Ewch i’r prif gynnwys

Dadansoddeg gofal iechyd gan ddefnyddio Excel: modelu ac optimeiddio taenlenni

Mewn oes iechyd digidol, rheoli gofal iechyd sy'n cael ei hysgogi gan effeithlonrwydd ac ymarfer clinigol, mae dadansoddi data yn hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus a gwella canlyniadau i gleifion. Mae Microsoft Excel yn declyn pwerus i weithwyr gofal iechyd proffesiynol drefnu, dadansoddi a dehongli data yn effeithiol.

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i fodloni anghenion rheolwyr a chlinigwyr ym maes gofal iechyd, gyda'r nod o ddatgloi potensial dadansoddi Excel trwy drin a thrafod ei fformiwlâu, ei swyddogaethau a'i becyn datrys ar gyfer modelu mathemategol gan ddefnyddio Excel.

P'un a ydych chi'n ddechrau arni neu gyda phrofiad o ddefnyddio Excel, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau i chi i ddefnyddio Excel ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ym maes gofal iechyd. Ar ben hynny, gall eich helpu i ddadansoddi problemau cymharol gymhleth megis paru capasiti a galw gan ddefnyddio modelau staffio ac amserlennu, er enghraifft.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
2 Medi 2024 Tua 8 awr o ddysgu ynghyd â sesiwn fyw awr o hyd ar-lein
Ffi
£500 (os ydych chi’n gweithio i Fwrdd Iechyd, mae gennych chi’r hawl i le am ddim / am bris rhatach - cysylltwch â ni cyn cadw lle)

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer rheolwyr gofal iechyd, gweinyddwyr a chlinigwyr sy'n ceisio gwella eu sgiliau dadansoddi data gan ddefnyddio Microsoft Excel. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn gwahanol leoliadau gofal iechyd, gan gynnwys ysbytai, clinigau, a sefydliadau ymchwil.

Os ydych chi’n gweithio i Fwrdd Iechyd, mae gennych chi’r hawl i le wedi’i ariannu neu wedi’i ariannu’n rhannol ar y cwrs hwn. Cysylltwch â train@caerdydd.ac.uk cyn cadw eich lle.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Fformiwlâu a swyddogaethau Excel sylfaenol:
    • meistroli swyddogaethau Excel hanfodol ar gyfer dadansoddi data gofal iechyd, megis SUM, AVERAGE, COUNT, ac IF
    • deall gweithredwyr mathemategol sylfaenol a swyddogaethau rhesymegol wedi'u teilwra i gyfrifiadau gofal iechyd
  • Dadansoddi ystadegol ym maes rheoli gofal iechyd:
    • defnyddio swyddogaethau ystadegol sy'n berthnasol i ofal iechyd, gan gynnwys MEAN, MEDIAN, MODE, a STDEV
  • Trin a delweddu data uwch:
    • defnyddio swyddogaethau Excel uwch megis VLOOKUP, INDEX-MATCH, a CONCATENATE ar gyfer trin data gofal iechyd
    • technegau dilysu data a strategaethau trin gwallau i sicrhau cywirdeb wrth ddadansoddi data gofal iechyd
  • Tablau colynnu a siartiau colynnu
    • Torri data i rannau llai i gael gwybodaeth gyfunol gan ddefnyddio tablau colynnu
    • defnyddio siartiau colynnu i arddangos y data mewn ffordd ystyrlon ac sy’n hawdd eu dehongli
  • Optimeiddio gan ddefnyddio Excel
    • defnyddio Datryswr Excel a Datryswr Agored i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth megis problemau staffio ac amserlennu er mwyn cyfateb i'r galw a gallu
  • Cymwysiadau ymarferol ac astudiaethau achos ym maes gofal iechyd:
    • trin a thrafod defnyddio Excel yn y byd go iawn ar gyfer dadansoddi a rheoli data gofal iechyd
    • astudio astudiaethau achos sy'n arddangos lleoliadau gofal iechyd yn defnyddio Excel yn llwyddiannus
    • cymryd rhan mewn ymarferion ymarferol a chael awgrymiadau ymarferol i wneud y mwyaf o botensial Excel ym maes gofal iechyd

Manteision

Byddwch chi’n gallu manteisio ar y cyfle i wella eich sgiliau dadansoddi data trwy ddod yn fedrus yn Excel, gan eich galluogi i gael cipolygon gwerthfawr o setiau data gofal iechyd a gwneud penderfyniadau gwybodus yn effeithlon.

Trwy feistroli fformiwlâu a swyddogaethau Excel, byddwch yn symleiddio tasgau trin data, gan arbed amser a gwella cynhyrchiant ym maes rheoli gofal iechyd ac ymarfer clinigol.

Ar ben hynny, byddwch chi’n cael rhagflas ar fodelu mathemategol, yn enwedig drwy gynllunio galw a chapasiti a fydd yn eich grymuso i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ganlyniadau i’ch sefydliad.

Gydag ymarferion ymarferol, astudiaethau achos, ac enghreifftiau byd go iawn wedi'u teilwra i leoliadau gofal iechyd, byddwch yn gallu defnyddio eich sgiliau Excel newydd ar unwaith yn eich rôl broffesiynol, gan ddefnyddio amlochredd Excel i gyflawni gwahanol dasgau sy'n gysylltiedig â data ym maes gofal iechyd.

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Lluniwyd y cwrs hwn i'w gwblhau yn eich amser eich hun ac wrth eich pwysau eich hun. Bydd y cwrs yn cymryd tua 8 awr i'w gwblhau. Cewch gyrchu’r deunyddiau dysgu rhwng 2 a 27 Medi 2024.

Bydd arweinydd y modiwl yn trefnu sesiwn ychwanegol rithwir fyw am awr ac rydyn ni’n eich annog i fod yn bresennol.

Mae tri diben i’r sesiwn fyw yma:

  • mae'n creu lle diogel ichi ofyn cwestiynau sy'n deillio o'r rhan o'r cwrs a addysgwyd
  • mae'n gyfle defnyddiol ichi gysylltu â phobl eraill sy’n cymryd rhan
  • mae’n gyfle i gydweithio y tu hwnt i’r cwrs – e.e. prosiect ymchwil ar y cyd, cyd-oruchwylio myfyriwr israddedig neu fyfyriwr MSc ac ati.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy blatfform dysgu rhithwir y Brifysgol, sef Dysgu Canolog. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu hebostio atoch chi ychydig ddyddiau cyn ichi gael mynediad at y cwrs.

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.