Ewch i’r prif gynnwys

Effective assessment and screening of Musculoskeletal (MSK) conditions in Primary Care (blended)

Diben y cwrs hwn yw gwella gwybodaeth, sgiliau, a’r rhesymu o ran adnabod patrymau (diagnostig) ymysg ymarferwyr wrth asesu a sgrinio cleifion sydd â chyflyrau MSK ym maes Gofal Sylfaenol a Gofal Rhwng Sylfaenol ac Eilradd.

Byddwn ni’n defnyddio dull dysgu cyfunol, dull meddwl drwy systemau, gyda ffocws ar ddysgu seiliedig ar sefyllfaoedd i gyflawni hyn.

Noddir y cwrs hwn yn garedig gan Hallam Medical.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
7 Chwefror 2025 7 Chwefror (wyneb yn wyneb) and 23 Mai 2025 (ar-lein)
Ffi
£340

Ar gyfer pwy mae hwn

Ers y pandemig, rydyn ni i gyd wedi wynebu sefyllfaoedd lle roedd gofyn inni reoli cleifion â mwyfwy o gymhlethdod clinigol, yn aml gyda diffyg adnoddau.

Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw Weithiwr Proffesiynol Iechyd Perthynol (AHP) neu ymarferydd meddygol sy’n gweithio mewn rôl gofal Sylfaenol/Rhyngwyneb priodol, e.e., Ymarferwyr Cyswllt Cyntaf (FCPs), Ymarferwyr Nyrsio (NPs), Parafeddygon ac ati, sy’n aml yn gorfod asesu, sgrinio a rheoli cleifion sydd ag amrywiaeth o gyflyrau MSK.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Diben y cwrs hwn yw hybu hyder ac effeithiolrwydd ymysg clinigwyr wrth asesu a sgrinio cleifion sydd â chyflyrau MSK mewn gofal Sylfaenol/Rhwng Sylfaenol ac Eilradd, gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol, meddwl trwy systemau, sydd â phwyslais ar resymu yn seiliedig ar senario.

Bydd y cwrs yn anelu at drafod y prif feysydd a ganlyn:

Diwrnod 1 (wyneb yn wyneb)

Sesiwn 1: Risg glinigol, ymdopi ag ansicrwydd, sgrinio am batholeg ddifrifol, a lliniaru risg/sicrhau rhwydi diogelwch

Sesiwn 2: Gwneud y defnydd gorau o Radioleg ym maes gofal Sylfaenol/rhwng Sylfaenol ac Eilradd

Sesiwn 3: Rhesymu clinigol (yn seiliedig ar senario)

Diwrnod 2 (ar-lein)

Sesiwn 1: Sgrinio rhiwmatoleg mewn gofal Sylfaenol/Rhwng Sylfaenol ac Eilradd

Sesiwn 2: Y defnydd gorau posibl o brofion gwaed mewn gofal Sylfaenol/Rhwng Sylfaenol ac Eilradd

Pynciau dan sylw

Diwrnod 1 (wyneb yn wyneb)

Sesiwn 1: Risg glinigol, ymdopi ag ansicrwydd, sgrinio am batholeg ddifrifol, a lliniaru risg/sicrhau rhwydi diogelwch

  • cymhlethdod clinigol. Beth yw cymhlethdod clinigol a’r model Cynefin.
  • ansicrwydd.  Fframweithiau damcaniaethol at ddibenion rheoli ansicrwydd, ei drafod ac ymdopi ag ef
  • rheoli risg glinigol a’i lliniaru
  • sgrinio am batholeg ddifrifol

Sesiwn 2: Gwneud y defnydd gorau o Radioleg ym maes gofal Sylfaenol/rhwng Sylfaenol ac Eilradd

  • IRMER a’r ddeddfwriaeth allweddol
  • sut mae atgyfeirio mewn modd da?
  • dehongli'r adroddiad
  • dehongli delweddau pelydr-X ac MRI sylfaenol

Sesiwn 3: Gwydnwch a lles ymysg ymarferwyr

  • theorïau rhesymu clinigol
  • gweithdy rhesymu clinigol yn seiliedig ar senario

Diwrnod 2 (ar-lein)

Sesiwn 1: Sgrinio rhiwmatoleg mewn gofal Sylfaenol/Rhwng Sylfaenol ac Eilradd

  • pathoffisioleg
  • sefyllfaoedd Achos
  • awgrymiadau da ar Sgrinio am amryw o batholegau rhiwmatoleg cyffredin, gan gynnwys spondyloarthropathies, arthritis gwynegol, ac arthropathïau grisial

Sesiwn 2: Y defnydd gorau posibl o brofion gwaed mewn gofal Sylfaenol/Rhwng Sylfaenol ac Eilradd

  • pryd i defnyddio profion gwaed mewn gofal Sylfaenol/Rhwng Sylfaenol ac Eilradd, a phryd i beidio
  • pa brofion i'w hystyried, gan gynnwys crynodeb o’r defnydd o brofion gwaed cyffredin a’u cymhwysiad
  • sefyllfaoedd achos

Manteision

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch chi’n deall y canlynol yn well:

  • theori cymhlethdod clinigol a sylfaen y dystiolaeth sy’n gysylltiedig ag ef
  • sut i ymdopi ag ansicrwydd clinigol a rheoli risg glinigol
  • y broses a'r canllawiau ar sgrinio am batholeg ddifrifol yn achos cleifion sydd â symptomau MSK
  • cymhwyso archwiliadau radiolegol cyffredin gan gynnwys Pelydr-X ac MRI a’u dehongli mewn modd sylfaenol
  • pathoffisioleg, rhesymu adnabod patrymau a sgrinio patholegau rhiwmatoleg cyffredin
  • y defnydd gorau o brofion gwaed cyffredin a ddefnyddir at ddibenion sgrinio cleifion MSK, a’u dehongli’n sylfaenol, o fewn gofal sylfaenol/rhwng sylfaenol ac eilradd

Gwybodaeth am addysgu

Ar ôl cwblhau eich portffolio, byddwch chi’n cael tystysgrif DPP.  Does dim asesiad wedi'i gynllunio ar gyfer y gweithgaredd dysgu hwn.

Tua 5-10 diwrnod cyn pob sesiwn, byddwn ni’n rhannu gwybodaeth bwysig megis lleoliad, manylion mewngofnodi ar-lein ac ati gyda chi.

Lleoliad

Heath Park West (Adran Gwaith a Phensiynau gynt)
St Agnes Rd
Caerdydd
CF14 4US

Diben y cwrs undydd ar-lein hwn yw rhoi grym yn nwylo clinigwyr yng ngofal sylfaenol, gofal rhyngwyneb a gofal critigol i allu rheoli'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r mwyfwy o gymhlethdodau clinigol a wynebir yn ddyddiol mewn ffordd well.