Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i sepsis (ar-lein)

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn un o gyfres o bedwar gan y tîm Gofal Critigol yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae'r cwrs hwn yn archwilio sepsis, gan gynnwys arwyddion a symptomau, sgrinio, a chanllawiau ar gyfer ei reoli.

Cwrs dysgu hunangyfeiriedig yw hwn, sy'n cynnwys tua 7-10 awr o astudio. Bydd y cynnwys ar gael trwy'r wythnos i chi weithio drwyddo yn eich amser eich hun. Bydd yn cynnwys elfen fyw gan y tîm Gofal Critigol ddydd Llun.

Bydd dydd Llun yn cynnwys sesiwn ragarweiniol fyw gan y tîm Gofal Critigol (09:30 – 10:25), sy'n ddewisol.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Addas ar gyfer unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Ar ôl i chi gwblhau hyn, byddwch yn gallu:

  • diffinio sepsis
  • ystyried maint sepsis
  • adnabod arwyddion a symptomau sepsis
  • ystyried sepsis yn y cyd-destunau cyn-ysbyty ac acíwt
  • nodi sgrinio a chanllawiau ar gyfer rheoli sepsis
  • ystyried goroesedd o sepsis

Manteision

Byddwch yn elwa ar ddeall y dystiolaeth a'r damcaniaethau ynghylch sepsis.

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio'n benodol i'w gyflwyno’n gwbl rithwir; byddwch yn elwa ar sesiynau dan arweiniad tiwtoriaid, sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw ac ymarferion rhyngweithiol.

Anogir trafodaeth er mwyn i chi gael y cyfle i rwydweithio a chyfnewid syniadau gyda'ch cyfoedion.

Rydym wedi cyfyngu ar nifer y lleoedd er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu gorau posibl.

Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau TG drwy gydol y cwrs.

Dull cyflwyno

Cynhelir y cwrs ar-lein hwn drwy blatfform dysgu'r Brifysgol (Dysgu Canolog); mae'r cwrs yn cynnwys cyflwyniadau wedi'u recordio a chyfryngau clywedol eraill, testunau ysgrifenedig, canllawiau, deunydd darllen a argymhellir, a dolenni gwe.

Bydd tîm y modiwl ar gael i roi cymorth ac arweiniad trwy’r fforymau trafod. Byddan nhw hefyd yn cynnal gweminar cyflwyniadol byw.

Asesu

Byddwch yn dangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth drwy fyfyrio personol a thasgau ar-lein yn neunyddiau’r cwrs.

Mae hwn yn un o gyfres o bum cwrs DPP ar-lein mewn Gofal Critigol.