedd.
Mae'r elfen wyddoniaeth wedi'i hanelu at safon Lefel A, felly i gael y profiad gorau o'r cwrs rydym yn cynghori bod gan gyfranogwyr rywfaint o wybodaeth gefndir a dealltwriaeth sylfaenol o ffiseg / gwyddoniaeth neu beirianneg. Er enghraifft, byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth sylfaenol am atomau ac electronau.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ddeunyddiau hanfodol ar gyfer technolegau modern a newydd fel 5G, ceir heb yrwyr, Rhyngrwyd Pethau (IoT), a Deallusrwydd Artiffisial (AI). Mae ganddynt hefyd ran allweddol i'w chwarae wrth helpu i fynd i'r afael â rhai o heriau'r byd modern, gan gynnwys cynaliadwyedd a'r agenda sero net.
Efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â Silicon, a fu’n asgwrn cefn i’r chwyldro electroneg o’r 1960au. Gan ei fod yn elfen sengl o'r tabl cyfnodol, mae gan Silicon set gyfyngedig o briodweddau. Mae gan Led-ddargludyddion Cyfansawdd briodweddau gwell na Silicon, gan alluogi llawer o dechnolegau a dyfeisiau newydd ac arloesol megis:
- Pŵer (electroneg pŵer ar gyfer cerbydau trydan)
- Cyflymder (amledd radio ar gyfer 5G a RADAR)
- Golau (ffotoneg ar gyfer cyfathrebu ffibr optegol)
Erbyn diwedd y cwrs, dylai fod pawb yn gallu:
- egluro beth yw ffotoneg a ble mae i'w gael mewn bywyd bob dydd
- disgrifio, mewn termau syml, beth yw lled-ddargludyddion, gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng lled-ddargludyddion elfennol (silicon) a lled-ddargludyddion cyfansawdd
- disgrifio, mewn termau syml, sut mae cylchedau integredig ffotonig yn cael eu gwneud
- disgrifio, ar lefel sylfaenol, y technegau nano a micro-wneuthuriad a ddefnyddir i wneud dyfeisiau ffotoneg
- deall, mewn termau syml, cymwysiadau lled-ddargludyddion a gwybod pa led-ddargludyddion sy'n briodol
- gwerthfawrogi cymwysiadau'r farchnad bresennol ac yn y dyfodol ar gyfer sglodion ffotonig
- egluro sut mae technoleg sglodion ffotonig yn cyfrannu at gymdeithas, at ddatblygiad technolegau newydd, ac yn helpu i fynd i'r afael â heriau'r byd modern
Pynciau dan sylw
- ffotoneg silicon
- ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
- ffiseg syml y tu ôl i briodweddau lled-ddargludyddion
- cylchedau integredig ffotonig (sglodion ffotonig), gan gynnwys:
- waveguides
- cyplyddion gratio
- cyseinyddion
- hidlyddion
- switsys a modylyddion
- ffowndrïau
- datgelu geiriau/cysyniadau allweddol o'r sector
Dull cyflwyno
Mae hwn yn gwrs e-ddysgu y gellir ei gyrchu o bell yn eich amser eich hun. Mae'n tua. 3.5 awr oddeunyddiau ar-lein sydd wedi'u strwythuro'n adrannau sy'n cynnwys fideos byr a rhai gweithgareddau i brofi eich gwybodaeth. Mae yna hefyd Fwrdd Trafod lle gall cyfranogwyr ofyn cwestiynau i'r tiwtor ac eraill ar y cwrs.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant o’r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi’i leoli yn ac o amgylch De Cymru yn y Deyrnas Unedig.
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'w gwblhau yn eich amser eich hun ac ar gyflymder sy’n addas i chi. Nid oes elfen fyw ond byddwch yn cael cyfle i gysylltu â'r tiwtor arweiniol. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy blatfform dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu ebostio atoch ychydig ddyddiau cyn i'ch mynediad at y cwrs ddechrau.
Bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r cwrs am hyd at fis.
Bydd Tystysgrif Cwblhau DPP yn cael ei rhoi i ddysgwyr sy'n cyflawni 70% neu ragor yn y prawf ar ddiwedd y cwrs.
Arweinydd cwrs
Mae Dr Daryl Beggs yn Ddarlithydd yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd ac mae ganddi gefndir mewn ffotoneg silicon a chrisialau ffotonig.
Mae Daryl hefyd yn academydd yn Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) Prifysgol Caerdydd lle mae’n ymchwilio i rai o’r dewisiadau amgen i silicon, er mwyn sefydlu dulliau i gynhyrchu dyfeisiau ffotonig cwantwm mewn cylchedau integredig ffotonig lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Mae'r ICS yn arweinydd mewn ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn darparu llwyfan lle gall ymchwilwyr a diwydiant gydweithio.
Manteision
Datblygwyd y cwrs hwn gan y Brifysgol mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant o'r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru a'r cyffiniau yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio cyllid a ddarparwyd gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.
Mae pob cwrs yn gyflwyniad byr i’r meysydd allweddol yn niwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, ac sydd wedi'u cynllunio er mwyn i gyfranogwyr allu eu cwblhau pryd bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw. Cafodd y cyrsiau hyn eu creu drwy ymgynghori a gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau yng nghlwstwr CSconnected i sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.
Dyluniwyd y cyrsiau hyn er mwyn:
- uwch-sgilio’r gweithwyr hynny yn y diwydiant sydd am wella eu gwybodaeth ynghylch ffotoneg lled-ddargludyddion cyfansawdd
- helpu i ail-sgilio’r unigolion hynny sy’n dymuno ail-hyfforddi i ymuno â’r diwydiant, neu ddarparu gwybodaeth a chyd-destun i’r rhai sy’n cefnogi’r sector
Cyllid sydd ar gael
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR)
CCR – nifer cyfyngedig o leoedd wedi’u hariannu ar gael ar y cwrs hwn.
Sylwch fod yn rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg). Rhaid i ymgeiswyr beidio â bod mewn addysg amser llawn.
Ar gyfer unigolion
- ReAct+ - hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant sgiliau perthnasol i'r rhai 18+ sy'n byw yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd ffurfiol o ddiswyddiad. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma
Ar gyfer sefydliadau
- Cyllid y Rhaglen Sgiliau Hyblyg – hyd at 50% o gymorth ariannol i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Am fanylion, cliciwch yma
- ReAct+ - hyd at £1,000 ar gyfer hyfforddiant sgiliau sy'n gysylltiedig â swydd wrth recriwtio rhywun 18+ sy'n preswylio yng Nghymru ac yn ddi-waith neu o dan rybudd diswyddo ffurfiol. I gael rhagor o fanylion, cliciwch yma