Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i roi organau (ar-lein)

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn un o gyfres o bedwar gan y tîm Gofal Critigol yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i roi organau ac mae'n cynnwys pynciau fel cydsyniad, fframweithiau cyfreithiol a moesegol, ac arfer gorau.

Cwrs dysgu hunangyfeiriedig yw hwn, sy'n cynnwys tua 7-10 awr o astudio. Bydd y cynnwys ar gael trwy'r wythnos i chi weithio drwyddo yn eich amser eich hun. Bydd yn cynnwys elfen fyw gan y tîm Gofal Critigol ddydd Llun.

Bydd dydd Llun yn cynnwys sesiwn ragarweiniol fyw gan y tîm Gofal Critigol (10:00), sy'n ddewisol.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

Addas ar gyfer unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn rhoi organau sy'n ceisio ehangu eu gwybodaeth am y pwnc.

Gall fod yn arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio mewn meysydd gofal acíwt a chritigol.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Ar ôl i chi gwblhau’r gweithdy, byddwch yn gallu:

  • disgrifio cyd-destun rhoi organau yn y DU, gan gynnwys:
    • Caniatâd/awdurdodiad
    • Y fframweithiau cyfreithiol a moesegol, safonau cenedlaethol a chanllawiau arfer gorau
    • Safbwyntiau diwylliannol/crefyddol
  • disgrifio’r diagnosis o farwolaeth gan ddefnyddio meini prawf niwrolegol
  • disgrifio dulliau arfer gorau o roi organau ar ôl marwolaeth niwrolegol / yr ymennydd (DBD) a rhoi organau ar ôl marwolaeth cylchrediad y gwaed (DCD) gan gynnwys:
    • adnabod rhoddwyr posibl ac atgyfeirio at arbenigwyr mewn rhoi organau
    • asesiad rhoddwyr ar gyfer addasrwydd a gwrtharwyddion
    • torri newyddion drwg a'r dull teuluol
    • cael caniatâd/awdurdodiad
    • rôl optimeiddio rhoddwyr ar ddeilliannau'r organau a drawsblannir
    • dyrannu organau i'w trawsblannu
  • diffinio a chydnabod y potensial ar gyfer rhoi meinweoedd mewn ardaloedd clinigol amrywiol a'r gymuned a nodi meinweoedd y gellir eu rhoi i'w trawsblannu

Manteision

Mwy o wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch rhoi organau.

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio'n benodol i'w gyflwyno’n gwbl rithwir; byddwch yn elwa ar sesiynau dan arweiniad tiwtoriaid, sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw ac ymarferion rhyngweithiol.

Anogir trafodaeth er mwyn i chi gael y cyfle i rwydweithio a chyfnewid syniadau gyda'ch cyfoedion.

Rydym wedi cyfyngu ar nifer y lleoedd er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu gorau posibl.

Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau TG drwy gydol y cwrs.

Dull cyflwyno

Cynhelir y cwrs ar-lein hwn drwy blatfform dysgu'r Brifysgol (Dysgu Canolog); mae'r cwrs yn cynnwys cyflwyniadau wedi'u recordio a chyfryngau clywedol eraill, testunau ysgrifenedig, canllawiau, deunydd darllen a argymhellir, a dolenni gwe.

Bydd tîm y modiwl ar gael i roi cymorth ac arweiniad trwy’r fforymau trafod. Byddan nhw hefyd yn cynnal gweminar cyflwyniadol byw.

Asesu

Byddwch yn dangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth drwy fyfyrio personol a thasgau ar-lein yn neunyddiau’r cwrs.

Mae hwn yn un o gyfres o bum cwrs DPP ar-lein mewn Gofal Critigol.