Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu arbenigedd: cwrs ar-lein yn rhad ac am ddim sydd wedi'i deilwra'n benodol i gefnogi profiadau athrawon sydd newydd gymhwyso (ANG) yng Nghymru

Mae'r cwrs rhad ac am ddim hwn yn rhoi cyfle unigryw i athrawon sydd newydd gymhwyso ac athrawon cyflenwi yng Nghymru (a gymhwysodd yn Haf 2020 neu 2021).

Oes gennych chi ddiddordeb mewn:

  • cymryd rhan mewn cwrs dysgu proffesiynol cydweithredol wedi'i lywio gan ymchwil o ansawdd uchel
  • datblygu eich gwybodaeth broffesiynol ochr yn ochr ag athrawon eraill sydd newydd gymhwyso o bob rhan o Gymru
  • meithrin rhwydweithiau fydd yn eich helpu i ddeall ymarfer o wahanol safbwyntiau
  • ymgysylltu â syniadau allweddol a all gefnogi ymarfer sy’n deillio o ymchwil ac ymholi
  • bod yn athro/athrawes mwy hyderus a gwydn?

Ei nod yw cynnig cyfleoedd i ddatblygu ac ymestyn gwybodaeth broffesiynol a chael gwell dealltwriaeth o addysgu a chyd-destunau ystafell ddosbarth ehangach, yn rhan o gymuned genedlaethol.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Sylwch fod y cwrs hwn ar gael i'r rhai sy'n gweithio yng Nghymru yn unig.

Ariannwyd y cwrs hwn yn garedig gan Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) y Brifysgol ac felly mae'n rhad ac am ddim ac yn agored i athrawon newydd gymhwyso ac athrawon cyflenwi a enillodd statws athro cymwys (QTS) yn Haf 2020 neu 2021, sydd newydd ddechrau mewn NQT yng Nghymru neu wedi dychwelyd i addysgu yng Nghymru yn dilyn seibiant.

Sesiynau Byw

Mae 3 sesiwn fyw ar ôl rhwng nawr a diwedd mis Mehefin, ac anogir cyfranogwyr i ymuno â'r rhaglen ar unrhyw adeg - bydd trafodaethau'n cael eu hadeiladu o amgylch eich profiad felly byddwch yn elwa o bob sesiwn y byddwch yn mynd iddi.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle euraidd i chi fagu hyder, ehangu eich gwybodaeth broffesiynol a myfyrio ar ymarfer proffesiynol.

Mae'r cwrs yn gydweithredol a bydd yn cael ei lunio mewn ymateb i anghenion penodol y rhai sy’n cymryd rhan wrth iddynt ddechrau ar eu blwyddyn gyntaf o addysgu. Bydd cynnwys a dull cyflwyno’r cwrs yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol, a bydd yn defnyddio syniadau damcaniaethol allweddol, trwy drafodaeth.

Nod y cwrs yw cefnogi gwytnwch a lles athrawon sydd newydd gymhwyso. Bydd yn cynnig lle diogel i ddatblygu arbenigedd trwy feddwl yn heriol a rhagdybiaethau am brofiad ac ymarfer.

Bydd y cwrs yn dod â syniadau ynghyd ynghylch:

  • datblygu a myfyrio ar ymarfer (addysgu, dysgu, asesu, gweithio gyda disgyblion, myfyrio beirniadol)
  • gweithio ar y cyd (rhannu syniadau, ceisio cyngor a chefnogaeth, gweithio gyda chydweithwyr)
  • dysgu proffesiynol parhaus ac ymgysylltu ag ymchwil i gefnogi ymarfer

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd y cwrs yn cynnwys un sesiwn bob hanner tymor (yn ystod y tymor yn unig).

Bydd pob sesiwn yn cynnig tua 3 awr o ddysgu craidd ac yn cynnwys:

  • Awr o ddeunyddiau cymorth, gweithgareddau a darllen anghydamserol wedi'u recordio/eu paratoi ymlaen llaw (i'w cwblhau cyn y sesiwn fyw)
  • Sesiwn addysgu ryngweithiol fyw 2 awr o hyd am 19:00

Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein.  Byddwn yn darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall (fel manylion mewngofnodi) yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs. Caiff y deunyddiau dysgu eu cyflwyno drwy Dysgu Canolog (neu blatfform amgylchedd dysgu rhithwir tebyg) a byddant ar gael yn ystod y cwrs.

Ni fydd angen unrhyw offer arnoch oni bai am gyfrifiadur gyda chysylltiad da â’r rhyngrwyd, camera, a’r gallu i fewngofnodi i Zoom.

Manteision

Mae’r rhaglen hon:

  • yn cynnig cyfle o ansawdd uchel ar gyfer datblygu gwybodaeth a thwf proffesiynol
  • yn canolbwyntio ar gymhwysedd ac effaith ar ymarfer proffesiynol
  • yn hynod ryngweithiol ac yn cael ei harwain gan athrawon ac addysgwyr profiadol o gyd-destunau ysgolion, Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU)
  • yn cael ei chynnal trwy blatfform 'Dysgu Canolog' y Brifysgol sy'n caniatáu hyblygrwydd a rhyngweithio defnyddwyr
  • yn tynnu ar gynnwys ac ymchwil gyfredol ac arloesol
  • yn cael ei chyflwyno mewn ffordd gydlynol, gyda phwyslais ymarferol, gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn
  • yn datblygu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol allweddol mewn ymarfer addysgu a myfyrio beirniadol
  • yn cael ei llywio i fod yn berthnasol i'ch materion a'ch heriau proffesiynol penodol

Mae ein tîm

  • yn cynnig awyrgylch cyfeillgar, croesawgar a chefnogol ar gyfer dysgu
  • yn derbyn adborth rhagorol yn gyson gan ddysgwyr

Mae'r dyluniad yn eich galluogi i:

  • ymgymryd ag elfen astudio annibynnol y cwrs ar amser sy'n addas i chi, ac ar eich cyflymder eich hun

Arweinwyr y cwrs

Emmajane Milton - Darllenydd Addysg, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Dr Alexandra Morgan - Darlithydd Addysg, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Heather Pennington - Darlithydd Addysg, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Rydym yn cynnig nifer o raglenni cyffrous, gan gynnwys cyrsiau Di-wastraff a Rheoli. Mae'r rhain yn eich galluogi i gael safbwyntiau newydd ar amrywiaeth o faterion busnes a rheoli.