Hanfodion Ymchwiliadau Delweddu Diagnostig ar gyfer Atgyfeirwyr Anfeddygol (ar-lein)
Cyflwynir y cwrs ar-lein hwn gan y tîm Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (DRI) yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Nod y cwrs yw rhoi'r wybodaeth arbenigol sydd ei hangen ar weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd i atgyfeirio pobl ar gyfer ymchwiliadau delweddu diagnostig.
Mae'r cwrs hwn wedi'i addasu o'n cwrs wyneb yn wyneb poblogaidd, ac mae wedi'i drawsnewidiwyd yn ddarpariaeth ar-lein yn ystod Covid-19.
Cwrs dysgu hunan-gyfeiriedig yw hwn, sy'n cynnwys tua 7-10 awr o astudio gan ddefnyddio cynnwys ar-lein. Bydd y cynnwys ar gael trwy'r wythnos i chi weithio drwyddo yn eich amser eich hun. Bydd dydd Llun yn cynnwys elfen fyw gan y tîm DRI. Rhagwelir y dylech ymgorffori tua 5-10 awr o astudio hunan-gyfeiriedig hefyd.
Nod y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar atgyfeirwyr anfeddygol i allu gofyn am ddelweddu diagnostig yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Unrhyw weithwyr Gofal Iechyd cofrestredig sydd angen gofyn am ddelweddu fel rhan o'i rôl.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r wybodaeth arbenigol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol atgyfeirio pobl ar gyfer archwiliadau delweddu diagnostig sy'n berthnasol i'w maes ymarfer.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Bydd gan y rhai sy'n cwblhau'r cwrs ddealltwriaeth o:
- ffurfio delweddau
- ansawdd delweddau
- dulliau delweddu
- ystyriaethau moesegol a chyfreithiol
- archwilio a llywodraethu clinigol
- canllawiau delweddu cenedlaethol a lleol
Pynciau dan sylw
Mae'r rhaglen ddysgu ar-lein wythnos o hyd hon yn ymwneud â dulliau delweddu, manteision gwahanol ddulliau, risgiau sy'n gysylltiedig â delweddu, defnyddio Systemau Archifo Lluniau a Chyfathrebu (PACS) a deddfwriaeth berthnasol, yn enwedig Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddiadau Meddygol) 2017, ac mae arholiad amlddewis i brofi cymhwysedd. Ar ddiwedd yr wythnos bydd arholiad amlddewis i brofi cymhwysedd.
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Cwrs rhithwir yw hwn, sy'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd a recordiwyd. Ar y diwrnod cyntaf rhoddir cyflwyniad byw i'r rhaglen. Byddwn yn cyflwyno manylion am ddisgwyliadau a fformat y cwrs, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau.
Byddwch yn gallu gweithio drwy'r deunydd dysgu ar eich cyflymder a'ch hwylustod eich hun. Bydd bwrdd trafod ar gael ar gyfer cwestiynau sy'n ymwneud â chynnwys, a gaiff ei ateb yn ddyddiol gan y tîm. Mae hwn hefyd yn gyfle i gael trafodaeth rhwng cymheiriaid.
Darperir sampl o gwestiynau amlddewis ynghyd ag atebion ac esboniadau pam bod atebion penodol yn gywir a pham nad yw'r atebion eraill yn gywir. Bydd hefyd cyfle i ofyn i'r tîm am arweiniad pellach.
Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall (fel manylion mewngofnodi) yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs. Ni fydd angen unrhyw offer arnoch oni bai am gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd da a chamera, a’r gallu i fewngofnodi i Zoom.