Ewch i’r prif gynnwys

Sgiliau Addysgu Effeithiol (ar gyfer Clinigwyr) (ar-lein)

Cwrs rhyngweithiol ac ymarferol iawn i gyflwyno egwyddorion sylfaenol mewn addysg feddygol i'r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am addysgu mewn lleoliadau clinigol.

Adran Academaidd ar gyfer Addysg Feddygol, Yr Ysgol Meddygaeth fydd eich hyfforddwr.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Wedi’i gynllunio ar gyfer Goruchwylwyr Clinigol, Darlithwyr, Hyfforddwyr, Goruchwylwyr Addysgol ac Arweinwyr Cyrsiau sy'n ymwneud ag addysgu ym maes meddygaeth / deintyddiaeth / fferylliaeth / nyrsio neu broffesiwn iechyd arall.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • sgiliau a thechnegau i'ch helpu i wella ac adfywio eich addysgu
  • sut i nodi cyfleoedd dysgu yn y gweithle a strategaethau ar gyfer cefnogi dysgwyr
  • egwyddorion ar gyfer llunio deunyddiau addysgol i gefnogi dysgu
  • manteision a chyfyngiadau addysgu mewn grwpiau mawr a bach
  • sut i asesu perfformiad eraill yn ystyrlon a chyflwyno adborth adeiladol

Pynciau dan sylw

  • sut rydym yn dysgu
  • dysgu yn y gweithle
  • addysgu sgiliau ymarferol
  • dylunio deunyddiau addysgol
  • rhoi a derbyn adborth adeiladol
  • technegau addysgu ar gyfer grwpiau mawr a bach

Manteision

  • ymgyfarwyddo â'r egwyddorion sy'n sail i ymarfer addysgol effeithiol mewn lleoliadau clinigol
  • cyfleoedd ymarferol i adolygu ac ehangu eich galluoedd addysgu
  • cefnogaeth gan dîm o hwyluswyr profiadol