Rheoli’r Llwybr Anadlu mewn Argyfwng (EAM) wrth y Drws Ffrynt
Bydd y cwrs hwn yn helpu meddygon brys i ddefnyddio dulliau uwch o ansawdd uchel o reoli’r llwybr anadlu a rhoi anesthetig brys wrth ddadebru cleifion yn yr adran achosion brys.
Byddwch chi’n datblygu’r sgiliau sydd gennych chi ar hyn o bryd ym meysydd laryngosgopeg a mewndiwbio, yn ogystal â dysgu technegau modern ar gyfer rhoi anesthetig brys i gleifion yn eich ystafell ddadebru.
Mae'r cwrs dysgu cyfunol hwn wedi'i gynllunio'n ofalus er mwyn i chi allu cwblhau'r gydran e-ddysgu yn eich amser eich hun, gyda sesiwn wyneb-yn-wyneb undydd wedi’i chynnal gan glinigwyr profiadol ym meysydd mewndiwbio brys ac addysg feddygol. Bydd dysgu wyneb-yn-wyneb hefyd yn eich galluogi i rwydweithio, dod o hyd i fentoriaid a datblygu ymchwil a phrosiectau cydweithredol proffesiynol yn y dyfodol.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae'r cwrs hwn yn addas i feddygon brys sy'n ymarfer mewn adrannau achosion brys a lleoliadau cyn mynd i’r ysbyty ac sydd eisoes â sgiliau sylfaenol ym meysydd laryngosgopeg a rheoli’r llwybr anadlu. Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn unol â'r sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf ac argymhellion rhyngwladol, megis rhai Cymdeithas Meddygaeth Frys Ewrop.
Mae'r cynnwys yn briodol ar gyfer meddygon brys sy'n gweithio yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Crëwyd cynnwys y cwrs yn unol â chwricwlwm y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ac argymhellion Cymdeithas Meddygaeth Frys Ewrop ar gyfer rheoli’r llwybr anadlu mewn adrannau achosion brys.
Pynciau dan sylw
- Technegau mewndiwbio dilyniant cyflym (RSI) a mewndiwbio dilyniant wedi’i oedi (DSI) – dewis y cyffuriau cywir ar gyfer y dasg
- Rheoli llwybr anadlu wedi’i drochi – techneg Laryngosgopeg Sugno a Gwaredu a Glanhau’r Llwybr Anadlu (SALAD)
- Defnyddio llafnau tra-onglog ym maes laryngosgopeg
- Rheoli’r llwybr anadlu rhwng ataliadau ar y galon
- Awyru mecanyddol a thawelydd ôl-fewndiwbio
- Optimeiddio cyn ac yn ystod laryngosgopi
Manteision
Byddwch chi’n cael eich addysgu gan feddygon brys sydd â phrofiad o fewndiwbio mewn argyfwng a defnyddio technegau mewndiwbio dilyniant cyflym (ac wedi’i oedi) y tu mewn a'r tu allan i'r ysbyty. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth i sicrhau bod cleifion yn ein hystafelloedd dadebru ac yn y gymuned yn cael gofal o’r safon uchaf pan fydd angen rheoli’r llwybr anadlu mewn argyfwng.
Byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i rwydweithio ag eraill a ffurfio partneriaethau mentora at ddibenion ymarfer parhaus a datblygu sgiliau rheoli’r llwybr anadlu.