Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain (Ar-lein)
Bydd y cwrs ar-lein hwn sy’n para chwe wythnos yn addysgu am Fwslimiaid ym Mhrydain a sut i ddeall ac edrych ar Islam o bersbectif cymdeithasegol yn y dosbarth addysg grefyddol (AG).
Bydd yn eich cyflwyno i bwysigrwydd profiadau go iawn o grefydd, hanfodion Islam fel traddodiad crefyddol, amrywiaeth hunaniaethau Mwslimiaid Prydeinig, a sut i ddefnyddio'r mathau gwahanol hyn o ddata ym maes AG.
Matt Vince fydd eich hyfforddwr.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
- athrawon sy'n addysgu am Islam ar lefel Cynradd neu Uwchradd
- athrawon all fod yn chwilio am gefnogaeth i ddatblygu cynllun gwaith am Islam a Mwslimiaid ar gyfer eu cwricwlwm AG
- addysgwyr sy'n awyddus i wella eu gwybodaeth bwnc am Islam
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, dylai’r dysgwyr allu gwneud y canlynol:
- disgrifio credoau ac arferion sylfaenol yn y traddodiad Islamaidd
- deall ac egluro'r ffyrdd y mae Mwslimiaid yn deall ac yn ymarfer Islam mewn cyd-destun Prydeinig
- deall agweddau ar hanes Mwslimiaid ym Mhrydain a sut mae hyn wedi siapio cymunedau Mwslimaidd cyfoes
- defnyddio safbwynt disgyblaeth cymdeithasegol wrth fynd ati i addysgu, gan ddefnyddio cysyniadau sylfaenol a dulliau dadansoddi
- ymgorffori'r syniadau hyn yn eich addysgu a dysgu yn y dosbarth
Pynciau dan sylw
- sut allwn ni ddeall crefydd mewn cymdeithas?
- beth mae Islam yn ei olygu i Fwslimiaid?
- sut mae Mwslimiaid yn dilyn ffynonellau crefyddol doethineb ac awdurdod heddiw?
- sut mae Mwslimiaid yn ymarfer eu crefydd?
- beth yw hanes Mwslimiaid ym Mhrydain?
- ble lleolir cymunedau Mwslimaidd?
- beth yw mosg?
- sut mae Mwslimiaid yn mynegi eu ffydd yn y celfyddydau?
- sut mae Mwslimiaid ym Mhrydain yn profi Islamoffobia?
Offer
Ni fydd angen unrhyw offer arbenigol arnoch ond bydd rhaid i chi gael mynediad at gyfrifiadur gyda chyswllt da â'r rhyngrwyd.
Cyflwyniad
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein.
- bydd dysgwyr yn defnyddio erthyglau wedi’u darlunio, fideos, cwisiau a fforwm trafod ar-lein
- bydd gweminar byw bob wythnos ar bwnc penodol dan arweiniad arbenigwyr yn y maes, a chyfle i bostio cwestiynau cyn ac ar ôl y gweminar
- cynhelir 2-3 sesiwn bob wythnos fydd yn cymryd tuag awr i'w cwblhau
- bydd y fforwm ar-lein yn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i drafod cwestiynau â’i gilydd a thiwtor, heb amserlen gyfyngedig. Drwy 'awr swyddfa' rithiol, bydd tiwtor y cwrs yn ateb cwestiynau o fewn uchafswm o 72 awr
- anogir y rhai sy’n cymryd rhan i ddefnyddio’r fforwm ar-lein i gyflwyno eu profiadau mewn mannau penodol yn y cwrs
- mae disgwyl i'r cwrs bara 6 wythnos
Manteision
Mae'r cwrs wedi'i ddatblygu gan dîm yn y Ganolfan Islam-y DU, sy'n arbenigo mewn ymchwil cymdeithasegol yn archwilio Mwslimiaid ym Mhrydain, ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn meysydd eraill Astudiaethau Islamaidd.
Nid yw'r wybodaeth a gwmpesir yn y cwrs hwn ar gael yn gynhwysfawr o ffynonellau eraill ac mae'n arddangos safbwyntiau addysgeg cyfredol o fewn AG gan ddefnyddio ymagweddau disgyblaethol amrywiol. Mae'r dull hwn wedi'i gymeradwyo gan Gyngor Mwslimiaid Prydain, Cyngor Mwslimiaid Cymru ac RE Today, un o brif gyrff proffesiynol athrawon Addysg Grefyddol ym Mhrydain.
Ochr yn ochr â'r cwrs mae cynllun gwaith yn llawn adnoddau gan gynnwys PowerPoints i addysgu, cynlluniau gwersi, taflenni gwaith disgyblion ac adnoddau cysylltiedig eraill. Mae gan ddysgwyr hefyd fynediad at adnoddau llyfrgell Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â chasgliadau o adnoddau am ddim ar bob pwnc.
Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys cyfle i fyfyrio ar sut i ddefnyddio eich dysgu wrth addysgu AG. Byddwch yn cael Tystysgrif ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i rwydweithio gydag athrawon AG eraill o bob rhan o'r DU, ac i rannu profiadau a syniadau.