Adsefydlu cleifion difrifol wael (ar-lein)
Mae'r cwrs ar-lein hwn yn un o gyfres o bedwar gan y tîm Gofal Critigol yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i ofalu am gleifion sydd wedi bod yn ddifrifol wael.
Cwrs dysgu hunangyfeiriedig yw hwn, sy'n cynnwys tua 7-10 awr o astudio. Bydd y cynnwys ar gael trwy'r wythnos i chi weithio drwyddo yn eich amser eich hun.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.
Cofrestru eich diddordebAr gyfer pwy mae hwn
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig addas sy'n gweithio ym maes gofal acíwt a chritigol.
Gall hefyd helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n gofalu am gleifion ar ôl eu salwch critigol.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Ar ôl i chi gwblhau hyn, byddwch yn gallu:
- deall problemau sy'n gysylltiedig ag adsefydlu cleifion sy'n ddifrifol wael.
- ystyried goroesedd.
- deall ffactorau sy'n helpu i hyrwyddo adsefydlu cleifion sy'n ddifrifol wael.
- ystyried pryd y dylid dechrau adsefydlu cleifion gofal critigol
- ystyried problemau, poen a lles ôl-ddwys.
- ystyried dulliau newydd o adsefydlu pobl sy'n ddifrifol wael
Manteision
Byddwch yn elwa ar ddeall tystiolaeth a damcaniaethau am adsefydlu cleifion sydd, neu sydd wedi bod, yn ddifrifol wael.
Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio'n benodol i'w gyflwyno’n gwbl rithwir; byddwch yn elwa ar sesiynau dan arweiniad tiwtoriaid, sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw ac ymarferion rhyngweithiol.
Anogir trafodaeth er mwyn i chi gael y cyfle i rwydweithio a chyfnewid syniadau gyda'ch cyfoedion.
Rydym wedi cyfyngu ar nifer y lleoedd er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu gorau posibl.
Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau TG drwy gydol y cwrs.
Dull cyflwyno
Cynhelir y cwrs ar-lein hwn drwy blatfform dysgu'r Brifysgol (Dysgu Canolog); mae'r cwrs yn cynnwys cyflwyniadau wedi'u recordio a chyfryngau clywedol eraill, testunau ysgrifenedig, canllawiau, deunydd darllen a argymhellir, a dolenni gwe.
Bydd tîm y modiwl ar gael i roi cymorth ac arweiniad trwy’r fforymau trafod. Byddan nhw hefyd yn cynnal gweminar cyflwyniadol byw.
Asesu
Byddwch yn dangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth drwy fyfyrio personol a thasgau ar-lein yn neunyddiau’r cwrs.